Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 7. Cyf. I. GORPHENAF, 1841. Cyfres Newydd. HANES LYCURGUS, Y DEDDFRODDWR. Difyrus ac adeiladol hynod yw troi dalenau hanesiaeth—olrhain cyf- ansoddiad gwahanol deyrnasoedd— adolygu bywydau ac ymddygiadau gorchestwyr, a sylwi ar ysgogiad cyfnewidiol a threigliad dirgelaidd amser; wrth hyn y deuir yn gydna- byddus ag arferion y cynoesau—y gwelir nerth a gweithrediad athry- lith—ac y canfyddir llwybrau rhyf- edd rhagluniaeth ddwyfol. Mae pob math o hanesiaeth yn dal cy- sylltiad i raddau ag unigolion, oble- gid mae pob sefydliad yn cael ei wneuthur i fyny o, a phob gorchest- waith yn cael ei gyflawni gan, unig- olion; amhynybydd gwybod hanes dynsodion unigol, os bydd rhyw enwogrwydd yn perthynu iddynt, yn fanteisiol i gyrhaedd gwybod- aeth hanesiol yn gyffredinol. Mewn bywgraffiadau dosperthir y gwrth- ddrychau i wahanol ddosparthau, megys y gwladwr, y rhyfelwr, a'r athronydd: rhestrir gwrthddrych yr hanes canlynol yn gy ffredin yn mysg y dosparth blaenaf. Yr oedd Lycurgus yn byw yn nyddiau y prophwyd Elias, a thua yr un amser ag y blodeuodd y per- oriaethydd godidog Thales. Gwa- haniaetha haneswyr ychydig mewn perthynas i'w rieni: dywed y bardd Simonides mai mab Prytanis oedd, ond gwrthddywedir hyn gan bob hanesydd arall, a dangosir mai mab un o frenhinoedd Sparta ydoedd. Lladdwyd ei dad pan yn ymdrechu darostwng terfysg ac ymryson a godai y pryd hyny yn y ddinas; ac July, 1841. esgynodd Polydectes ei fab hynaf i'r orseddyn ei le; ond nid hir y bu ef yn ysgwyd ei deyrnwialen fren- hinol, ac nid hir y mwynhaodd anrhydedd yr orsedd a'r goron—bu farw ar ol byr deyrnasiad, gan adael y llywodraeth yn nwylaw ei frawd Lycurgus. Pan oedd Lycurgus newydd gy- meryd arno y gorchwyl pwysig o lywodraethu ei gydgenedl, dywed- wyd wrtho fod y frenhines,ei chwaer- yn-nghyfraith, yn feichiog; a phan y deallodd hyn cyhoeddodd ynunion- gyrchol fod yr orsedd yn perthynu i'r baban, os y dygwyddai fod yn fab, ac y byddai iddo yntau roddi y llywodracth i fyny, ac arfer ei awdurdod fel noddwr neu olygwr y llywydd ieuanc. Yn fuan ar ol hyn anfonodd y frenhines genhadydd i ddymuno arno ymuno â hi mewn undeb priodasol, gan hysbysu, ar yr un pryd, os y cytunai ef â'i chais, y byddai iddi ddefnyddio moddion i ddinystrio yr un bychan. Yr oedd y cynhygiad annaturiol hwn yn hollol annerbyniol ganddo; ond rhag tramgwyddo a digio ei mawrhydi, diolchai am y newydd, ac anfonai y cenhadydd ymaith gydag arwyddion o lawenydd, a chan ei chynghori i ymattal rhag cyflawni y fath weith- red annheilwng sicrhai y byddai iddo ef, cyn gynted ag y genid y plentyn, "ei gyrneryd ef oddiar y ffordd." Yr oedd yr ymddygiad hwn o'i eiddo yn deilwng o wladwr ac athronydd trwyadl. Pan a;lybu fod v frenhines vn