Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Riiif. 4. Cyf. I. EBRILL, 1841. Cyfres Newydd. COFIANT MRS. HÜGHES, O'R UNION, TREFRIW. Ar y 14 dydd o Ebrill 1840, yn 49 mlwydd oed, bu farw Mrs. Hughes o'r Union, Trefriw, ger Llanrwst. Nith ydoedd i Mr. William Owen, Pantyllin, a chwaer Mrs. J. Jones, argraffydd, Llanrwst. Yr oedd hi yn ateb yn lled helaeth i'r darluniad ysgrythyrol o wraig rinweddol, "Un o rìl.—Ti a ragoraist arnynt oll." Nid oedd Mrs. Hughes ond un lled wan o gyfansoddiad, ac iechyd. Bu iddi naw o blant, ond pump sydd yn fyw, y rhai ydynt mewn oed i deimlo eu colled fawr. Gwraig a mam effro, weithgar, a nodedig ofalus ydoedd. Yr oedd gofal y cwbl bron arni, mewn ac allan.— Rhwng teulu lluosog, a dyéithriaid yn galw am fwyd a diod, ymddengys fòd y llafur corfforol a meddyíiol wedi achosi iddi dòri a heneiddio pan yn lled ieuanc, cr yn gysurus a da ei sefyllfa fydol. Yr oedd Mrs. Hughes yn hynod addfwyn, tirion, a chymydogol wrtli bawb; yn rheolaidd a gwastad ei thynihcrau, yn alluog i lywodraethu ei hun, ei theulu, a dyeithriaid, gydag cithaf pwyll, difrifoldeb, a sirioldeb cyffredinol hefyd. Er ei bod yn wraig tafarndy, yr oedd yn cydnabod daioni a gwerth dirwest, ac yn ofalus rlíag dywedyd na goddef dim ynfyd a chaled am y Gymdeith- as, nac am ddirwestwyr cydwybodol a chywir. Ond yr oedd sefyllfa y tŷ, y tir, y 11 e, dybid, yn attalfa iddi wrthod y fasnach yn llwyr. Ymddengys fod argraffiadau cref- yddol ar feddwl Mrs. Htighes er yn ArRir,, 1841. ieuanc, a hyny yn benaf, efallai, trwy gael cynghorion serchog a dwys gan yr hen bobl ydoedd gerllaw. (j y fraint o gychwyn argraffiadau da ar feddyliau plant! Cefais yr anrhydedd o dderbyn Mrs. Hughes yn aelod eglwysig xn y flwyddyn 1827; felly canfyddir ei bod yn hir yn esgoreddfa y plant, yn cloffi, heb ddyfod yn gyhoeddus o du'r Arglwydtì. Ond bu yn hynod ffyddlawn, diwyd, a chyhoeddus oddiyno hyd ei niarw. Mor rhyf- eddol garedig a diflino ydoedd i dderbyn a chroesawu cenhadon yr Arglwydd! O, yr oedd hi yn hoffi CAvmpeini pobl dduwiol, a gweision Crist o bob enwad crefyddol, eglwys- wyr ac ymneilldmv}rr! O, nìd enn', eithr y ddelwy ydoedd gwrthddrych ei serch yn benaf! Os galwai ei gweinidog gyda hi yn fynych, hoflai a siriolai ei meddwl; ond os yn anaml y galwai yno, ni byddai hi, fel rhai, yn gwgu ac yn ceryddu, oblegid gwyddai hi nad gwr segur yw cennad Duw. Yr ydoedd hi hefyd yn dra nod- edig am ddysgu a hyfforddio ei phlant. Gyda thynerwch, lledneis- rwydd, sobrwydd, a difrifoldeb ang- ylaidd y byddai yu eu rhybuddio ac yn eu hegwyddori. Mor làn fydd hi yn y ìarn oddiwrlh eu gwaed! Pan oedd ei mab hynaf yn Llundain (physygwr) ysgrifenai ato,—" Mae yn dda genyf glywcd eich bod yn dyfod yu mlaen; ond, fy machgeu anẁyl, llawenhawn yn fwy pe clyw- wn eich bod yn dwyn iau Crist yn 13 *