Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhip. 0. Cyf. I. MEHEFIN, 1841. Cyfres Newydd. HANES ALEXANDER FAWR. Wrtii rodio ar hyd feusydd hancs- yddiaeth hynafiaethol canfyddir yn aml dywysenau breision, oddiwrth y rhai y gall y meddwl ymofyngar gasglu llawcr o fFrwythau difyrus ac addysgiadau adeiladol: yma rhodd- ir darluniad o wledydd eang, y rhai ydynt er ys oesoedd yn anenwog; o ddinasoedd cacrog, a wnaethpwyd yn garneddau; o atlironyddion clod- wiw, a anfarwolasant cu henwau drwy dreiddio i mcwn i ddirgeledig- aethau anian; o ddeddfroddwyr godidog, a osodasant i lawr reolau hywyd i'w lioloesolion; ac o ryfelwyr gwrol, a ddychrynasant genhedloedd drwy eu dewrder, lliwiasant y maes â gwaed trueiniaid, a gwnaetliant i greigiau adseinio gan swn buddug- oliaeth. Yn mhlitìi y dosparth diw- eddaf yr oedd gwrthddrych y byw- graffiad hwn yn un o'r rliai blaenaf o ran ci wroldeb, ei fedrusrwydd, a'i lwyddiant. Y mae'r enw Älex- ander yn dra adnabyddus i fy nghydgenedl y Cymry; etto y mae llawer o honynt, yn ddiammau, heb wybod fawr am dano ond ei enw yn unig, ac i'r cyfryw dichon mai nid anfuddiol fyddai rhoddi talfyriad o'i hanes yn y Dysgedydd. Yr oodd Alexander yn íàb i Philip breninMaccdoniao Olympias, merch brenin Epirus; ac felly, yn ol chwedl- ddysg y Groegiaid, gallasai olrhain oi achyddiacth o Iau, prif dduw ei wlad. Ganwyd ef y 6cd o Fehefìn, yn y flwyddyn 355 cyn Crist, ar y noson ryfeddol y llosgwyd teml Diana yn Ephesus gan Erastratus, j June, 1841. yr hyn, yn mhlith pethau eraill, a achosodd i'r dewiniaid ddarogan y buasai y plentyn brenhinol yn achos o losgiad cyífredinol drwy holl Asia. Derbyniodd Philip hanes genedig- acth ci fab—buddugoliaethParmenio blaenor ei fyddin ar yr Iüriaid—a llwyddiant ei feirch yn ennill y gamp bcnaf ar fynydd yr Olympiad, yr un dydd, yn ebrwydd wedi iddo orchfygu Potidaea; ac nid bychan oedd y boddlonrwydd a roddodd hyn i'w feddwl, trwy fod pob peth yn dangos mai bywyd o fawredd oedd yn aros y baban. Dangosodd Alexander er yn ieuanc ei fod o dymherau uchelfryd: pethau uwch- law y cyffredin bob amser a ddenent ei sylw. Pan ofynwyd iddo a fuasai yn rhedeg gyrfa yn y campau 01- ympaidd; atebodd, Rhoddwch i mi frenhinoedd yn gydgeiswyr a gwyn- ebafy gamp-faes. Rhoddwyd gofal ei ddysgeidiaeth i lawer o athrawon dysgedig, ond y mae yn amlwg iddo gael ei berfîeithio yn y rhanau mwyaf pwysig ganAristotle, prif ath?-onydd y byd; a dangosodd, yn ei gynnydd anarferol a'i nodweíldiad canmoiad- wy fod yr efiydydd yn deilwng o'i athraw, yr un wedd ag yr oedd yr athraw yn deilwng o'i efiydydd. Tynodd sylw neillduol cenhadau brenin Persia, pan y derbyniodd hwy mor^arediíí a boneddicraidd yn absenoldeb ei dad: parodd iddynt ei hoffi mewn syndod trwy ei holiadau manwl yn nghylch pellder y íFordd i'w gwlad, nochveddiad eu brenin, ei ymddygiad tuag at ei elynion. nifer ■21