Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 215] HYDREF, 1839 [Cvf. XVITI ÌÌYWGRAFFIAD MR. EVAN PARRY, O DREFFYNNON, SWYDD FFLINT. MAB ydoedd Fvan Parry i Frederick a a Jane Farry o dref Ruthin, swydd Ddin- bych; ac ẁyr i Mary Farry gynt, yr hon a dderbyniodd yr efengyl i'w thŷ yn un o^r iliai cyntaf yn nhref Rhuthin, dan y cawod- ydd erledigaethus gan blant Ysgol Fawr y dref,'y rhai oeddynt y pryd hwnw yn erlid- wyr ofnadwy i achos Crist a'i bobl; ac hefyd brawd i'r diweddar Wîlliam Parry, yr hwn a fu yn flaenor enwoff a hardd yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd yn y dref uchod am lawer o flynyddoedd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789. Bu farw ei fain pan oedd ond naw oed, a gorfu iddo, o herwydd amgylehiadau tra isel ei dad y pryd hwnw, droi allan i lafurio y ddaear, ac i fwyta ei fara trwy chwys ei wyneb: felly, efe a fu o'r amser hwnw yn weithiwr ffyddlon a diwyd ar hyd Dyffryn Clwyd, hyd yr awr y daeth i Dreft'ynnon oddeutu y flwyddyn 1814. Dygwyddodd fod yno g-yfaill iddoo'r enw William Owens, (yr hwn sydd yn awr yn berthynas trwy i E. P. briodi ei gyfnither), wrth ei alwad y pryd hwnw yn Fragwr gydag un Mr. John Lloyd. Ymadawodd VV. O. «Vi le trwy iddo fyned yn briod, ac ì drin tyddyn, ac felly y llenwodd E. P. ei le ef, (dan gyfarwydd- yd ei gyfaill W. O.); bu yno am ryw ychydig, ac ymadawodd yn y fl. 1816 at un Mrs. GrifBths, yn awr Mrs. Carnes, a bu gyda hi yn un ffyddlon, llafurus, a gofalus hyd ei farwolaeth. Ymbriododd oddeutu y ílwyddyn 1817 ag Elizabeth, merch y diw. eddar Henry aGrace Parry, gcrllaw Whit- ford, swydd Fflint; ganwyd iddo ddau o blant, mab a merch, pa rai ydynt yn fy w yn bresennol. Bu yn ystod ci fywyd yn ddyn llafurus a da i'w deulu, ac i'w gymmydogion a'i gyfeillion i gyd, yn un a fyddai yn caru gwncuthur cymmwynasau; a Ihorai drwy lawer o rwystrau iddo ei hun er mwyn gwneuthur yr hyn a allai i gymmydog- neu gyfaíll. Anaml yr ocdd un a berchid mor fawr gan bobgradd. Is'id oedd yn gwneyd 37 dim llai o'r tlawd, amwy o'r boneddwr, y ddau yr un fath; ond eto, yr ydoodd yn rhoddi parch i'r hwn yr oodd parch yn ddyledus. Dygwyd ef i fyny gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ond ni fu yn perthyn fel aelocl iddynt; ymadawodd â hwynt oddeulu chwe blyncdd yn ol, ac n aetli at yr Annibynwyr, gyda pha rai yr ydoedd yn cacl pleser a hyfrydwchanmhrisiadwy with eu gwrando. Cymmerwyd ef i'w wely gan glefyd trwm (rheumatic fecer) lonaw.r 23, 1S3Í). Bu ei gystudd yn llym iawn, ond ni pharhaodd onid pymthegnos. Yn amserei afiechyd yr oedd fel pe huasai yn tynu ei gysur o air y gwirionedd, ac adioddai amrywiol adnodau. Vn mhlith amrywiol bethau ereill, adroddai y rhan yma o bennill,— " Rr talu anfeidrol lawn, Hcb olyn Jim i nii." Un diwrnod gofynai ei ferch iddo, " Wel! fy nhad bach, dynia chwi wedi dod i fwlch cyfyngiawD: A oes nrnoch chwiofnmarw?" Atebai ù'i laisgwan, "Fy mhlentyn bach i, ni ddarfu i mi fyw mor annuwiol ag yi ydych chwi yn meddwl o lawer, ac ni adewais iddi fyned hyd yn awr heb yslyr- ied fy mod i farw!" Dangosodd yn amser eiglafychiady cariad cynneso) oedd ganddo tuag at ei wraig yn fwy nag erioed ; oblegyd ni chai neb wneyd na rhoddi dim iddo ond hi, ac os dygwyddai iddi fyned o'r ystafell yr amser y byddai yn huiio, wodi iddo ddeftro gwaeddai allan mor gryf ag y g-allai, "Fy ngwraig, i'y ugwraig anwyl, na adewch fi ain fynyd." Ond eto, er fod ei gariad a'i anwyldeb mor fawr, nid oedd hyny yn peri i angeu gilio ei law oerllyd a thrwni oddiwrtho, ac ni fu yr ymrwymiad uu fynyd yn hwy na'r addewid, hyd angeu. Felly ei ysbryd a ehcdodd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef, Chwefror 8fed, 1839, a chlud- wyd ei gorffpriddlyd y dydd Llun canlynol i fynwcnt Rhydwen gan luaws o'i bei'tbyn- asau, cyfeillion, a boneddigion y dref. Rhoddwyd araith rymns a bywiog gan y