Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 211.] MEHEFIN, 1839, [Cyf. XVIII. HANES BYWYD DOCTOR DAFIS. L/ALIWYD sylw yn llerì fynych mai arfer îlhagluniaeth ydyw cyfodi i fyuy ddynion rhagorol mewn doniau a rìysgeidiaeth, ar amseroedd hynod ac anghyffredin. Bidsicr na fagodd ardaloedd Cymru erioed, yn yr un oes, wŷr mwy dysgedig, mwy enwog eu doniau, a mwy gwresog yn yr ysbryd, na'r aidderchog lu o dystion, y rhai ar doriad gwawr y Diwygiad, a wnaethpwyd yn offerynau i wasgaru tywyllwchPabyddiaeth yn y parthau hyn; ac, yn mhlith y goleu- adau tra-dysclair hyn, hawdd y cyfaddefir mai nid y lleiaf oedd Doctor Dafiso Fallwyd. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanferres, yn sir Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1570. Yr ydys yn tybied mai enw ei dad ef oerìd Dafydd up Siôn ap Rhys* Gwehydd oedd ef wrth ei gelfyddyd ; ond os rhydd yw i ni goelio Risiart Cynwal, yr hwn a wnaeth Gywydd i'r Doctor Dafis i ofyn Bibl dros Robert Peilin, yr oedd efe yn perthyn i deuluoedd anrhydeddusyn NgoglerìdCymru. Danfonwyd y niab i Ysgol Rhuthyn, yrhon a gedwid y pryd hwnw gan y dysgedig Dr. Parry; ac yno, y mae yu debyg, y dechreuodd y gyfeillach garedig a barhaes wedi hyny rhwng y gwŷr enwog hyn, ac a fu mor fuddiol i Dafis, pan ddyrchafwyd ei gyfaill i gadair Esgobawl Llanelwy. Symmudwyd Dafis o Ruthyn i Ysgoldỳ Iesu yn Rhydychain, yn y flwyddyn 1589, lle yr arhosodd hyd oni chymmerodd y radd gyntaf yn y celfyddydan, (B. A.) Ar hyn efe a ymadawodd â'r Brifysgol; eto, fel y tystia ei lyfrau gorchestol, ni esgeulusodd, yr un pryd, un math o ddyfalwch i olrhain pob gwybodaeth fuddiol, ac i ychwanegu at ei ddysgeidiaeth o'r blaen. Tebyg yw mai ei arigen a barodd idrìo ymsymud o Ryd- ychain cyn gynted; canys pan chwanegwyd ei gyllid ef rai blynyddau wedi hyn (1608), ni a'i cawn ef yn aelod o Ysgoldŷ Lincohi, * Dwyfol wyt Siôn ddiflot sad, Dafis ireiddber dyfiad; Hollwaed Darydd lle tyfych, llap i ryw Siôn ap Rhys wych. lìitiari Cynwat, 21 yn yr un brifysgol. Gwnaethpwyd ef yn Ddoctor Duwinyddiaeth yn 1616. Ni wyddys yn mha le neu yn mha fodd y treuliodd efe ei amser ar ol ymadael â'r Brifysgol y waith gyntaf. Yn 1604 rhodd- odd y Brenin lagoiddo fywioliaeth eglwysig Mallwyd, yr hon a wall-gwympasai oddi- wrth yr esgobaeth yn yr ysbaid rhwng marwolaeth Dr. Morgan a chysegriad Dr. Parry yn ei le ef. Pan gymmerodd Dr. Parry gyflawn fedd- iant o'i esgobaeth, dangosodd ei fawr hyder ar Dafis, trwy ei ddewis yn Gaplan iddo ei huu, a rhoddi iddo yn mhellach y cyfryw fywioliaethau ag oeddynt yn aurhydeddus ac yn ennillfawr hefyd. Gwnaethpwyd ef yn Ganongyntaf yn Esgob-dŷ Llanelwy yn 1612, yr hyn a newidiodd efe am Brcband Llan Nefydd yu 1617. Cafodd Lanymow- ddwy yn 1613; Darowen yn 1615, yr hwn a roddodd efe i fyny am Lanfawr, gerllaw y Bala. Clybu yr ysgrifenydd fod plwyf Garthbeibio hefyd ganddo; ond ain y peth hwn ni allodd efe gael un dystiolaeth sicr. Mae Risiart Cynwal yn eu cofTa fel byn : Mae i ti renii drwy ras, Mab dewrddoeth, mwy bo d'urddas, Mallwyd sydd am welîhad sant, A Mowddwy yn eich meddiant, Llanfawr blàenawr heb ludd, Llawu afael, a Llan ISefydd. Er maintyr ymddengys niferei blwyfydd, bid sicr na wnaethant idrìo ymlaesu yn ei ddiwydrwydd o'r blaen, neu oeri ei fawr sèl er daioni a Iles ei genedl. Pan gymmerodd yr Esgob Parry mewn lîaw rìrìiwygio y cyfieitharì o'r Bibl a wnaethai Dr. Morgan, gwahoddwyd Dr. Dafis i gyuorthwyo y gwaith; ac, yn ddiammau, fe ddylid cyfrif rhan, nid bychan, o gy wreinrwydd addefed- ig yr argraffiad hwnw i'w gwbl adnabydd- iaeth o'r Iaith Gymreig. Iddo ef hefyd y syrthiodd y gwaith o gyfieithu i'w famiaith y Namyn-un-deugain Erthyglau Crefydd. Mae rhai hefyd yn haeru iddo gynorthwyo yr argraflìad a barotodd y Dr. Morgan, ood nid yw hyn yn debyg, os ua chamgymruer- wyd yn yr hanes yma yr amser yr ytnad-