Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 224.] AWST, 1840. [Cyf. XIX. COFIANT MR. JOHN HUGHES, CWMCARNEDD-UCHAF, LLANBRYNMAIR. Bu farw Mr. John Hughes ddydd Llun, Meh. 8,1840. Ar y dydd Iau canlynol, er arwyddo eu parch a'u cydymdeimlad, ymgynullodd torf anarferol luosog***t>'i gymydogion a'i geraint, hen ac ieuainc, i'w gladdedigaeth. Ar y nos Sabbath ar ol hyny pregethwyd ar achlysur ei farw- olaeth, oddiwrth Heb. 11. 5., er anog y byw i feddwl am y "symudiad" i fyd arall, ac am y pwys i bob un geisio "tyst- iolaeth" cyn ei symud ddarfod iddo ryngu bodd Duw: ac yn niwedd yr anerch darllenwyd y crybwylliadau canlynol fel tystiolaeth brin am rai o nodweddiadau cymeriad yr ymadawedig. Trwm iawn genym orfod rhifo ein cyf- aill caredig a ffyddlon John Hüghes o Gwmcarnedd yn mysg y marwolion. Aeth ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes, ac yr ydym newydd fod yn cuddio ei gorff yn ngorphwysfa y bedd gyda llwch ei hynafiaid. Bu farw yn nghanol ei ddef- nyddioldeb, yn bump a deugain, ergalar a cholled, braidd rhy anhawdd eu dar- lunio, i'w deulu hiraethlawn, i'r eglwys yma, ac i'w ardalwyr yn gyffredinol. Yr oedd yn ddyn o alluoedd meddwl cryfion a bywiog, a chafodd yn amser ei febyd fanteision lled helaeth i feithrin y galluoedd hyny;—yn gyntaf, dan ofal ei rieni a'i daid gartref, ac mewn ysgol yma dan addysg ei hen gyfaill y diweddar John Roberts, ac wedi hyny mewn ysgol yn Lloegr; a thrwy ymdrech a diwyd- rwydd i wneuthur defnydd cydwybodol o'rmanteisionaroddwyd iddo, cyrhaedd- odd adnabyddiaeth tra helaeth a manyl- aidd o ganghenau mwyaf buddiol dysg- eidiaeth. Er Hiai "itir anghof" yw y bedd, ac pr gwyllted ydyw treigliad amser, y mae ^òfparchus hyd heddyw yn yr eglwys a August, 1840.] thrwy yr ardal yma am ddefnyddioldeb caruaidd ei dad a'i dad cu fel cymydog- ion, fel gwladwyr, ac fel crefyddwyr. Bu farw ei dad William Hughes Ebrill 9fed, 1806, a'i daid Richard Hughes, Hydref 20, 1815; ac ìnewn canlyniad i'w marw- olaeth hwy, gosodwyd ef gan Raglun- iaeth—pan nad oedd ond ieuanc—mewn sefyllfa o ofalon pwysig ac o ddwys gyf- rifoldeb; ond wrth ei fod yn awyddus i ddefnyddio yn bwyllog y talentau roed i'w feddiant, nerthwyd ef i wisgo cymer- iad pur gyflawn a hawddgar yn y gwahanol gylchoedd oedd ganddo i'w llenwi. Yr oedd yn ddymunol iawn canfod dyn ieuanc, yn ei sefyllfa ef, pan o gylch un ar hugain oed, dan deimlad o rwymedig- aeth ei ddyledswydd i gynal crefydd yn ei dŷ, yn ymroddi, nid yn unig i galonogiy ddau broffeswr oeddynt yno y pryd hwnw, ond yn ymgyfamodi á'r gweision oedd ieuangach i geisio cydgynal yr addoliad teuluaidd pan y byddent hwy yn absenol; a'i weled gyda hyny yn wynebu yn ddif- rifol a gostyngedig ar eglwys Dduw er selio ei benderfyniad mewn dull mwy cyhoeddus. Y tro cyntaf y daeth ef a'i chwaer, ac eraill o'r teulu, i'rgymdeithas grefyddol, anogwyd y gweinidog gan hen gyfaill awyddus am les pobl ieuàinc i ýmddyddan ychydig â hwy. Cefnogwyd yr ymddyddan hyny mewn modd dwys :i serchiadol gan hen gyfeillion eraill oedd- ynt yno; ac amlygodd ein cyfaill ym- adawedig lawer tro wedi hyn i'r ym- ddyddanion hyny afaelyd yn ei deimlad, ac nad allai lai na'u cofio byth gyda chariad a diolchgarwch; a'i fod ynbarnu pe buasid yn gadael i'r oedfa hòno fyned heibio heb ymddyddan ag ef felly, y buasai yn anhawdd ganddo wynebu y 29