Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ŵrtójẁ^ EITHAFION YE OES.-COELGEEFYDD AC ANFFYDDIAETH. CAN Y PARCH. MATTHEW LEWIS, TREFFYNNON. Geilw un awdwr ddyn y n " anifail crefyddol," ac nid oes ar y ddaear isod, nac ar y dyfroedd sydd dan y ddaear, yr un creadur yn grefyddol ond efe. Y raae ar y ddaear lwythau o ddynion heb anneddau, heb wisgoedd, ac heb lyfrau; ond anhawdd ydyw cyfarfod ag un genedl heb dduw. Y mae rhyw elfen grefyddol yn y natur ddynol yn mhob sefyllfa. Yr oedd yr elfen hon ynddi cyn y cwymp; ac er cymaint o bethau a gollodd y pryd hwnw, glyn- odd yr elfen hon ynddi drwy y cwbl, a hon ydyw yr elfen gryfaf a phwys- icaf a berthyn iddi. O ba le y daeth y duedd hon? Pa un a ydyw yn perthyn yn wreiddiol i'r ddynoliaeth, ai ynte peth a ddysgwyd ganddi, ac a drosglwyddwyd trwy draddodiad, ydyw ? Haera rhai mai peth traddod- iadol yn unig ydyw crefydd, a'i bod yn llawn bryd rhoddi terfyn bythol arni—gwadant ei dwyfoldeb, a thaerant ei bod yn ddinystriol i ddedwydd- wch dynolryw. Os caniateir mai peth traddodiadol ydyw crefydd, nid yw hyny yn gwrthbrofi ei dwyfoldeb, oblegid traddodiad ydyw ag y gellir ei oírhain yn ol hyd at ddechreuad ỳ ddynoliaeth; a rhaid cydnabod yn y diwedd mai Awdwr y ddynoliaeth ei hunan ydyw Awdwr y traddodiad. Y mae y gofyniad, wedi y cyfan, yn dyfod i hyn, sef—Pa un ai crëu dyn jn grefyddol a wnaeth y Creawdwr, ai ynte ei ddysgu i fod yn grefyddol ar ol ei grëu? A pha fodd bynag yr atebir y gofyniad, rhaid addef dwyfoldeb crefydd, neu yn hytrach yr elfen grefyddol sydd mewn dyn. Galwer hi ar yr enw a fyner—yn grefydd, yn elfen grefyddol, neu yn dderbyngarwch ( susceptibiliti/) o argraffiadau crefyddoí, nis gellir peidio cydnabod mai "bys Duw yw hyn." Wedi crëu yr amrywiol rywogaethau o greaduriaid direswm, a gosod o fewn cyrhaedd pob un yr oll a ddymunai ei natnriaeth, wele ef yn llunio un creadur â gallu a thuedd ynddo i edrych uwchlaw pob peth gweledig ato ef ei hun. Y mae cyffredinolnvydd crefydd o ryw í'ath neu gilydd yn mhlith holl dylwythau y ddaear, a'r dnedd sydd ynddynt i droi at eu crefyddau yn yr awr gyfyngaf, (oblegid yn mhob trallod "onid â'u duw yr ymofyn pobl,") yn profi yn eglur fod dyn wedi ei gyfansoddi yn y fath fodd ag nas gall fod yn ddedwydd heb grefydd. Gall ymffrostio ei fod yn ddedwydd dan wadu pob crefydd, ond bod yn ddedwydd sydd bwnc arall. Y mae y berthynas foesol sydd rhwng dyn â Duw yn ei wneuthur yn greadur o bwysfawredd annhraethadwy. Gogoniant y byd hwn yw dyn— gogoniant dyn yw ei enaid—a gogoniant yr enaid yw crefydd. Teml yw dyn—yr enaid yw y cysegr santeiddiolaf—a chrefydd yw y Shecinah. Perthyna crefydd i'r creaclur mwyaf yn y byd hwn, sefdyn, ac i'r rhan fwyafó'r creadur hwnw, sef ei enaid. Y raae y corffyn ddefnyddiol gyda Mawrth, 1855. l