Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 22. Cyf. II. HYDREF, 1842. Cyfres Newydd. COFIANT MR. JENRINS, MASNACHYDD, LLANIDLOES. "Major sum et ad raajora natus quam quod sim corporis mancipium. Quod equidem aspicio quam vinculum libertati meoe circumdatum."—Sen.Èp. LXVI. non aliter Tir anghof ydyw y bedd, etto nid yw pawb o'i breswylwyr mewn anghof; ond y mae eu "coffadwr- iaeth yn fendigedig." Mae y saint mewn coífadwriaeth gan Dduw, mewn coffadwriaeth gan angylion, ac mewn coffadwriaeth gan yreglwys isod. Y mae arogl pêr y planhig- ion hyn yn ngardd yr eglwys ar y tir y buont yn tyfu ynddo ar ol eu dadwreiddio oddiyma, a'u hadblanu yn nhir puraidd paradwys i fythol ledu eu blagur a flaendarddodd yma ar y ddaear, ac i ddwyn ar eu blodau ddarliwiadau o burdeb dan wenawl belydron yr Haul hwnw nad yw byth yn machludo. Dywed y Bibl mai "gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef;" ac ni ddylai yr hyn sydd werthfawr yn ngolwg yr Arglwydd fod yn ddiwerth yn ngolwg yr eglwys. Gall yr eglwys wneuthur y defnydd mwyaf gwerthfawr o farwolaeth y saint. Gallant edrych ar eu cyflwr wrth natur—ar eu dy- chweliad at Dduw trwy ras—eu hymlyniad wrth bibellau y moddion —y cysur cryf a dynent drwyddynt o ffynhonau yr iechydwriaeth—eu caniadau—eu tystiolaethau am dda- ioni Duw yn y cyfeillachau—eu gwroldeb yn wyneb gelynion—eu parhad digwymp gydag achos Duw —eu hymlyniad diysgog wrth y ffydd Gristionogol yn angeu—eu caniadau yn y glyn—y cyfarfod melus fu rhyngddynt â'r Archoffeir- iad yn y dwfr—y dystiolaeth gynhes a adawsant ar euhol—a'u mynediad October, 1842. lielaeth i mcwn i lawenydd dider- fyn eu Harglwydd, nes peri iddi ymgadarnhau yn ei phenderfyniad, cyflymu yn ei gyrfa, ymwroli yn erbyn ei gelynion, ac ymlawenhau a gorfoleddu yn ngwaith ei Christ a chrefydd. Öddiar yr ystyriaeth- au yna yr ydym yn codi yr hyn a ganlyn fel cofgolofn o rinweddau ein brawd trancedig uchod. Yr ydym yn tewi am ei feiau, gan hy- 'deru eu bod wedi eu bythol guddio mewn anghof tu hwnt i leni tra- gwyddollawn anfeidrol Emmanuel. Ein cynghor i bawb yw tewi am ei gyflwr hyd nes gwelont ef yn ab- senol o'r orymdaith ardderchog pan yn dyfod o byrth y nef, ac yn cy- meryd eu heisteddleoedd yn orielau anrhydeddus teml Salem. Er yr amser y cafodd angeu ganiatâd y nef i ollwng ei saethau i fysg yr hiliogaeth ddynol, pryd y rhoddodd anufudd-dod y creadur cyfrifol fod- olaeth iddo yn y boreu, ac yr archwaethodd waed Abel y merthyr cyntaf—ofnadwy ydynt rwygiadau brenin y dychryniadau yn mhlith daearolion o'r oesau boreuol hyd heddyw; pan y bo yn tramwyo yn ei rwysg bwria frcnhinoedd coronog i lawr o'u gorseddau, a gwna farn- wyr y ddaear, gwreng a boneddig, yn sathrfa dan garnau ei feirch dinystriol. Ganwyd Mr. Edward Jenîdns yn mis Ebrill, 1788, yn Cringoed, ger Llanidloes. Efe ydoedd yr ieuangaf o wyth o blant. Ei rieni, John a Mary Jenldns, oeddynt aelodau 37