Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 20. Cyf. II. AWST, 1842. Cyfres Newydd. COFIAIT JOHN JONES, O NANNERCH, SWYDD FFLINT, AC ERAILL. John Jones ydoedd fab i Anthony a Mary Jones o'r pentref uchod, ychydig o hanes marwolaethau y rhai a ymddangosodd yn y Dysg- edydd am 1825, tudal. 24, ac 1826, tudalen 80. Cafodd ein hanwyl frawd fanteision dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd, y rhai a ddefnyddiodd yn briodol at gadw cyfrifon ei alw- edigaeth yn drefnus, gwasanaethu yr Ysgol Sabbathol fel Athraw ac Ysgrifenydd, yn nghyda chadw cyf- rifon yr eglwys yn hardd a rheol- aidd fèl Diacon. Yr oedd yn hy- naws yn ei dymher, yn gymeradwy yn ei gymydogaeth, ac yn ddichlyn a dyfal yn ei alwedigaeth. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Rhesycae, Gorph. 11, 1813, pan oedd y Parch. D. Davies (yn awr o Aberteifi) yn Weinidog yno; eithr wedi i gapel y Waendymarch gael ei adeiladu, sefydlodd ei gartref crefyddol yno, oblegid ei fod yn agos i'w breswylfod, i'r dyben i gynnorthwyo achos yr Arglwydd yn y lle hwnw. Meddai olygiadau cywir ar athrawiaethau yr efengyl, a hoffai yn fawr ddarllen y Bibl, a llyfrau buddiol eraill, o ba rai yr oedd ganddo gryn nifer; megys, Esboniad M. Henry ar y Bibl; eiddo y Dr. Lewis ar y Testament Newydd, yn nghyda'r rhan fwyaf a ysgrifenodd y gwr enwog hwnw; Geiriadur Ysgrythyrol Mr. Charles; y Dysgedydd o'r dechreuad; yn nghydag amryw lyfrau eraill. Caf- odd y fraint o harddu athrawiaeth Duw ei Iachawdwr drwy ei yrfa o Augüst, 1842. broffes grefyddol, yr hon a barhaodd agos i naw ar hugain o flynyddau. Cyfranai yn gyson at Gymdeithasau y Cenhadau a'r Biblau, yr Undeb Cynnulleidfaol at dalu dyíed Addol- dai, yn nghyda'r achos gartref yn ei amrywiol ganghenau; a bu ei àŷ yn llety cysurus i Weinidogion yr efengyl,—yn gyntaf gan ei rieni, ac wedi hyny ganddo ef a'i chwaer, yr hon yn awr a adawyd yn unig i alaru ar ei ol,—a mawr oedd eu gofal am danynt, fel y gŵyr y rhai a fu yno. Yr oedd yn ofalus iawn i ymarfer â moddion gras yn gyson, yn ei deulu, ac yn yr eglwys hefyd, fel na welid ei le un amser yn wag yn y capel, heb fod rhyw beth cyf- reithlawn yn ei attal, hyd o fewn dwy flynedd a hanner cyn ei farwol- aeth,pryd y taráwyd ef gan y parlys, fel y bu yn wanaidd o hyny allan. Nid oedd yn amleiriog yn ei gy- nghorion a'i weddiau; eithrbyddent yn drefnus, synhwyrol, a nefolaidd yn eu harchwaeth. Dyoddefodd ein cyfaill gystudd trwm, a hyny yn amyneddgar, fel Cristion, yn ystod yr adeg a enwyd; felly attal- iwyd ef rhag dyfod i aŷ yr Arglwydd yn fynych; wedi hyny caethi^yj^d ef i'w dý, yna i'w ystafell wely, ac o'r dÌAvedd i'w wely yn hollol. Yr oedd gwirioneddau yr efengyl yn cysuro ei enaid trwy ei g)rstudd, a'i gysur yn mwyhau fel yr oedd ei gystudd yn trymhau. Yr oedd yn dra gofalus rhag iddo ddywedyd dim mewn modd grwgnachlyd dan bwys cystudd; a deisyfai weddiau 29