Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Riiif. 225.] MEDI, 1840. [Cyf. XIX. COFIANT BYR AM WILLIAM GRIFFITH, MARY JONES, ELI2ABETH SILYANUS, AC ELIZABETH JONES. WILLIAM GRIFFITH. Gwrthddrych y cofîanthwnyw William Grifiìth, saer llongau, Caergybi, Môn. Ganed a maged ef yn nhref Caernarfon. Ymunodd ag Eglwys Gynnulleidfaol Pen- ydref, Caernarfon, tua deuddeng mlynedd yn ol. Priododd yn fuan wedi hyn, a daeth gyda'i briod i aros i Gaergybi. Bu farw ar yr 17eg o Ebrill diweddaf. Yr oedd ganddo wraig a phump o blant, ac nid oedd yr hynaf ond prin ddeg oed. Pregethodd y Parch. W. Griffith, Caer- gybi, cyn cychwyn y corfF i dorf luosog o frodyr a chwiorydd. Ei oedran ydoedd 34. Bu am rai blyneddau o'i yrfa grefyddol heb ddim hynodol ynddo; ond yn nghylch tairblynedd yn ol arwyddodd ei enwgyda'r dirwestwyr; rhoes y goreu ar unwaith i'r cwrw a'r tybaco. Yr oedd ei sel yn fawr am bob cyfarfodydd cref- yddol,—pregethau, gwedd'iau, eglwysig, &c. Ni welais i mo'i gyffelyb yn hyn. Ymwelai â chleifion, a chynghorai hwynt i ffoi rhag y llid a fydd. Mor daer y gweddiai gyda hwynt! Ei fwyd a'i ddiod oedd gwneuthur daioni. Nid ymddang- osai byth gymaint wrth ei fodd a phan y byddai mewn gorchwyl da. Pwrcasodd lawer o lyfrau, ac yr oedd yn ddarllenydd deallus. Mor fawr oedd ei ffyddlondeb gyda phob achos da! Bu ffyddlon hyd angeu, a derbyniodd goron y bywyd. Cyfaill ỳdoedd i bob un oedd yn ofni'r Arglwydd, ac i'r rhai oll a gadwent ei orchymynion ef.—Bobert Hughes. MARY JONES. Mrs. Mary Jones oedd wraig i Mr. Joseph Jones, gynt o Lanelwy, swydd y Fflint, yr hon a fu farw y lOfed o Chwefror diw- eddaf, yn 63 mlwydd oed. Bu yn aelod barchus yn eglwys Dduw yn mhlith yr September, 1840.] Annibynwyr yn Llanelwy, am tua thair blynedd ar hugain. Yn ei clirefydd yr oedd rhinweddau teilwng o'u coffa, a rhai y byddai yn dra dymunol eu gweled yn blodeuo yn ymarweddiad pawb a broffes- ant grefydd Crist. Dygodd y fath sôl dros achos Duw, fel nad oedd dim yn ormod ganddi wneyd er ei gynnal. Pan ddaeth gyntaf at grefydd, nid cedd yr eglwys lle y daeth ddim uwchlaw dau neu dri mewn rhifedi, a'r rhai hyn yn dylawd ac isel eu hamgylchiadau. Ond fel y darfu i'r Arglwydd ei bendithio hi yn helaeth àphethau tymmorol, bendithiodd hi hefyd â chalon i gyfranu o honynt yn helaeth at ei waith ef. Bu hynod o ym- geleddgar i brophwydi'r Arglwydd. Fel mam grefyddol yr oedd yn un enwog iawn ac yn deilwng hynod o'r enw. Coronodd yr Arglwydd ei llafur á Ilwyddiant, a chafodd yr hyfrydwch o weled ei phriod a'i phlant wedi dyfod i ofni'r Arglwydd. Bu hefyd yn uh o'r rhai ffyddlonaf yn ei hoes am ddyfod i'r cwrdd neillduol. Teithiodd am lawer o flyneddau dair milldir o ffordd i'r cyfarfod hwnw,—ac er nad oedd yn un o'r rhai cryfaf o gyfan- soddiad, y fath ydoedd ei ffyddlondeb fel nad oedd na gwynt na gwlaw, rhew nac eira, tywyll nos na phellder ffordd, yn mron un amser yn esgus ganddi i fod yn ol. Ei henaid ydoedd yn hiraethu ac yn blysio yn baràus ain gynteddau'r Ar- glwydd. Yr oedd hefyd yn nodedig am ysbryd tangnefeddus a chariadus yn mysg ei chymydogion a'i chyfeillion crefyddol, —yn ofalus bob amser am lywodraethu ei thymherau, ac ymgadw oddiwrth bob absen, enllib, a chwedîau. Ar ei gyrfa trwy'r byd profodd amla blin gystuddiau, ac amryw groesau a phrofedigaethau; er byn oll nid ymollyngai yn ei hysbryd, ac ' 33