Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 227.] TACHWEDD, 1840. [Cyf. XIX. PREGETH AR RHUF. I. 20. " Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth ei hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg ; sef ei dragywyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus." Tybir fod yr Epistol at y Rhufeìniaid wedi ei ysgrifenu o Corinth, pan oedd Paul ar hynt drwy dir Groeg. Yn y gylchdaith hon tynwyd ei sylw ynneillduolatsefyllfa y cenhedloedd paganaidd, ac ymddengys mai atynt hwy y cyfeiria yn y testun. Cy- merai rhai o honynt arnynt eu bod yn dra gwybodus. Galwent eu hunain, y doeth- ion ; ond yn nghanol eu holl ymffrost hwy a aethant yn "ffyliaid." Er gweled go- goniant, a deall cysondeb gweithredoedd natur, cauasant eu llygaid rhagcanfodyr Awdwr. Ië, "newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid ped- war carnol, ac ymlusgiaid." Sylwn yn I. Fod hanfod Duw yn anweledig: " Ei anweledig bethau ef." 1. Anweledig yw y priodoliaetb.au a bri- odolir iddo, onid yn eu gweithrediadau; megys cariad, santeiddrwydd, amynedd, cyfiawnder, trugaredd, doethineb, gallu, &c. Yr ydym mor arferol o wneuthur lluniau pethau á'n dyehymyg fel mai o'r braidd y medrwn feddwl hebddynt; a digon tebyg ein bod yn portreiadu i ni ein hunain ddelwau cariad, trugaredd, &c. fel pethau teimladwy, gweledig, pan mewn gwirionedd na pherthyn i un o honynt na lliw na llun, na hyd- na lled. Ond er fod hanfod cariad yn anweledig, edrychwn i'r man y mynom gwelwn weithrediadau cariad; er fod hanfod cyf- iawnder yn anweledig, edrychwn i Gal- faria, a gwelwn weithrediadau cyfiawnder yn taro y Cyfryngwr nes oedd natur yn Hewygu; er fod hanfod santeiddrwydd yn anweledig, edrychwn i'r nef, a gwelwn ei gweithrediadau yn paentio pob wyneb, pob telyn, a phob mur; er fod hanfod doethineb yn anweledig, edrychwn ar drefn achub, gwelwn weithrediadau Noyember, 1840.] "mawr amryw ddoethineb;" erbod han- fod gallu yn anweledig, edrychwn ar greadigaeth, rhagluniaeth, &c. gwelwn ei gweithrediadau bob dydd. Pan sonir am Iehofa yn meddiannu rhanau gtceledig, nid ydynt ond cydmariaethau a ddef- nyddir i osod allan weithrediadau ei briodoliaethau amccledig. Wrth ei gefn y deallir, weithiau, gweithrediadau ei gariad yn anghofio bai. Wrth ei glustiau y deallir, gweithrediadau ei drugaredd yn gwrando gweddi y tylawd. Wrth ei draed y deallir, gweithrediadau ei gyf- iawnder yn dial ar ei elynion. Ac wrth ei fraich y deallir gweithrediadau ei allu yn creu, cynnal, &c. Y priodoliaethau aniccledig hyn ydynt hanfod y Duwdod; o ganlyniad, rhaid ei fod ef ei hun yn anwetedig, ond yn ei weithrediadau. Yn y nef mae defnynau cariad yn disgyn, ond y cwmwl yn anweledig; ac yn uffern y mae cleddyf cyfiawnder yn cael ei ys- gwyd, ond y fraich yn anweledig. 2. Anmhosibl i/odmeidrol ganfod han- fod Bod anfeidrol. Mae Duw yn holl- bresenol, byddai raid i ninaufod fellycyn y medrem weled ei hanfod; a chabledd fyddai dychymygu gweled rhan o Dduw, megys ei law, &c. Na tbybiwn am dano ef yn eistedd ar ei orsedd, ei ben yn derehafu goruwch y nefoedd, a'i draed yn cyrhaedd i lawr i'r ddaear. Rhan o hono yn y nefoedd, rhan ar y ddaear, a rhan yn uffern. Ei glustiau, ei lygaid, ei ddwylaw, a'i draed mewn gwahanol fanau. Yn clywed yn un man, yn gweled mewn man arall, ac yn teinilo niewn man arall. Ond meddyliwn am Dduw a'i glustiau ynmhob man, ei lygaidynmbob man, a'i draed yn mhob man. Duw igyd yn y nefoedd, Duw i gyd ar y ddaear, Duw i gyd yn uffern, a Duw i gyd yn. 41