Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 8. Cvf. I. AWST, 1841. C\rFRES NEWYDD. COFIANT AM ROBERT LEWIS, O'R FRONDIRION. Robert Lewis ydoedd fab i Lewis a Mary Thomas, o'r Frondirion, Blaenau Ffestiniog. Ganwyd ef ar y 5ed o Mehefin, 1820, o deulu crefyddol, yr hyn sydd yn fraint dra gwerthfawr ond ei defnyddio. Ei rieni ydynt yn proffesu gyda'r Annibynwyr. Gyda golwg ar y rhan gyr.taf o'i fywyd, gellir dywedyd ei fod wedi ei threulio yn oferedd ei feddwl,trwy yraollwng gyda gwagedd y byd, dilyn pleserau ieuenctyd, rhodio yn ífordd ei galon, ac yn ngolwg ei lygaid, &c. Ónd da genyf allu dywedyd, er iddo gychwyn ar y íìbrdd lydan tua dystry w tragwydd- ol, ei fod wedi cael ei alw i winllan Crist, ac iddo fod yn ífyddlawn ynddi hyd ei fedd. Ië, bu yn weith- gar ac eftro yn ei dymhor byr,— gorphenodd ei yrfa heb gyfarfod â llawer o elynion, ac ymadawodd â maes y frwydr heb fod onid ychydig yn milwrio. Etto yr ychydig y bu yn llafurio, nid yn aml y gwelid neb yn fwy gweithgar a chyson gyda'i ddyledswyddau. Yr oedd ei ffydd- londeb yn fawr yn yr Ysgol Sab- bathol; ni byddai ei le yn wag yn y cyfrinachau neillduol; ond y man y byddai ei lafur yn ymddangos fwyaf fyddai mewn cyfarfod gweddi—yno y byddai yn ymglymu wrth orsedd gras, fel Jacob, mewn ymddygiad, yn dywedyd, " Ni'th ollyngaf oni'm bendithi." Yr ydym yn teimlo ein colled yn fawr ar ei ol fel brawd a garem yn fawr, ac y meddyliasem íòd llawer o waith iddo i'w wneuth- Auoust, 1841. ur dros Grist: ond, yn nghanol ei ddefnyddioldeb, ehedodd o swn y rliyfel (yn ol y gobeithion cryfion a adawodd ar ei oli'w berthynasau a'i frodyr yn yr Arglwydd) i wlad yr aur delynau, na roliodd cymylau galar dros ei hawyrgylch erioed. Ýr oedd yn nodedig o ymostyngol i ewyllys yr Arglwydd yn ei gystudd, gan aml-ddemyddio ymadroddion Eli," ' Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' Pa un bynag ai bywyd ai angau sydd o'm blaen, fy ngweddi yw am gymhorth i dewi, ac ymostwng i'w ewyllys ef." Ei glefyd ydoedd y darfodedigaeth, ac, fel eraiîl o'r un clefyd, byddai ar rai prydiau yn ymddangos fel pe mynasai aros yn y tabernacl hwn. Bu am rai wythnosau yn rhwym- edig yn ei dý gan ei gystudd; ond ychydig cyn ei farwolaeth gallodd ymddangos yn rhodfeydd y brenin i gydgyfranogi û'i frodyr o'r wledd sydd yno ar y bwrdd. Tybiodd y pryd hyny y gallai wrellhau ond symud ychydig o'r ardal, yr hyn a wnaeth i ochr sir Ddinbych, yn agos i esgobaeth y Parch. Thomas Grifiîths, Betliel; a bu yno hyd awr ei ymddattodiad, yr hon a gymer- odd le Tachwedd 15, 1840, ar nos Sabbath, pan yn myned i wrandaw ar y Parch. J. Parry o'r Wern. Yr oedd wedi bod yn yr addoliad am 2, yn gwrando ar Mr. Parry yn pregethu oddiar 2 Tim. 2. 1, yn nghylch goddef cystudd, &c. Eft- eithiodd hyn yn fawr ar feddwl ein brawd er ei wneuthur ef yn fwy 29