MORMONIAETH. 217 cystal pregethau, os nid gwell, pan yn Norwich. Yr wyf hefyd yn meddwl fod ychydig o rith-ymddangosiad yn ei ddull nad oedd ynddo yn Norwich. Nid yn unig y mae Mr. Brock yn un o'r pregethwyr goreu yn y brifddinas, ond y mae yn ddyn cyflawn mewn pethau eraill. Y mae yn cymeryd rhan bwysig a gweith- gar yn mhrif symudiadau yr oes. Y mae yn un o'r ychydig o weinidogion y brif- ddinas sydd yn cefnogi y gymdcithas weithgar a dylanwadol hòno a elwir, " The Society for the Liberation from State pat- ronage and control." Fel areithiwr ar yr esgynlawr, y mao Mr. Brock yn hynod nerthol ac effeithiol; mcwn gair, y mae yn mhob man yn gyffelyb, yn gawr nerthol a phendcrfynol. Gellir gwahaniaethu oddi- wrth y fath ddyn mewn llawer o bethau; ond, ar yr un pryd, nis gellir llai na'i hofíi a'i bârchu. Dewiswch gael y fath ddyn yn gyfaill yn hytrach nac yn elyn. Y mae yn dwr o gadernid i'w enwad ei hun, ac yn wir i bob enwad. Efe yw y cyntaf sydd wedi gwneud y Bedyddwyr yn boblogaidd yn y ihan orllewinol o'r ddinas. Hyd nes y daeth ef, nid oedd yr enwad hwnw ond gwanaidd yn y rhan hòno. Nis gall Brock wneud dros ei enwad yr hyn a wnaeth Robert Hall a John Foster. Nid yw, trwy ci bregethau a'i ysgrifeniadau, yn gallu cyrhaedd a boddio y dosbarth coethedig hwnw ag y darfu iddynt hwy Iwyddo i gyrhaedd ato. Ond y mae, trwy bregeth- au, yn llywio yn nerthol y dosbarth mwyaf gweithgar eu meddyliau—y dosbarth ag y mae wedi codi o'u mysg. Y mae yn dal yr allwedd sydd yn agor drysau meddyliau a theimladau y dosbarth yma yn y modd mwyaf effeithiol. Dywedir i Scarlett lwyddo oblegid fod deuddeg o Mr. Scoiletts yn eistedd yn y jury-box. Dyma y rheswm dros Iwyddiant Mr. Brock. Y dynion y pregetha iddynt ac y llafuria yn eu plith ydynt gyffelyb iddo ef ei hun. Hanover. Robert Thomas. MORMONIAETH. Yr ydym yn cymeryd golwg ar gyfun- draeth foesol wcdi ei scfydlu yn eithafocdd y diffaethwch—cyfundraeth sydd yn gwadu ein cyfreithiau, cin defodau, ein llenydd- iaeth, a'n Duw. Dyfaisnewydd hollol, yn sylfaenedig ar dybiau newydd, yn gwbl groes i'n cred, ac yn berffaith wrthwynebol i'n holl deimladau teuluaidd. Cyfundraeth ydyw sydd yn gymysgedd anghelfydd o íuddewaeth, Pabyddiaeth, Mahometiaetb, Paganiaeth, a Sosialaeth. Dywcdasom eisoes nad oeddym yn bwr- iadu gafaclu yn y gorchwyl o wrthbrofí eu daliadau; ystyriem hyny yn sarhad ar syn- wyr cyffredin ein darllenwyr. Bwriedir yr ysgrif hon yn unig i ddarlunio eu cred, ac i roddi adolygiad ar eu moesau. Yr ydym yn meddwl fod prif egwyddor- ion eu ffydd yn gynnwysedig yn y saith erthygl a ganlyn:— 1. Fod un Duw, Tad, Mab, ac Ysbryd Glan—ci fod yn gyfansoddedig o ddefnydd —yn preswylio lle—yn ymsymud o fan i fan. [Gwel y darllcnydd fod hyn yn wad- iad o'i Ysbrydolrwydd, ac o'i Hollbresenol- deb.] 2, Fod Joseph Smith yn brophwyd mawr, ac apostol ysbrydolcdig, wcdi cacl datgudd- iadau uniongyrchol o'r nef, a bod " Llyfr Mormon," a "Llyfr Cyfammodau a Dat- guddiadau," yn gyfansoddiadau ysbrydol- cdig—mor ysbrydoledig ac anffaeledig ag ydyw llyfrau yr Hcn a'r Newydd Desta- raent. 3. Fod Duw yn parhau i roddi datgudd- iadau o'i feddwl i'w bobl o bryd i bryd. 4. Fod " bedydd er maddeuant pechodau" i gael ei weinyddu trwy drochiad, a bod "arddodiad dwylaw" i fod yn gysylltiedig â'r gweinyddiad.' 5. Fod Swyddogion yr Eglwys yn gyn- nwysedig o apostolion, prophwydi, esgob- ion, bugeiliaid, athrawon, ac efengylwyr, gyda dau fath o offeiriadaeth, sef yr un "Aaronaidd" a'r un " Melchisedecaidd." 6. Fod doniau gwyrthiol yn parhau yn yr eglwys, sef barnu yr ysbrydoedd, pro- phwydoliaeth, datguddiad, gweledigaethau, tafodau, deongliad tafodau, iachâu y cleif- ion, &c. 7. Y ccsglir Israel yn Uythyrenol, ac yr adferir y deg llwyth, y scfydlir S'ion ar y