Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 222.] MEHEFIN, 1840. [Cyf. XIX. COFIANT MR. DAVID NASMITH, SYLFAENYDD CENHADAETH DDINASAWL LLÜNDAIN. IIybarch Olygydd,—Ymddangosodd y llinellau canlynol yn yr Evangelical Magasine ara Fawrth diweddaf. Dyfyniadau ydynt o Bregeth a dra- ddodwyd gau y Parch. Thomas Lewis, Islington. ar yr achlysur o farwolaeth Mr. Nasmith. Cof gan amrai o'ch darllenwyr ei weled yn Nghymanfa Ddirwcstol y Bala, yn Mai 1838; a diau yr hir gofiant ei anerchiadau gwresog dros Udirwest, a'r araith a draddododd yn addoldŷ yr Annibynwyr ar Genhadaethau Dinasawl, ac amrywiol Gymdeith- asau eraill. Y mae ei ymdrechiadau diflino wedi ei wneyd yn deilwng o gael ei resu yn mhlith y dyngarwyr enwocaf. Tra y parhao dyngarwch a rhtnwedd i flodeuo, ni bydd eisiau adail o adamant i fytholi ei enw. Yn wyneb symudiad " gweith- wyr difefl" o winllan ein Harglwydd, yr alwad uchel a adlais yn ein clustiau ydy w, " Ffydd y rhai dilynwch." Gan hyderu y gallai y llinellau canlynol fod yn foddion i " gyffroi meddyliau puraidd " rhai 0 Gristionogion Cymru i ymdrechu mwy dros achos Iesu Grist, cyfieithais hwy, ac yr ydwyf yn awr yn eu gadael wrth draed yr Hwn " sydd yn gweithio yr ewyllysio a'r gweithrcdu o'i ewyllys da ei hun" yn ei bobl. Yr eiddoch yn serchus, Mafton, Mawrth 24,1840. Evan Jones. Y mae yn ddyledus i'r meirw rhinwedd- 01 ein bod yn mawrhau eu coffadwriaeth mewn parch a chariad. Y mae yn ddy- ledus i ni ein hunain ein bod yn myfyrio arnynt, fel cynlluniau i'w dilyn mor bell ag y dilynasant hwy Grist. Ac y mae yn ddyledus i ogoniant Duw ein bod yn cyhoeddi ar led y pethau mawrion a wnaeth efe i'w heneidiau. O dan y rhwymedigaeth triphlyg hwn yr ydym wedi ein gosod ar yr achlysur presenol; y fath oedd y doniau a'r grasau à pha rai y rhyngodd bodd i'r Ysbryd Santaidd gynysgaeddu meddwl a chalon ein cyfaill ymadawedig, a'r fath oedd y gwahanol ddefnydd yn mha rai y gosodwyd hwy ar waith gan yr unrhyw Ysbryd, ac a'u ben- dithiodd, fel y byddai yn feius ynom i beẀio gorphwys a myfyrio arnynt. Bu ei fywyd ef yn fendith i laweroedd. Can- iataed Duw ar i'r wers o'i farwolaeth fod yn fendith i ninau! June, 1840.] "O blith yr ysgriflyfrau a adawodd cin cyfaill ar ei ol, gellid ffurflo cyfrol o faintioli nid bychan. Y maent oll yn tystio ei nodweddiad gofalus a manylaidd yn ùihob gorchwyl. Ondallan o gymaint o ddefnydd, y mae yn eglur mai yr oll a allaf fl ei wneycl ar yr achlysur presenol, ydyw dewis yn unig gymaint ag a rydd i ni gynllun byr o'i weithrediadau—ei brofiad—ei oriau diweddaf—ac yna, ar ol nodi rhai o linellau arweiniol ei gymeriad —ac i derfynu gyda rhai nodiadau ar y gwersi addysgiadol a gyflwynir yn y dy- gwyddiad o'i farwolaeth. "Ganwyd Mr. David Nasmith ar yr21 o Fawrth 1799, yn ninas Glasgow. Yr oedd ei rieni yn broffeswyr crefydd, gofal pa rai oedd, mor fuan ag y daeth yn alluog i ddeall, i'w hj^fforddi yn y pethau a berthynent i'w heddwch tragywyddol. Ei gof, tra yr ydoedd yn blentyn, aystor- iwyd yn dda gyda rhanau o'r Ysgrythyr, a chyda Salmau a Hymnau. Eithr nid oedd ganddo fawr o gariad atynt yn yr adeg foreuol hòno. Ei fam yn canfod ei fod yn hoff o ganu a ddenai ei sylw at bethau difrifol yn fynych, trwy ddweyd, 'Deuwch, a gadewch i ni ganu hymn.' Pan oedd tua chwemlwydd oed anfonwyd ef i'r Ysgol Sabbathol brydnawnol, yn mha un yr arhosodd hyd nes ydoedd yn unarbymtheg. O gylch chwe mis ar ol dechreu myned yno, dodwyd ef yn yr Ysgol Ramadegol gyhoeddus yn Glasgow, lle y treuliodd bedair blynedd. Y pryd hwnw dewisai ei rieni iddo fyned i'r Athrofa, ond efe a wrthodai hyn, gan ddewis dygiad i fyny cyfaddas i ryw alwedigaeth arall. Yn y sefyllfa gyntaf y dodwyd ef ynddi yr oedd yn agored i lawer o faglau a phrofedigaethau, ond a ddiogelwyd rhagddynt gan ras ataliol •21