Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhip. 23. Cyf. II. TACHWEDD, 1842. Cyfres Newydd. COFIAIT Y PARCH. CHARLES NICE DAYIES, ATIIHAW DUWINYDDAWI. COLEG ABERHONDDU, GYNT I3-GADBEN YN' Y FYDDIN BRYDEINAIDD. At Olygydd y Dysgedydd. Anwyl Syr,—Trwy diriondeb Rhagluniaeth, galluogir fi i gyflawni fy addewid o anlbn i chwi gofiant fy niweddar hybarch Athraw. Buasech wedi ei gael er's wythnosau, oni buasai i'm hiechyd ballu. Cymerwyd ef gan mwyaf o'r Congregational Magasine am Fehefin diweddaf. Gadawyd allan rai brawddegau a welir yno, ac ychwanegwyd rhai nodiadau gan y cyfleithydd. Hyderiry bydd yn fuddiol i ddarllenwyr y Dysg- edydd. Y mae symudiad cynnifer o enwogion yn y dyddiau hyn, yn uchel alw arnoin i lafurio yn "ddiymmod yn ngwaith yr Arglwydd." Byddwn yn anneddu bro dystawrwydd yn bur fuan, a phob cyfle " i weithio gwaith yrhwn a'n lianfonodd " wedi ei fythol golli. Ydwyf, Barch. Syr, Yr eiddoch yn serchus, Ieuan Gwynedd. Coleg jlberhonddu, Hyd. 6, 1843. "Charles Nice (neu Lewis) Davies, ydoedd fab i Ringyll yn y traed-osgorddlu. Meddylir fod ei rieni yn enedigol o sw\-dd Ddinbych." Ganwyd ef mewn Eglwys yn Glient, yn y tì. 1794, pan yr oedd y diweddar Ddug Caerefrog yn llywyddu y Fyddin Brydeinaidd. Syrthiodd ei dad mewn brwydr yn ystod yr ymry- sonau gwaedlyd hyny yn Fflanders, pryd yr aberthwyd cynnifer o ddyn- ion dewrwych i foddâu ynfydrwydd breiniol llywydd analluog. Tua diwedd y Rhyfel Ffrengig, priod- asai Mrs. Davies â Rhingyll arall o'r enw Nice, hoffder yr hwn o'r bachgen a'i harweiniodd i'w gy- sylltu â'i enw ei hun, a bytb ar ol hyn gelwid ef yn Charles Nice, yn lle Charles Lewis, Davies. Yr oedd y Rhingyll Nice yn filwr o'r arferion mwyàf cywir a manwl, yn ddyn dysgedig, ac yn cael ei fawr Noyember, 1842. hofiì yn ei gatrawd. Arhosodd yn Lloegr rai blwyddi ar ol terfyniad y rhyfel, gan ddwyn i fyny ei l}rs- f'ab Charles gyda chymaint o ofal a serch a phe y buasai ei blentyn ei hunan. Cymerodd Dug Caerefrog sylw o'r Rhingyll Nice, a derbyn- iodd Isgadbenaeth (Lieutenancy). Trwyddo ef heíyd y cafwyd y swydd o Fanerwr i Charles pan yn ddeuddeg mlwydd oed. Tebygol mai trwy ddylanwad y Dug y cyf- Iwynwyd y Banerwr ieuanc i'r frenliines Charlotte, ac y dewiswyd ef ganddi ar gyfrif ei olwg bryd- weddol i'w gwasanaethu mal pwr- ífilwas (page) ar yr achlysur o wledd gyhoeddus a roddid yn Windsor. Y pryd hwnw aml y llawenychai ei hunan, a'i gyfeillion wrth ddarlunio ei agwedd anghy- ffredinol, pan y gwiso-wyd ef gyntaf â'i wregys a'i gleddyf; prin y gallai gadwT yr olaf rhag llusgo ar hyd y llawr, tra yr oedd ei garn yn cyr- haedd ei vsgwvdd. "Yn y flwyddyn 1808, gorchy- mynwyd ef i uno â'i gatrawd, yr 22, y pryd hwnw yn India, dan reolaetli yv Isgadfridog Syr J. H. Craig. Trwy gydnabyddiaeth ei lys-dad â Dug Caerefrog ac Ar- glwydd Lake, Llywydd cyflredinol India, buan dderchafwyd Charles i swydd Isgadben, ac ar ol iddo gyrhaedd India, symudwyd ef o'r 22 i'r 53, yn yr hon yr oedd ei lys- dad wedi dyfod yn ' Islywydd. Trwy y tro call yma, gosodwyd ef yn fwy uniawngyrchol dan otygiad 41