Skip to main content

Y DYSGEDYDD- Rhif. 214.] MEDI, 1839. [Cyp. XVÍIÍ. RHAGLUNIAETH. Parhad o'n RMfyn diweddaf, tudalen 233. YìMDRECHWN, yn ail, ddangos fod Duw yn dysgwyl i'w holl greaduriaid gydweith- redu â Rhagluniaeth ;—" A roddech iddynt, a GASGLANT." 1. Mae pob creadur, os bydd yn gallu, yn rhwym o syinud o'i fan, fwy neu lai, cyn cyrhaedd ei ymborth. Mae Rhagluuiaeth yn rhoddi ei ymborth o fewn ei gyrhaedd, ac nid yn ei safn. Rhoddodd ymborth y pryfed yn y ddaear—ymborth y gwybed ar y ddaear ac yn yr awyr—ymborth y wen- ynen yn y blodau—ymborth yr aderyn â'r gylfiu hir yn y lleoedd lleidiog—ymborth adarereill o amgylch yr ysguboriau, ac ar hyd y meusydd—ymborth y gwylltfilod yn yr anialwch—ac ymborth y pysg yn y môr. Pebuasai ymborth y llew dair llath yn y môr—ymborth y pysgodyn dair llath ar y tir—ymborth yr ymlusgiaid ddeg llath yn yrawyr, buasaituhwnt i'wcyrhaeddyn llaw Rhagluniaeth. Mae yn ddifyr i edrych ar Ragluniaeth yn cario ei beichiau mawrion dros y lleoedd hyny ag oedd tu hwnt i gyr- haedd gwrthddrychau ei gofal, acynayn eu dodi i lawr, nes iddynt hwythau ddyfod yn mlaen i'w casglu. Cawn esboniad ar hyn os edrychwn ar y cynhauaf sydd yn addfed yn bresennol. Pe buasai Rhagluniaeth yn gadael y maes gwenith pan oedd newydd egino, yr oedd tu hwnt i'n cyrhaedd; pe buasai yn ei adael pan uewydd lenwi yn y dywysen, yr oedd yn rhy bell; ie, pe buasai yn ei adael er's wythnos yn ol, yr oedd tu draw i'n cyrhaedd; ond yn awr pan mae y gwenith wedi cyflawn addfedu, mae Rhag- luniaetli fel pe byddai wedi rhoddi ei baich i lawr. Nid gwiw i neb gwympo allan â Rhagluniacth, a dy wedyd, Os na ddaw a'r cynhauaf yn nes yn mlaen, myfi a'i gadawaf iddi hi. Mae yn rhaid i ni ei chyfarfod i'w fedi. Ond os nad ydyw wedi digo wrthym o herwydd ei hanniolchgarwch am y cyn- hauaf diweddaf, hi a'n cynorthwya eilwaith â hin addas i'w gynhauafa, ac ynabydd raid i uinau ei gynnull i'r ydlan, onidêhia'i gâd i bydru ar y maes. Mae yn dysgwyl wrth- 33 ym ni ei ddyrnu, ei falu, a'i bobi; ac yna hí a ofaladrachefn am ei fod yn rhinweddol i gynnal ein natur. Paham maeRhagluniaeth yn ^wneuthur fel hyn? Ni byddai waeth iddi ddyfod a'i gwaith i'r pen : rhoddi ym- borth pob creadur yn ei safn. Na, y niae hi am eu dysgu i gasglu yu gystal a derbyn, i gerdded a gweithio gystal a bwyta. Ac yn hyn mae yn tebygu i bob mam dyuer a synwyrol arall. 2. Mae Rhagluniaethyn gwahaniaethu yn ei gofal yn ol amgylchiadau. Ni roddodd Duw ddoethineb i'r estrys i eistedd ar ei hwyau, ac i fod yn dyner wrth ei chywion, ond hi a'u "gâd yn y ddaear, gan ollwns- dros gof y gallai troed eu dryllio," oblegyd hyny y mae Rhagluniaeth yn myned yn mhellach i'w chyfarfod, ac yn "cynesu ei hwyau yn y llwch." Mae rhai creaduriaid nas medrant gerdded yn mhelì i ymofyu lluniaeth: mae ymborth y rhui hyn wedi cael ei osod yn agos atynt. Mae Rhaglun- iaeth pan yn dysgu gwrthddrychau ei gofal i gydweithredu â hi, yri debyg iawn i'r fam pau ya dysgu y plentyn i gerdded. Pan mae y plentyn yn agos i fiwydd oed, ei gymmalau wedi cryfhau ychydig-, mae y fam yn ei ddodi ar ei draed, ac yn sefyll o gylch dau gam oddiwrtho, ac yna mae y plentyn yn rhedeg ac yn ymollwng i'w breichiau. Yn mhen diwrnod neu ddau drachefn, fel mae y pìentyn yn cryfhau, saif ynmhellach, dri neu bedwarcam oddiwrtho, a rhed y plentyn yn yr un modd, ac ymoll- ynga i'w mynwes. A ydyw gofal y fam yn myned yn llai, a'i chariad yn oerach at y plentyn pan yn sefyll yn mhellach oddi- wrtho? Nac ydy w ; ond y mae am ei weled yn cerdded. Felly mae Rhagluniaeth. Pau oedd cyw yraderyn yn y nyth, gofalodd ani ddyferu yr ymborth i'w enau; ac wedi iddo ddechreu magu plu, taflodd ddyrnaid o amgylch y nyth; ond wedi i'w esgyll ddyfod yn ddigon cryfion, taflodd Rhagluuiaeth ei ymborth hyd yr anialwch, a chafodd yr aderyn fyued yno i'w gasglu. Pan ocddym