Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYD Riiif. 15. Cyf. II. MAWRTH, 1842. Cyfres Newydd. COFIANT MR. GEORGE LEWIS DAVIES, MAB HYNAF Y PARCH. E. DAVIES, ATIIRAW YN ATHROFA ABERHONDDU. Ganwyd y gwr ieuanc duwiol a doniol liwn vn Llanfyllin, swydd Drefaldwyn, Mai 11, 1821. Cyf- lwynwyd ef yn dri mis oed i'r Arglwydd trwy fedydd, gan ei daid, y Parch. Dr. George Lewis, yn ol enw yr hwn yr enwasid ef. Dyg- wyd ef i fyny yn grefyddol, mewn parch i Dduw, a chariad at ei was- anacth; ac, fel Timotheus, yr oedd er yn fachgen yn gwybod yr Ys- grythyr Lan, yr hon oedd abl i'w wneuthur yn ddoeth i iachawdwr- iaetli. Feì yr oedd rn cynnyddu mewn ocdran, nid anmhriodol a fyddai dywedyd ei fod yn cynnyddu mewn gi'as, ac mewn íFafr gyda Duw a dynion. Amlygai er yn blentyn lawer o hawddgarwch me- ddwl ac addfwynder ysbryd, yr hyn a barai iddo fod yn lioíF ac anwyl gan bawb a'i hadwaenent. Dang- osai yn fore ystyriaeth o fawredd Duw a'i bresenoldeb, acoíhai wneud yr hyn oedd feius yn y dirgel, fel yn y cyhoedd,—ac yr oedd' digio Duw yn betli yn ei olwg fel digio ei ricni. Yn y modd hyn yr oedd o'i febyd yn rhoddi arwyddion ci fod dan argraffiadau crefyddol—yn fwynaidd o ran tymher—j'n dyner o ran cydwybod—ac yn ofalus o ran ymddygiad. Byddai bob amser yn dra gofalus i ymgadw oddiwrth gymdeithion anaddas; ac cr nad oedd neb yn fwy serchus a siriol gyda'i gyfeillion detholedig, ym- wrthodai yn llwyr â'r drygionus a'r nnfoesgar. Ainlygodd yn fuan, dan arwciniad ci dad, gymhwysdcr- Marcii 1842. au nodedig i ddysgu, ac nis gallasai ei rieni lai na llawenhau wrth weled arwyddion mor foddhaol y buasai yn enwog mewn gwybodaeth, yn gystal ag mewn rhinwedd—yn an- rhydedd i grcfydd ac yn addurn i ddynoliaeth. Erbyn bod yn ddeu- ddeg oed yr oedd yn hynod gyfar- wydd, nid yn unig â changhenau cyflfredin dysgeidiaeth, ond â daear- yddiaeth, hanesyddiaeth, a hen ieithoedd Groeg a Rhufain, yn y rhai y darllenai yn rhwydd y beirdd Virgil a Homer, a'r awdwyr rhydd- iaith Caesar a Cicero. Ei elfen oedd dysgeidiaeth, yn yr hon yr oedd fel yn ymhyfrydu byw, ac nid . ocdd ei ymgyrch ar ol gwybodaeth \n cael ei gyfyngu o fewn cylch awdwyr ac ysgnfenwyr yr hen oesoedd, ond yr oedd ei awyddfiyd yn cymeryd i mewn feddyliau pob oes ac ysgrifenwyr pob cenhedlaeth. O herwydd hyny yr oedd fel hanes- ydd yn dra nodedig, a dymunol iawn fyddai i bob un sydd yn edrych yn mlaen at y weinidogaeth ym- dreclm bod yn gyfarwydd â hanes yr hiliogaeth ddynol yn ei hamryw- iol bertnynasau a chyflyrau, gan nad oes un peth mor fuddiol i addurno ac amaethu y meddwl; ac yn gynnorthwy i gynnyddu yn mhob rhan arall o ddysgeidiaeth. Cyn bod yn bedairarddeg oed, yr oedd Mr. G. L. Davies yn gwybod yr Ebraig i fesur helaeth, ac wedi cynnyddu i raddau mawr yn y gelf- yddyd o Rif a Mesur (Mathematics), yn yr hon yr oedd yn cymeryd mawr