Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 228.] RHAGFYR, 1840. [Cyf. XIX. GEIRIAU DIWEDDAF PLENTYN. Teilwng iawn o efelychiad yw'r arddang- osiadau o grefydd yn yr enaid a amlygir mor addas yn nodweddiadau niferi o'r sawl a'i meddant; ac nid ychydig yw yr anghreifftiau a allem ddwyn gerbron o effeithiau duwioldeb mewn oedran boreu iawn. Ac, yn ddiau, crefydd o ychydig wertb yw hòno na fyddo yn egluro ac yn cymeradwyo ei hun yn mhob nodwedd- iad, sefyllfa, ac oedran. Yn mhlith eraill canfyddwn yr effeithiau crybwylled- ig yn ngwrthddrych plentynaidd y nod- iadau presenol; ac yn ddios teilyngant sylw ac efelychiad plant ac ieuenctyd ein gwlad yn gyffredinol; ac O na fyddai rhagor o'r fath áddurniadau boreuol i'w canfod yn ffurfiad nodweddiadau! George Flower, y gwrthddrych cyfeir- iedig ato yma, ydoedd blentyn i foneddwr o'r un enw, o dduwioldeb nodedig, ac o argyfrifiad uchel yn Llundain yn y canrif diweddaf. Bu Mr. Flower yn ddiacon am lawer o flynyddoedd o'r Eglwys Gyn- nulleidfaol yn White Row, dan ofal gweinidogaethol y Parch. E. Hitcben. Coleddai deimladau o dynerwch mawr at ei blant, ac awyddfryd neillduol am eu hiechydwriaeth; ac wedi bywyd o ym- gyflwyniad i wasanaeth ei Arglwydd mawr, gorphenodd ei yrfa yn fuddugol- iaethus, gan adael cyflawn dystiolaeth o'i ddiogelwch a'i fynediad i fythol wynfyd. Dilynodd ei blant o'u mabandod i fyny yr un hynodol gamrau mewn duwioldeb, a rhai o honynt hyd i oedran mawr, yn enwedig felly y ddiweddar Mrs. Clayton, gwraig y Parch. J. Clayton, hynaf, o Lundain; ond eraill o honynt a fuont feirw yn ieuainc, etto mewn gobaith ded- wydd am fwynhad gogoniant, ac un o ba rai ydoedd y George bychan sydd yn awr dan sylw. Ymddengys ei fod yn blentyn December, 1840.] gwir gymeradwy, nodedig agobeithlawn; ac oddiwrth ysgrifen o eiddo ei dad a adawodd ar ei ol, ymddengys fod gwaith dwyfol ras wedi ei ddwfn wreiddio yn ei enaid. Enwir yr ysgrif, "Mynegiadau George Flower ychydig ddiwrnodau cyn ei farwolaeth wedi gyrfa o naw mlynedd a chwe mis. Bu farw ar y 18fed o Fawrth, 1767." Ei dad a ysgrifena fel hyn: "Wythnos i'r dydd ar yr hwn y bu farw, pryd yr oedcl efe o ran ei feddwl mewn agwedd felus a nefolaidd, gofyn- wyd iddo, A oedd ddim yn dewis yn hytrach gael byw, a bod yn gysur i'w riaint. Ei ateb oedd, Efallai y gallasai droi allan yn drallod iddynt, a'i fod yn dewis myned at ei chwaer, (plentyn a gollasom dairblyneddyn ol.) Adroddodd ddau benill o'r 17 Salm gan Dr. Waíts: * Y bywyd hwn sydd freuddwyd br'au, I fyd o sylwedd 'rwy'n neshau, Lle mae llawenydd gwell mewn llaw,— Pa bryd y caf ddihuno draw? 0 ddedwydd awr! 0 wynfyd gwiw! Caf fod gerllaw ac fel fy Nuw! Ac ni thýr pechod mwy na chnawd Ddiddanwch tlws fy enaid tlawd.' "Ymdrechodd ganu y penillion hyn, ond nis gallai; a dynmnodd ar ei fam wneuthur. Dywedodd wrthyf, mai ;ara a fath agwedd meddwl a hyn yr oedd wedi gwedd'io y nos o'r blaen. Dywed- odd ei fod yn gweled y pwysfawredd o gael rhan yn Nghrist, ac yn dewis yn hytrach gael bod yn canu gyda myfi uchod na sefyll y dydd addaw, a'm clywed yn adrodd y geiriau arswydfawrhyny wrth Dduw. Nis gwyddwn pa béth a feddyl- iai; ond efe, fel yma, a eglurodd hyny ei hun:—'Gwyddoch, fy nhad, i chwi ddywedyd wrthyf y byddai yn rhaid i chwi yn y dydd mawr sefyll, a dywedyd,- 45