Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 226.] HYDREF, 1840. [Cyf. XIX. SYLW AR ADOLYGIAD Y PARCH. SAMUEL ROBERTS.* AT OLYGYDD Y DEYSORFA. Barciiedig Syr,—Ychydig a feddyliais, wrtli ysgrifenu fy llyfryn bychan ar Natur Eglwys, y buasai yn peri cymaint o gythrwfl yn mhlith fy nghydwladwyr. Y mae dau eisoes wedi ymddangos ar y maes i'w wrthwynebu yn gyboeddus; a dywedir fod un etto, os nad ychwaneg, yn ddiwyd nos a dydd wrth y gwaith o gyfansoddi atebiad iddo—heb son dim am y lluaws o fan-íy thyrau sydd yn gwibio drwy bob rhan o'r dalaeth ar yr un achos. " What great effects from small beginnings spring ?" Am y cyntaf o'r ddau sydd wedi dyfod allan yn barod^ sef Mr. Parry, nid oedd genyf, pan ysgrifenais atoch o'r blaen, yr un fantais i farnu ond trwy gyfrwng ei lytbyr ef ei hun; ac nid wyf etto yn gwybod dim am dano ond sydd yn mhob ystyr yn ganmoladwy. Y mae yr ail, sef Mr. Roberts, yn adnabyddus, dybiwyf, i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y Drysorfa, drwy hanes o leiaf, fel dyn hynaws a thirion, ac fel Gweinidog defnyddiol, "teilwng o barch dauddyblyg." Mewn perthynas i'w Lyfr, y mae ynddo lawero Sylwadau rhagorol yn erbyn Pab- yddiaeth, yn erbyn gorfodaeth, ac yn erbyn difeddiannu, carcharu, a llosgi dyniou oblegid eu crefydd. A gadawaf y rhai sydd yn amddiffyn y cyfryw bethau i'w ateb os byddant yn dewis. Ond nid oes anghen hysbysu fy mharchedig gyfaill o Lanbryn- mair, fod rbyw radd o wahaniaeth rhwng y grefydd Babaidd a chrefydd Luther a Chalfin ; rhwng esgobyddiaeth a henaduriaeth; rhwng cyfundeb gorfodol a chyfundeb gwirfoddol; ac nadyw son am ddrygau y naill ochr yn ddigon i brofì anghyfreithlon- deb y lla.ll. Yr un mor briodol fyddai i minau ddweyd mai y diafol oedd yr Annibynwr cyntaf, a dwyn yn mlaen yr holl ddrwg a wnaethpwyd ganddo erioed fel rheswm yn erbyn Annibyniaeth. Mewn perthynas i ysbryd y gwaith, yr wyf yn gwybod nas gallaf ddywedyd dim a rydd foddlonrwydd i bawb. Y mae yn ddiammau y bydd ein brodyr Annibynol yn edrych arno fel darlun perffaith o dymher efengylaidd. Y mae yn naturiol iddynt feddwl felly. Ond nis gellir dysgwyl na fydd gwahaniaeth barn am hyn fel am bob peth arall. Gan hyny, fel y dywedai hen wr duwiol ag sydd yn gofus gan lawer o drigolion y Bala, "Os gwelwch chwi yn dda, Syr, ni a adawn y mater yma yn y fan yna." Digon tebyg y bydd llawer yn digio y tro hwn etto, fel y tro o'r blaen, eisieu i mi ddweyd mai dyma y Llyfr mwyaf " boneddigaidd" a ysgrifenwyd erioed. Wele, gadawer iddo fod felly o'm rhan i: nid wyf yn meddwl mynecl i'r drafferth o ddadleu à neb o bárth'ed i'w ysbryd na'i gorff. Y mae yn amlwg mai gorchwyl anorphen fyddai cyfansoddi ateb am ateb i bob awdwr a deimlo duedd i'm gwrthwynebu; ac o ganlyniadnid wyf yn bwriadu decbreu. Ond gan nad oeddwn yn amcanu fy llyfryn fel traethawd manwl ar undeb eglwysig, a chan fod anghen am rywbeth o'r fath, teimlaf weithiau ryw gymhelliad i ymgynnyg athyny, nid er mwyn ateb neb, na chyda golwg ar neb ynueillduol, ond "er Ues y dynol dculu" yn gyffredinol. Ymdrechaf ei ysgrifenu yn gymhwys yn yr un dulîa phe na buasai Mr. R. na'i Lyfr wedi dyfod erioed i fod. Ond nis gadewir yr un rheswm sydd wedi ymddangos, hyd y byddaf yn gwybod am dano, yn Gymraeg na Saesonaeg, yn erbyn Henaduriaeth, heb ryw ymgais i'w ateb. Felly, pa beth bynag sydd yn perthyn i'r mater ceir cyfie i ymdrin ag ef y pryd hwnw. Ond gan fod Mr. R. wedi camddeall, a thrwy hyny yn anfwriadol wedi eamddarlunio, amryw betbau perthynol i'm llyfryn, ac i drefn y Methodistiaid Calfinaidd, "goddefer i mi ychwanegu ychydig etto mewn ffordd o eglurhad:— 1. Nid oeddwn yn ei fwriadu fel ymosodiad ar neb; ac nid oeddwn yn tybied fod ynddo ddim nas gallai yr Annibynwyr gydfyned ag ef, oddieithr fod rhyw wehilion o honynt yn para i ddal egwyddorion y Browniaid. Yr wyf yn eithaf sicr nad oes ynddo ddim o bwys yn groes i syniadau y Dr. Owen, a'r hen Buritaniaid. Gweler " The true nature ofa Gospel Church," llyfr a ysgrifenwyd gan Dr. O. yehydig cyu ei farwolaeth. Yr wyf mor sicr hefyd nad oes ynddoddim yn wrthwynebol i'r cyffredinolrwydd o Gyn- • nulleidfawyr yr oes hon. Dywedai un o'i Gweinidogion mwyaf cyfrifol, mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar yn Llundain, yn ngwydd cannoedd o'i frodyr, nad oes dim * Cyraerasom y Llythyr hwn o'r Drysorfa am fis Gorphennf diweddaf, er rhoddi eyfleusdra feg i'n Oarllenwyr weled y däwy ochr i'r ddadl. Ni wyddai Mr. Roberts (mwy na Mr. Edwards) y buasera yn gwneuthur hyn pan yn ysgrifenu ei Nodiadau cànlynol i'r wasg.—Gol. OcTOBEif, 1840.] 37