Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 2. Cyf. I. CHWEFROR, 1841. Cyfres Newydd. COFIANT MISS SARAH JONES. Gâned Miss Sarah Jones o rieni crefyddol; ond bu farw ei thad pan oedd hi tua dwy a hanner mlwydd oed, pryd y cymerwyd hi gan ei nain i'r Plas Bulkeley, ac yn y teulu hwn y dygwyd hi fyny. Ennillodd serch yr holl deulu, íel na fynasent er dim iddi ymadael á hi. Cafodd hob mantais i wybod am grefydd o'i mebyd, am fod ei nain yn un o'r gwragedd mwyaf crefyddol yn yr ardalhon; a byddai ei thý yngaríref gan Aveinidogion Crist pan yn teithio trwy yrardal yma. Dywedai Miss Jones yn aml ei bod wedi ei dysgu er yn blentyn i barchu gweinidogion y gair. Cafodd ei mngu yn yr Ysgol Sabbathol, a pharchai hon yn fawr tra y bu byw. Dygwyd hi i fyny dannawddeglwys Dduw yn y Wern, a derbyniwyd lii yn gyfiawn aelod pan yn bedairarddeg mlwydd oed gan y Parch. W. Williams, a bu yn addurn i'w chrcfydd hyd ei bedd. Cafodd fanteision i gyrhaedd dysg- eidiaeth tu hwnt i'r cyfî'redin o'i chyfoedion, a gŵyr y rhai oeddynt adnabyddus á hi am ei henwogrwydd mewn dysgeidiaeth. Pan ymadaw- odd â'r ysgol, galwyd arni i fod yn Athrawes i blant Mr. Williams o'r Wern, a bu yno bum mlynedd. Soniai yn aml am y cyfleusderau hyfryd a gafodd yn y teulu santaidd hwn i gynnyddu mewn pethau cref- yddol, a chwynai o herwydd na buasai wedi gwneud mwy o ddef- nydd o honynt pan yn eu mwynhau. Tarawwyd hi â chystudd trwm yn y flwyddyn 1837, fel y meddyliodd February, 1841. ei lioll berthynasau na ddeuai byth trwyddo; ond yn y gwanwyn can- lynol gwellhaodd yn lled dda. Aml y soniai am yr addunedau a wnaethai yn y cystudd hwn,—Os gwella a wnai y byddai ei bywyd yn fwy santaidd a duwiol, ac felly y bu; canys yfodd yn helaeth o afon iech- ydwriaeth yn ei chystudd, a Uifbdcl allan yn hynod yn ei hymddygiadau ar ol hyny tra bu byw. Yn fuan ar ol hyn ysgrifenodd y llythyr can- lynol at ei brawd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ddigrefydd, ac yn hynod wyllt:— " Anwyi. Frawd,------Bwriedais lawer gwaith o'r blaen ysgrifenu atoch ar y pwnc hwn, sef', Eich annog yn dtlii'rifol i ymofyn am wir grefydd yn ddioedi. Fe allai y dywedwch eich bod wedi pender- fynu lawer gwaith ddyfod at grefydd, ond fod pob penderfyniad wedi myned yn ofer hyd yuia. Anwyl Frawd, yr wyf ynofni eich bod wedi gwneud y penderfyniadau hyny yn hollol yn eich nertli eich hun, a chwi a wyddoch uad allwn ni wneuthur dim o honom ein hunain. Yr ydych wedi dysgu cyfaddef eich bod yu bechadur, ond yr wyf yn ofni na theimlasoch hyn erioed. Gweddiwch yn enw Iesu am i'r Ysbryd Glan ddangos i chwi atcasrwydd eichpechodau, a'chgwaredu oddiwrthynt oll. Anturiwch yn mlaenj na ddigalon- wch; canys dywedir yn y gair, * Gof- ynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac agorir i chwi.' Anwyl Edward, a ydych ddim yn meddwl mai ofnadwy fydd ein cyflwr ni yn y farn os gwrthodwn yr holl betliau hyn! A ydyw yn ormod i ni fyw iddo ef yr hwn a roddes ei hun i farw drosom, fel y caem ni fywyd tragywyddol ? Ond efallai y dywedwch ei bod hi etto yn ddigon büan i chwi feddwl am hyn. Ond, fy Mrawd, a ydych yn rhy ieuanc i farw ? O, nac ydych yu ddianamau, am ein bodynbyw