Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Riiif. 9. Cyf. I. MEDI, 1841. Cyfres Newydd. COFIANT MR. GRIFFITII HÜGHES, DIWEDDAR FYFYRIWR YN ATIIROFA HACRNEY, LLUNDAIN. Tí\Híu9ei>; sv ohiyw m\tipwrs föoyouç fxanpovç. Apea-Tn yap >)V x.voiw n 4''JXV avT0V $la tovto íritiwii. Sap. iv. 13, 14, --------------------------Sed omnes una monet nox, Et calcauda Semel via leti. Hor. Lib. 1. 28. Mae cofiant dynion a ragorynt, naill ai mewn gwybodaeth, dysg, neu gywreinrwydd, yn ddosparth o han- esiaeth ag sydd yn gyffredinol, yn peri difyrwch, weitliiau addysg, ac yn aral wir adeiladaeth i'r darllen- ydd; oblegid y mae esiampl yn addys^ fywiol, yn ngoleuni yr hon yr amlwg-welir rhinweddau a choll- iadau y bywyd dynol. A phan y mae drwg a da, gwirionedd a chyf- eiliomad, rhimvedd a bai, yn cael eu gosod o'n blaen, y mae rheswm, cydwybod, ac ysgrythyr yn galw arnom i ddewis y da, ac ymwrthod â'r drwg. Ac os yw gwrol orchest- ion rhyfelwyr, clodfawr gynlluniau gwladeiddwyr, a mawrion antur- iaethau tir a môr deithwyr, yn werth eu coffadwriaethu; Uawer mwy y teilynga enwau rhyfelwyr y groes, amcanion gweinyddwyr y saint, a theithwyr tir Immanuel, gael eu bytholi; fel y gallo eu hol- ynwyr, wrth deithio yr anial, eu hefelychu yn eu rhinweddau a'u dysglaer rasau, y rhai a addurnent cu bywydau defnyddiol. Fel cread- uriaid rhcsymol a chymdeithasol, y mae yn naturiol genym fawrhau coífadwriaeth ein hanwyl gyfeillion, yn cnwedig y rhai hyny ag oeddynt yn eu bywydau yn addurn i gym- deithas, yn anrhydedd yn y wlad, ac yn dystion bywiol o wirionedd y grefydd Gristionogol. Pan ystyr- iom eu cymeriadau difrychau,—eu gwroldeb glewaidd dros y gwirion- edd—eu diflin lafur i wneuthur daioni,—eu goddefgarwch dan y September, 1841. croesau,—eu tawel ymorphwysiad ar eu Tad nefol, yn nghyda'u ded- wydd ymadawiad o'r byd hwn i'r trigfanau gwynfydedig; byddwn yn teimlo awydd am fod yn debyg iddynt, a dweyd fel y dywedai Balaam gynt, "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a boed fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Man yn wir na chafodd gwrthddrych y cofiant hwn ond oes fer ar y llawr; ni bu ei amser ar chwareufwrdd gweithrediad, ond fel tarth yn ym- ddangos, ac wedi hyny yn disymwth ddiflanu; ac er iddo dreulio rhan fawr o'r amser a benodid iddo gan Ragluniaeth Naf i fod yma ar y llawr, mewn diwyd a dwys fyfyr- dodaeth, er mwyn addasu ei Imn i droi mewn cylch cyhoeddus a defn- yddiol yn ei fywyd, yr hyn ni chan- iatawyd iddo gan y Penllywydd mawr; etto megys yr edrychai y llysieuydd medrus gyda hyfrydwc'h a phleser neillduol ar y blodeuyn, pan heb gwbl ymddattod o'r byw- yllyn (bud), pan y dychymygai wrth ei wedd siriol am ei lun a'i faintioli pan y cyrhaeddai oedran addfedrwydd; er efallai na thyfai byth i'w faintioli, i ddadblygu ei ben prydferth, arddangos ei liw hardd, ac i wasgaru ei berarogláu hyfryd- lon; felly, meddyliwyf fod llawer o bethau yn hanes gwrthddrych y byr-gofiant hwn ag sydd yn deilwng o sylw ei oroesolion. Mr. Griffith Hughes ydoedd fab Anne ac Hugh Hughes, Cefnuchaíj Llanddeiniolen, swyíld Gaerynarfbn. 33^