Skip to main content

Y DYSGEDYDD. ŴítttjẀtt. Y PAECH. LEWIS EÝERETT, DYSERTH, Y mae rhestr byddin y gweinidogion Annibynol wedi ei bylchu yn ddiweddar, raewn amryw gymydogaethau yn Ngogledd Cymru. Y mae gwrthddrych ein Cofiant byr presenol wedi ei rifo erbyn hyn gyda y rhai a fu, ac y mae yn teilyngu sylw cyhoeddus. Dilynodd y diweddar Jay o Bath yn ei ddarlithiau, fel Cristion, ac yn holl daith ei fywyd a'i angeu yn fanwl iawn. Cymerodd olwg arno yn ei holl agweddau yn mhob man,—yn Nghrist, yn yr ystafell ddirgel, yn y teulu, yn yr eglwys, yn y byd, yn ei lwyddiant, yn ei aflwyddiant, yn ei gystuddiau crefyddol, yn ei lawenydd ysbrydol, yn angeu, yn y bedd, ac yn y diwedd inewn gogoniant. Ni fyddai yn briodol i ni yma ddilyn hanes bywyd Mr. Everett gyda y fath fanylder. Bydd ychydig o nodiadau cyffredinol arno yn fwy cydweddol ag aincan hyn o Fywgrafhad. Ganwyd ein cyfaill Chwefror 20, 1799, yn Ngronant, yn mhlwyf Llanasa, yn sir Fflint. Yr oedd ei rîeni yn deulu crefyddol, ac yn preswylio yny Felindre, gerllaw Newmarket. Buont fyw byd oedran teg. Yr oedd ei dad yn arfer ei ddawn fel pregethwr achlysurol gyda'r Annibynwyr, ac wedi bod yn dra llafurus a llwyddiannus yn ei gymydogaeth fel cynghorwr, a chefnogwr yr Ysgol Sabbathol. Cafodd addysg dda, mewn ysgolion cymeradwy, er yn fachgen. Yr oedd ei ysgrifenlaw yn dlos a glan, ac yn rhagori ar y cyffredin. Bu yn gwasanaethu fel ysgrifenydd mewn masnach- dai enwog yn Manchester, yn adeg gynnarol ei fywyd. Yr oedd ef yn ymwybodol o fod dan argraffiadau crefyddol er yn more ei oes. Ymunodd ag achos yr Arglwydd yn Ninbych, yn ystod yr amser yr oedd ei frawd, y Parch. Robert Everett, (yn awr Dr. Everett, America,) yn weinidog yno, ac yno y derbyniwyd ef i aelodaeth eglwysig. Yr ydoedd ef o deimladau naturiol lled dwymn a gwresog, ac felly nid hir y buwyd heb wybod fod ynddo duedd at y weinidogaeth gyhoeddus. Ni allai na fynegai yr hyn a welodd ac a glywodd. Yr oedd yn meddiannu ar ddawn ymadrodd llithrig a dedwydd, ac yr oedd yn nodedig o effeithiol mewn gweddi gyhoeddus. Fel hyn, yr oedd yn naturiol i'w gyfeillion ei annog i arfer ei ddawn yn gyhoeddus, ac i bregethu. Yn fuan wedi ymgymeryd â'r gwaith, rhoddodd brofion boddhaol i'r byd fod ynddo gymhwysderau gweinidogaethol. Der- byniodd alwad unfrydol yn fuan oddiwrth eglwys oedd heb fod yn nebpell o Ddinbych, sef Llangwyfan ; ac wedi cydsynio â'u gwahoddiad, neillduwyd ef yn gyhoeddus i waith cyflawn y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1831. Wedi bod yn llafurio yno, gyda graddau rnawr o lwydd- iant, derbyniodd alwad drachefn oddiwrth eglwysi Llanrwst, Trefriw, a Iokawe, 1864. A