Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 219.] MAWRTH, 1840. [Cyf. XIX. COFIANT AM MRS. GRACE HUGHES, BRYNSIRYF. " Wedi marw yn llefaru elto."—Heb. 11. 4. Nid oes dim eglurach na bod cymerìad y duwiolion yn effeithio yn ddaionus ar y byd, nid yn unig yn ystod eu bywyd, ond eu bod "wedi marw yn llefaru etto." Y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig gan bawb, ac ynber-arogl yn mhoblle. Cofio eu bucheddau grasol—cofio eu profiadau melys—cofio eu gweddiau taerion—cofio eu siamplau teg—cofio eu cyfraniadau haelionus—a chofio eu cynghorion dwys- ion, fu yn fendithiol i'w cydnabod ain dymmor hir, a'r trosglwyddiad o honynt yn bendithio y rhai a'u dilynant dros oesau maith ; felly nid yw eu beddrodau amgen na chynifer o areithfaau o ba rai yr esgyn darlithoedd effeithiol, a adsein- iant foliant Iesu, aoleuant yr anwybodus, a argyhoeddant yr anystyriol, ac a gad- arnhant y llesg! Hyn aellir ei gydnabod i raddau mawr mewn perthynas i wrth- ddrych y bywgraffiad hwTi. Y mae hanes bywydau " gwragedd crefyddol" wedi eu cofnodi yn anrhydeddus yn Ngair Duw; ac y mae yn ddiau fod bywyd wedi ei fyw i Grist yn deilwng o'i gofnodi yn fanwl, ond pan na cheir y manylion, edrychir ar fraslun o ryw werth, yn hytrach na chladdu y cyfan yn adfeilion dystaw y llwch; ac "oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham," gael ei rhesu yn mhlith y gwragedd duwiol, "fel y rhai hefyd pan oedd yr, Iesu yn Galilea, a'i dilynasant ef, ac aweiniasant iddo,agwragedderaill lawer, y rhai a ddaethant gydag ef i fyny i Ierusalem?" Ganwyd Mrs. Hughes ar yr lleg o Ionawr 1795. Merch ydoedd i David ac Anne Davies o'r Ddôl, gerllaw Henryd. Hi a briodwyd â Mr. Thomas Hughes o'r Brynsiryf, ger Conwy, yr hwn a adawwyd yn weddw i alaru ar ei hol, gyda phedẁar o blant, tri mab ac un ferch. Dangosai Maíich, 1840.] Mrs. Hughes yn foreu arwyddion amlwg o alluoedd meddwl cryf, efallai uwchlaw y cyffredin o'r ystlen, ac amlygai duedd- iadau crefyddol yn gynnar, a galwyd hi yn foreu i winllan Iesu; bu yn dra ffydd- lawn a gweithgar, yn ol ei manteision, yn mhlaid yr achos mawr, yn ei pherthynas ag eglwys Crist, ei theulu a'r gymydog- aeth. Tua'r flwyddyn yr ymddangosodd arwyddion llesgedd yn ei phabell ddaear- ol,yrhyn, yn nghyda'i thueddfryd natur- iol, a fendithiwyd i adnewyddu ei phrof- iadau a'i ffyddlondeb, gan ei diddyfnu yn raddol oddiwrth y pethau a welir, a gosod ei serchiadau yn fwy sefydlog ar bethau sydd uchod ; dygwyd hi yn fuan iiteÿtdwl nad oedd iddi yma ddinas barhaüs, ac i gredu a chyfarch a chyfaddefmaidyeit.hr a phererin ydoedd ar y ddaear. Medd- iannai ar gryn raddau o wroldeb fe.I Cristion, yr hyn a welid yn ei gwaith yn arfer darllen a gweddio yn gyhoeddus yn y teulu; ac y mae aelwyd y tŷ yn dyst o'i dagrau, a'r awyr o'i hocheneidiau, pa mor nerthol ydoedd mewn gweddi ar ran ei theulu a'i chymydogion, fel nad allwn ymattal heb ddwyn y dystiolaeth hònoam dani yn hyn, " Llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oll." Yn nechreu yr haf 1S36, deallwyd inai un o brif weision angeu yn nattodiad ei phabell ydoedd y Dyfrglwyf; a dyjjddef- odd yn dawel dan amryw weitt foperationsj priodol i welliantyn hwnw, ond nid oedd dim yn tycio—-ÄÍ: oedd y tý yn adfeilio—yn cael ei ddattodh yn raddol o hcel i hoel, ac o gareg i ' gareg, nes teimlo o'r diwedd yr ergyd orphenol, ac esgyn o'r enaid pur i fynwes Abraham! Hynod mor adeiladol a melys oedd ei phrofiadau—ymddydd^aai ,- am y dattodiad gyda gwroldeb neilldttpl; ^j 9 "' 1M