Skip to main content

Y DY8GEDYDD. Rhif. 17. Cyf. II. MAI, 1842. Cyfres Newydd. COFIANT MR. D. MORGAN, TALYBONT, SWYDD GEREDlGION. Mawii ac amryw yw y treigliadau sycld yn y fuchedd hon, y rliai sydd yn cael eu trefnu a'ullywyddu gan y Duw hwnw, yr hwn sydd yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth ; a thrwy lywyddiaeth ddoeth yr hwn y mae poh treigliad gwrth- ddrychau dyfodadwy ac ymadawol yn cymeryd lle; a phan y mae y gweithrediadau cynhyrfiol sydd yn achosi y treigliadau hyn i gymeryd lle, y maent yn achosi efiëithiau o hyfrydwch neu dristwch, llawenydd neu alar, a hyny yn ol natur y gor- uchwyliaethau a weinyddir: ond yn wyneb amrai o'r goruchwyl- iaethau, er chwerwed ydynt i'r natur ddynol, rhaid dywedyd mai cyfiawn yw Duw, ac mai at ddaioni dynion yr amcana. O herwydd hyny, cydnabyddwn helaethrwydd ei ddaioni, a chyfiawnder ei wein- yddiadau, yn nghydag unionder ei ddybenion yn y cwbl, nes ein dysgir i ddywcdyd, "Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Gwrthddrych y cofiant hwn oedd fab i Mr. John ac Elizabeth Mor- gan, o'r Llew Du, yn y lle uchod. Yr ydoedd ei rieni yn bobl hedd- ychol a thawel yn eu hardal; fel cymydogion yn gymwynasgar, hael- ionus, a thirion; ac yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig. Cafodd ysgrif- enydd y llinellau hyn gyfleusdra i wybod am wrthddrych ein cofiant er yn blentyn. Nid ydoedd mor ddrygionus a chwareus a phlant yn gyffredin, ond yn fwy llonydd felly. May, 1842. Cafodd ddysgeidiaeth yn lled dda; a phan rhwng pymtheg a deunaw, oed rhwymwyd ef i ddysgu y gel- fyddyd o gyfrwyaeth, a chyflawn- odd ei ymrwymiad yn ffyddlawn. Gwedi hyny aeth ein brawd i ddilyn ei alwedigaeth i Lynlleifiad a Mancenion, a bu yn y trefydd uchod amrai flynyddoedd; ac ni chlywais yn amgen am dano nad ydoedd yn byw bywyd sobr a dichlynaidd. Oddiyno dychwel- odd, a sefydlodd gyda'i rieni yn ei hen wlad, gan ddilyn ei alwedig- aeth. Yn mis Tachwedd, 1811, ymunodd mewn priodas â Sophia Morgans, merch i'r diweddar Rich. Morgans, Ysw., o'r Maesnewydd, yn yr un gymydogaeth. Bu iddynt bedwararddeg o blant, o'r rhai nid oes ond pump yn fyw yn bresenol. Yn y fìwyddyn 1813, dechreuodd deimlo yn ddwys am fater ei enaid. Yr wyf yn cofio yr amgylchiad yn dda a fu yn foddion deehreuol er achosi y teimlad hwn, sef marwol- aeth sydyn ei fam. Yn fuan ar ol hyn ymunodd â'r Eglwys Anni- bynol, yn Nhalybont. Bu yn aelod hardd, dysglaer, a defnyddiol iawn, yn yr eglwys uchod am naw mlynedd ar hugain, a bu yn ddiacon o bump i chwe' blynedd ar hugain. Fel dyn yr oedd yn meddu galhi- oedd ìled ëang, ac ysbryd llonydd a digynhwrf. Fel priod, yr oedd yn dyner a serchog. Fel tad, yn ofalus ac ymdrechgar i rybuddio a liyfforddi ei blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a phar- 17