Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Riiif. 16. Cyf. II. EBRILL, 1842. Cyfres Newydd. HAIES MILTIADES, Miltiades, mab Cimon yr Athen- iad, oedd nodedig uwchlaw pawb am hynafìaeth ei deulu, clod ei hyn- afiaid, a'i wylder ansodol ei hun. Pan gyrhaeddodd yr oedran pryd y gallasai ei gydwladwyr nid yn unig bryderu yn dda am dano, ond bod yn hollol sicr y byddai iddo ar brawf ateb eu dysgwyliadau, dy- gwyddodd bod yr Atheniaid am anfon trcfedigion i'r Chersonesus Thracice, neu Orynys Thracia, ger yr Hellespont; ac yn gymaint a bod llawer o'r dosparth hwnw am ran yn yr hynt, dewiswyd rhai o blith y lleill i fyned i ymgynghori â'r arma (oracle) yn mherthynas i'r hwn a ddewisent yn flaenor; herwydd yr oedd y Thraeiaid y pryd hwnw mewn meddiant o'r wlad, ac yr oedd yn rlieidiol ym- frwydro á hwynt. Gorchymynodd y Bythones, neu ofteiriades Àpolo, yn benodol i'r rhai a ddanfonasid i ymgynghori â lii i gymeryd Milti- ades yn flacnor iddynt, ac os gwnel- ent felly, y byddai i'w hamcan lwyddo. Ar yr atebiad hwn o eiddo yr arma, Miltiades, gyda llu dewis- edig o wyr, a hwyliasant i'r Orynys. Gwedi tirio yn Lemnos, ac yn chwennychu darostwng trigolion yr Ynys hòno dan awdurdod yr Athen- iaid, ceisiodd ganddynt roi eu hun i fyny o wirfodd; eithr hwy yn wawdus a atebasant, y gwnaent felly pan y byddai iddo ef, gan hwylio oddicartref, dirio yn Lemnos gyda gwynt y gogledd, yr hwn wynt sydd hollol grocs i'r rhai a ddcuant o April, 1842. Athen. Miltiades, heb amser i aros, a brysurodd am y lle yr oedd yn rhwym iddo, ac a diriodd yn yr Orynys. Gwedi gwasgaru mewn ychydig amser fyddinoedd yr anwariaid,* ac wedi gwneud ei hun yn feistr ar yr holl wlad yr anfonasid ef i'w chy- meryd, amgaerodd y cyfryw leoedd ag oeddynt gymhwys i gestyll; ac wedi seíydlu y bobl a gymerasai efe ganddo yn y wlad, berthogodd hwynt drwTy ei fynych ruthriadau ar y gelyn. Yn y pethau hyn, nid oedd ei gallineb yn llai eynnorthwy iddo na'i lwyddiant; herwyddwedi iddo drwy wroldeb ei filwyr orch- fygu byddinoedd y gelyn, trefnodd y cyfoll yn y modd cyfiawnaf, a plienderfynodd aros ei hun yn yr un sefylífa; canys yr oedd efe yn eu plith hwynt ynmeddu awdurdod brenin, er bod yr enw yn eisieu. Ni wnaeth ei awdurdod yn yr hynt hon fwy nag a wnaeth ei gyfiawn- der tuag at ddwyn iddo yr urddas hwn, ac nid oedd efe yn llai esgeul- us i gyflawni ei ddyledswyddau at yr Atheniaid, gan y rhai y danfon- asid ef. Trwy y moddion hyn bu iddo ddal y llywodraeth heb attal- iad, yn gymaint drwy gydsyniad y rhai ìiyny yr anfonasid ef ganddynt ag eiddo y rhai hyny gyda pha rai ei hanfonwyd. Gwedi sefydlu pob petli yn yr Orynys, dychwelodd i Lemnos, a cheisiodd ganddynt roi y ddinas i fyny iddo ef, eithr mai ci * Anwariaùl neu farbariaid y ^aìwai y Groog- iaid a'r Rhui'einiaid bawb ond eu cenel eu hun. 13