MORMO.N'IAUTH. 27 iau George Washinyton y President yn George Washington y bachgen geirwir. Rhoddwn esiampl etto o onestrwydd a geirwiredd mewn plentyn. Bachgen bych- an tlawd yn Ffrainc a gafodd le mewn masnachdy. Pan ddaeth stock newydd o nwyddau i mewn, gorchymynydd ei feistr iddo ddweyd wrth y prynwyr mai hyn a hyn oeddynt wedi gostio. Edrychodd y bachgen yn ei wyneb, a dywedodd, "Nà wnaf." Atebai ei feistr fod raid iddo naill ai dweyd hyny, neu golli ei le. Dywedodd yntau nad oedd erioed wedi arfer dweyd celwydd, a bod yn well ganddo ddyoddef y canlyniadau na halogi ei gydwybod. Bwr- iwyd ef allan, ac ni wyddai i ba le i fyned. Pan ar yr heol, ychydig latheni o dý ei hen feistr, daeth dyn oedd yn ei adnabod i'w gyfarfod, wrth yr hwn y dywedodd ei holl hanes. Cymerodd y gwr hwnw ef tua'i gartref. Cyn iddynt fyned yn mhell, daeth boneddwr i'w cyfarfod, a gofynodd iddo a wyddai efe am fachgenyn a wnelai y tro iddo fel negesydd, &c. Dywedwyd wrtho holl hanes y bachgen tlawd. Cymer- wyd ef i'r masnachdy. Ennillodd ffafr ei feistr newydd, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig flyneddau, gan adael ei holl eiddo i'r bachgenyn a drowyd allan o'i hen le am wrthod dweydcelwydd. Ieuenctyd, gofal- wch am y pinau bychain yn adeilad eich cymeriad. Bydded cystadleuaeth Deiniolen yn fodd- ion i ddwyn y pwnc pwy6ig hwn i fwy o sylw.—Myfanwy. MORMONIAETH. Ganwyd Joseph Smith yn nhref SharoD, swydd Windsor, Vermont, yn yr Unol Daleithiau, yn Rhagfyr, 1805. Pan oedd yn ddeng mlwydd oed, symudodd gyda'i r'ieni i Palmyra, Caerefrog Newydd. Nid oedd ei ddysg ondychydig: gallai ddarllen yn Uedrwydd, ysgrifenu yn burdrwsgl; ac yr oedd ei wybodaeth o rifyddeg yn dra an- mherffaith. Dywedai iddo gael gweledig- aeth pan yn ugain oed. Ymddangosai per- son iddo mewn dillad gwynion, ac yn dys- gleirio fel yr haul yn ei ogoniant. Hysbys- odd hwn iddo fod yr amser yn nesâu i bar- otoi erbyn ail ddyfodiad y Messîa, fod y gorchwyl hwn wedi cael ei ymddiried yn benodol iddo ef, a bod dygwyddiadau lawer oewyllys Duw wedi eu cuddio, ac felly ar goll; ond y rhoddid amlygrwydd iddo ef am y guddle, ac felly mai efe oedd yr offer- yn i'w dwyn i oleuni a gwybodaeth. Dy- wedai fod yr angel wedi ymddangos iddo yr ail waith, ac wedi nodi allan y man a'r ìle yr oedd y dadguddiadau hyn yn gor- wedd yn gladdedig. Aeth i'r fan hon, wedi hyny, a chafodd yno amryw gopr-leni, ac arnynt argraffiadau mewn llythyrenau Aifft- aidd. Yr oedd gyda hwynt hefyd offeryn a elwid " Yr Urim a'r Thummim," a thrwy gyfrwng yr offeryn hwn yr oedd yn alluog i ddeongli yr argraffìadau. Yr oedd y copr- leni hyn wedi cael eu claddu yno er mwyn eu diogelu er's pedwar cant ar ddeg o flynyddoedd. Ond yn y fan hon, priodol ydyw i ni ddodi yr hanes a rydd ei dad-yn-nghyfraith, Isaac Hale, am dano. Daeth yn gydna- byddus ag ef gyntaf yn niwedd y flwyddyn 1825. Yr oedd Joseph y pryd hwnw yn canlyn mintai o money-dìggers—sef dynion yn cloddio y ddaear am arian claddedig. Cymerai arno ei fod yn perchen y ddawn o gaufod trysorau cuddiedig trwy edrych ar fath o gà reg oedd ganddo yn ei het. Ym- ddangosai yr amser hwn fel dyn ieuanc di- ofal a diddysg, ac ymddygai yn bur frwnt tuag at ei dad. Ni atebodd ei ddawn gwyrthiol mo'r dyben o gyrhaedd y trysor- au dymunol yn y manau lle y dywedai eu bod i'w cael, a chwalodd ei gymdeithion oddiwrtho mewn siomedigaeth. Byddai Joseph yn y cyfamser yn mynychu tŷ Isaac Hale, ac o'r diwedd gofynai am ei ferch, Emma, yn wraig iddo. Gwrthodwyd ei gais gan Hale; a'r diwedd fu i Joseph ddwyn y ferch a'i phriodi yn absenoldeb y tad oddicartref. Dychwelodd yn mhen rhy w gymaint o amser, ac yn mhlith pethau eraill a haerai, dywedai fod ganddo flwch yn cynnwys llyfr rhyfedd wedi ei ysgrifenu ar gopr-leni. Dangosodd y blwch i Hale, ae ymddangosai yn gwbl gyffelyb i'r blychau cyffredin fydd yn cynnwys gwydr—sef ffen- estr wydr o faint cyffiedin.* Rhydd Isaac Hale yr hanes yn lled fanwl, a therfyna trwy draethu ei gred benderfynol mai twyll a chelwydd oedd y cyfan, wedi ei ddyfeisio o bwrpas i hudo meddyliau gweiniaid, ac i wncuthur arian o honynt. Tystiolaethodd Isaac Hale y pethau hyn,yn ddifrifol o flaeu Ynad Heddwch. Ymgyfyd amryw wrthddadleuon i ystori • Os felly Wwch pren ydoedd. Ond y raae OlWer Cow dery yn dywedyd mai blwch c*r*g ydoedd.