Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 21. Cyf. II. MEDI, 1842. Cyfres Newydd. COFI A ÎST T M R. J O H N JONES, G W Y N Y N D Y. Prif amcan cyhoeddi hanes duw- iolion ymadawedig ydyw dangos gwaith gwirgrefydd, ac annog craill i'w hefelychu yn eu rhinweddau. Derbyniwyd y gwr duwiol uchod yn aelod yn Llwydiarth, Llanmi- hangel, gan y Parch. J. Griffiths, gynt o Fachynlleth. Ynfuaniawn wedi hyny neillduwyd ef yn ddiacon yn yr eglwys fechan a gyfarfyddai y pryd hwnw yn Cynon isaf, Llan- wyddyn, dan ofal y Parch. Morris Hughes. Bu Mr. Jones yn offeryn defnyddiol iawn i godi yr achos i olwg yr ardal, trwy ddysgleirdeb ei dduwioldeb a'i ffyddlondeb diflino. Yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny, sef yn 1814, symudodd i'r Gwynyndy, ei dyddyn ei hun. Di- ammau i'r gangen fechan hòno gael collcd fawr ar ei ol, yn ol tystiol- aeth ei gweinidog a'i haelodau; a chafodd yr eglwys yn Llanfair elw a braint fawr, gan ei bod yn dra ieuanc a gwan y pryd hwnw. Bu yn llesol iawn yma, fel aeìod a swyddog. Haelioni a darddai (fel ;ffrwd ddysgleiriol) o'i galon. Yr fcedd ei amgylehiadau yn dra fchysurus, uwchlaw y cyffredin; a fdefnyddiodd ei holl ddylanwad i * çodi achos y Gwaredwr o'r pant. ~!r ei fod yn ŵr cyfrifol a pharchus iawn yn yr ardaí gan fonheddig a |gwreng, un o'i brif ragoriaethau >edd gostyngeiddrwydd. Mynych iawn yr adroddai yr adnod ganlynol rn y gymdeithas eglwysig, "Yr iwn a'i dýrchafo ei hun, a ostyngir; 'r hwn a'i gostyngo ei hun, a Septembidií, 1842. ddyrchefir." Ei brii' gyfeillion oeddynt ganlynwyr yr Oen, o ba sefyllfa bynag. Yn ei ddiwyd- rwydd diflino i ymarfer â moddion gras, anaml iawn y byddai ci le yn wag o'r cylchoedd cyhoeddus. Gwrandawai fel pechadur teimlad- wy a thoddedig; gwelwyd ef yn aml yn wylo yn y moddion. Mawr gymeradwyai weinidogaeth ymar- ferol, ac nid ocdd un amser yn sychedig am ddoniau dyeithr. Yii ei onestrmydd, cynghorai a cherydd- ai yn bersonol ac eglwysig yn hollol ddidderbynwyneb, a chyda thyner- wch mawr—meddai wyneb llew a gwyueb oen. Yr oedd yn drwyadí unplyg yn ei egwyddorion, a di-; íeddwl-ddrwg am neb. Ni chy- merai ei lithio gan ddeniadau, ond yr oedd yn hollol ddarostyngedig i gynghorion a chyfarwyddiadau ei frodyr, ac yn dra ystwyth i olyg- iadau y rhifedi lluosocai'o'r eglwys. Ni chlywyd ef' erioed yn athrodi, difenwi,nac absenu neb; a cherydd- ai yn llym bawb a dueddai at hyny. Yn eìymroad a'i ymdrech difiino i gadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangnefedd, ni welais neb yn fwy gofalus i wneud pob casgliadau yn eu tymhor priodol, ac ymgynghorai â'r eglwys pa fodd i ddwyii yn mlaen amgylchiadau yr achos; nid fel un yn tra-arglwyddiaethu ar eti- feddiaeth Duw, ond fel cydfilwr a chydweitliiwr. Yn ci ymarweddiad, yr oedd yn dra gofalus ar ei ymddy- ddanion, yn hynod o reolaidd a chyson yn y cyflawniad o grefrdd 33