Pendefiges o Birmingham.—Y mae son mawr wedi bod am bendefiges o Birmingham. Yn ddiweddar, ymwelodd gwr Eglwysig parchus â'r brif ddinas, a chymerodd ei ferch ienangaf gydag ef. Ar eu dyfodiad i Euston Station dywedir i'r ferch ieuanc yn fuan golli ei thad, ac yr oedd hi ei hunan ar heolydd Llundain yn ddyeithr ac heb ffyrling yn ei llogell. O'r diwedd wedi colli pob hunan lywodraethiad torodd yr eneth druan i wylo, tra yr elai gwr Eglwysig ieuanc heibio; mynegai wrtho ei hanes. Cyngorai yntau bi i fyned i Bir- mingham yn ol, a rhoddes iddi ddau benadur i ddwyn traul ei thaitb. Ar ol i'r gwr bon- eddig haelfrydig gyraedd Bristol, chwarddai ei gyfeillion am ei ben am iddo adael i ddagr- au geneth ei orcbfygu. Ychydig o ddyddiau yn ol, pa fodd bynag, galluogwyd y dyn ieuanc i chwerthin gystal a neb o honynt, canys deallodd fod yr hoH hanes yn wir drwy iddo dderbyn llythyr caredig oddiwrth ei thad. COLLI LLONG—-ChwECH 0 DDTNÍON "WEDI RHEWI I FARWOLAETH.—Y mae J CMcaÿO Free Press yn mynegu am ddygwyddiad anarferol o drychinebus a gymerödd le ar y llyn- au:—Gadawodd y Schooner Flying Clorid y porthladd yma ar y 18 cyfisol, gyda llwyth o 10,300 bwsiel o wenith. Y dydd nesaf tarawodd, ac agos yn uniongyrchoí "toroddei chefn," a llanwyd hi â dwfr. Aeth y cadben a'r dwylaw i'r rbaffau, lle y buont drwy y dydd, ac yn y nos daethant i lawr, ac arosasant ar y bwrdd, wedi rhwymo eu hunain wrth y gledren. Bore dydd Gwener yr oedd dau o'r dwylaw wedi marw—wedi rhewi yn syth. Neidiodd yr ail-lyw dros y bwrdd a nofiodd i'r lan, pellder o ugain pedwarran erw, a cheisiodd gyraedd shanty yn y goedwig tua milldir a haner o'r lan; ond pan oedd o fewn ychydig iddi syrthiodd i lawr a bu farw. Neidiodd morwr arall i'r mor, bu yntau farw ar y lan yn ngolwg y dwylaw. Yr oedd pob gobaith am achubiaeth wedi darfod erbyn hyn, a cheisiodd y cadben fyned i'r lan, ond yr ocdd efe yn rhy wan i gychwyn. Gwaedd- ai allan, " Fechgyn, yr wyf yn marw, ymdrechwch achub eich hunain." Frank Fox oedd y nesaf a neidiodd dros y bwrdd—yr hyn a ddygwyddodd tua deuddeg o'rgloch, a gwelai yn fuan ddau ddyn yn dyfod ar hyd y lan gyda chwch bychan. Ar ol ymdrech mawr cyraeddodd y lan. Y Mormoniaid.—Y mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynegu yn ei anerchiad diweddaf ei fod ef yn benderfynol i ddodi i lawr y gwrthryfel a gyfodir gan y Mormon- iaid yn Utah:—"Dyma y gwrthryfel cyntaf," ebai ef, "agyfododd yn ein mysg, ac y mae dynoliaeth ei hun yn gofyn ini ei roddi i lawr yn y fath fodd ag y byddo y diweddaf. Cellwair ag ef fyddai ei anog yn mlaen a'i wneud yn arswydus. Dylem fyned yno gyda'r fath rym raawr fel ag i argyhoeddi y bobl dwylledig yma y byddai gwrthwynebiad yn ofer, ac wrth hyny arbedid tywallt gwaed." Gwrthdarawiad erchyll ar reilffordd.—Dygwyddodd gwrthdarawiad erchyll rhwng dwy gerbydres ar reilffordd Rhydychain, Worcester, a Wolverhampton, yn ddi- weddar, drwy yr hyn y cafodd lluaws o ymdeithwyr eu hanafu yn dost—rhai o honynt mor arswydus fel yr ofnid y canlyniadau gwaethaf. Herwhelawr.—Bu ymladdfa dost, yn ddiweddar, rhwng 16 o geidwaid helwriaeth a 40 o herwhelwyr ar dir Mr. Richard Corbet o Adderley, yr hyn a derfynodd yn angeu un o'r rhai cyntaf. Fflangellu.—Yn ystod y flwyddyn 1856, megis yr ymddengys oddiwrth adroddiad Seneddol, nifer y rhai a fflangellwyd yn ngwasanaeth ei Mawrhydi yn y llynges oedd 1,397; nifer y fflangelliadau oedd 44,492; y nifer fwyaf a roddwyd oedd 50, a'r isaf 1. Y swm mwyaf o fflangellu a fu ar fwrdd y ÉoyalAlbert, yn yr hon y derbyniodd 21 o forwyr 900 o fíiangelliadau. Y mae adroddiad Seneddol arall a ddaeth allan, yn ddiweddar, yn mynegu gyda golwg ar gosbedigaeth yn y fyddin, allan o 138 o fyddinoedd ni chafodd ond 35 eu gwaradwyddo yn y ffordd hon. Nifcr y milwyr a fflangellwyd yn 1856 oedd 64, a nifer y fflangelliadau oedd 2,751. Cyngor rhag y bronchitis.—Cymerer melyn ci grwybr, teneuer ef ag ychydig ddwfr, a gwlycher y gwefusau yn fynych ag ef. Cymerwyd y cyngor o'r Baltimore Sun, dywedir na fethodd mewn un amgylchiad, hyd yn nod mewn achosion y byddai gyddfau plant Wedi chwyddo gormod iddynt allu llyncu. Yr Ysgol Sdl henaf.—Dywed gohebydd o Norham, yn yr Express, fod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yn y lle hwnw gan y Parch. James Morison (Presbyteriad) yn 1766 neu 1757, agos i chwarter canrif cyn i Mr. Raikes ddechreu gyda'r gwaith yn Gloucester; a dywedir fod Yegotland wedi dechreu yn 1707. Gall swydd Gaerefrog honi hawl o fod yn meddu Ysgol Sul yn gynar yn Catterick, yr hon a sefydlwyd gan y Parch. Theophilus Lindsey, y periglor, yr hwn a roddes i fynu ei fywioliaeth yn 1773, ac a aeth wedi hyny yn weiuidog Undodol i Lundain. Ond y son pellaf a feddir yn gyfífredin yw am yr Ysgol Sul a sefydlodd Mr. Raikes yn Gloucëster. Cosbi Heddgeidwad.—Derbyniodd yr heddgeidwad Brady» yr hwn a euogbrofwyd yn mrawdlys Middlesex dan y cyhuddiad o wneud ymosodiad anwraidd ar Germaniad, yr hwn a gymerodd efe i fynu drachefn dan y cybuddiad celwyddog iddo ymosod arno ef, y gosbcdigaeth a haçddai, Dcdfrydodd Mr, Çreasy çf i ddwy flynçdd o lafur ctled.