Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 213.] AWST, 1839. [Cyf. XVIII RHAGLUNIAETH. " A roddech iddynt, a gasglant."......Salm 104. 28. RHAGLUNIAETH yw y testyn ar ba un y cyfansoddodd Dafydd y Salm hon. Cyf- eiria yma at y gwahanol wrthddryehau ag sydd dan nawdd a gofal Rhagluniaeth. Efe a ddywed mai hon a ddysg i'r lleuad gadw ei "hamserau nodcdig," a'r haul i "adnab- od ci fachludiad." Hon sydd yn gwisgo y liysiau a'r blodau a addurnant y bryniau a'r dyíTryuoedd—hon sydd yn casglu nôdd i'r prenau, "cedrwydd Libanus, y rhai a blan- odd llaw Iehofa.'1 Sonia y Salmydd yma am y pryfed a breswyliant y Ilwch, ac a ymlusgant ar wyneb y ddaear,—yr adar a leisiant oddi rhwng y cangau,—y creadur- iaid rheipus a rüant am ysglyfaeth yn yr anialwch,—yrymlusgiaid heb rifedi,bwyst- filod bychain a mawiion a breswyliant y mòr mawr llydan,—a dyn, arglwydd yr holl greadigaeth. Mae yn casglu y cwbl yn nghyd yn ngeiriau y testyn a'r aduod flaenorol, ac yn dywedyd, " Y rhai hyn oll a ddysgwyliant wrthyt, am roddi iddynt eu bwyd yn eu bryd. A roddech iddynt, a gasglant." Mae dosbarlh o ddynion yn y byd ynbarod i ofyn, Os yw Duw yn rhoddi, pa raid mwyach wrth gasglu ? Ac y mae dosbarth arall mor barod i ofyn, üs rhaid i'r creaduriaid gasglu, pa angen mwyach am Ragluniaeth i roddi ? Ond ymddengys i mi fod y geiriau hyn yn gosod allan ras a dylcdswydd yn eu cysylltiad â holl wrth- ddrychau gofal Rhagluuiaeth. "A roddech iddynt"—dynabenarglwyddiaethol ras-, "a gasglant"—dyna ddyledswydd. "A rodd- ech iddynt"-—dyna Ragluuiacth', "a gasgl- ant"—dyna gydweithredu â Rhagluniaeth. Gwnawn, yn I. Nodiadau cytTredinol ar Ragluniaeth. Gellir cymharu Rhagluniaeth î lawforwyn ag sydd yn rhagddarbod ac yn gofalu dros holl greadigaeth Duw. 1. Mae Rhagluniaeth yn eang a lluosog o ran gwrthddrychau ei gofal. Nis gwydd- oin ei hyd, ei lled, ei dyfuder, na'ihuchder; ond gwyddom ei bod mor eang a chrcadig- aeth. Os dringwn i'r nefoedd, mac hi yno: 29 os cyweiriwn ein gwely yn uffern, wele hi yno: pe cymmerem adenydd y wawr, a phe ehedem mor gyflym a goleuni y boreu am fyrdd o oesoedd, yno hefyd byddem o fewn cylch Rhagluniaeth. Os oes creaduriaid yu byw yn yr haul, y lleuad, a'r ser, pa un bynag ai tew ai tenau yw yr awyrgylch, ai poeth ai oer yw yr hinsawdd, mae hi yno yn rhagddarbod drostynt. Mae yn cyraedd o begwn y gogledd i begwn y dehau, ac o'r dwyrain i'r gorllewin. Nid yw gwres y cylch poethlyd, nac oernì y cylch rhewlyd, yn ei chau hi allan. Medr amgeleddu a chynesu yn ei mynwes y creaduriaid a lechant rhwng clogwyui o iâ, ac a ymglym- ant am begynau y ddaear. Nis medr y dyfroedd ei chau allan o gilfachau y dyfn- der •, ac nid yw y graig gallestr yn ei hattal i eigion y ddaear. Mae pob peth ag y mao flTuu anadl einioes ynddo yn by w ar ei bron, o'r creaduriaid auweledig a breswyliant y dafn dwfr, hyd y Lefiathan mawr, yrasym- udiad yr hwn a wna i'r mòr ferwi fel crochan. Dyma fammaeth heb ei hail. Er fod y Behemoth a'r gwybcdyn yn sugno yr un fron, nid yw yr olaf yn cael ei lethu gan y blaenaf. Brodyr, plant yr un fain ydym o!l pan gyfarfyddom ar fion Rhagluniaeth. Yma gellir dweyd, yn awr, fod "y blaidd yn trigo gyda'r oen, a'r llewpard yn gor- wedd gyda'r mynn; y llo hefyd, a chenau y llew, a'r anifail bras, ydynt yn nghyd. Y fuwch hefyd a'r arthagydborant, a'u llydn- od a gydorweddaut" yma. 2. Mae Iîhagluuiaeth yn fanwl. Mae gwallt ein penau yn gyfrifedig ganddi; ac nis inedr gelynion canlynwyr Iesu eu hym- ddifadu o un blewyn heb yn wybod iddi. Gwerthir putnp oadar y tô er dwy flyrling," ond nid oes un o honynt yn disgyn ar y ddaear heb i Ragluniaeth barotoi lle iddo i osod ei droed. Er mor hir ydyw y bwrdd sydd ganddi i edrych drosto, ac er mor lluosog yw gwrthddrychau ei gofal, "mae yn rhoddi bwyd iddynt oll yn ei bryd." Saif wrth ben y bwrdd,ady«gwjl wrthfil myrdd