Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 206] IONAWR, 1839. [Cyf. XVIII. CYMUS. (PARHAD O'N niIIFYN DIWEDDAF.) WeDI i Cyrus orchfygu y tro hwn efe a arosodd yn Asia leiaf nes gorchfygu yr holl gyfandir hwnw, o fôr Egea hyd afon Eu- phrates, ac wedi gorchfygu Syria ac Arabia, daeth yn ei oi i Assyria, a chan gyfeirio ei hynt tuaBabilon, yr hon oedd yrunigddinas nisgorchfygasai yn ngwledydd y dwyrain. Ond nid oedd gwarchae ar y ddinas hon yn ychydig waith; oblegyd yr oedd y muriau o'i hamgyleh yn uchel ac yn gedyrn, y pyrtli yn rymus a diogel, ei gwylwyr ar y tyrau yn lluosog, ac o'i mewn ddigon o gynnaliaeth i'f trigolion am ugain mlynedd. Ond ni wnaeth yr holl bethau hyn ddigaloni Cyrus yn ei ymgais. Yr oedd cadernid niuriau Babilon y t'ath fel na ymgeisiodd Cyrus ymosod arnynt trwy rym arfau, ond penderfynodd godi clawdd uchel, a thori fibsddofn o amgylch y ddinas, fei nas gallai neb o'r gwledydd o amgylch ddyfod â lluniaeth i'rddinas, gan fod yn sicr ybyddai raid iddynt ymollwng pan ddarfyddai eu hymborth. Bu Cyrus fel hyn am ddwy flynedd yn gwarchae ar Babilon heb allu gwneyd y niweid lleiaf iddi, pryd y daeth i'w feddwl y dull canlynol, trwy yrhwn hefyd y cymmerodd efe y ddinas. Hysbysid iddo y cynnelid gwledd fawr flynyddol yn Mabilon, ac y byddai y trigolion yn arfer treulio yr holl noson hòno mewn meddwdod a rhysedd; yutau yn gweled pryd felly yn amser cyfaddas i gynnyg ei anican, a drodd yr afon Euphrates, yr hon oedd yn rhedeg trwy Babilon, o'i gwely priodol, ac a aeth arhyd gwely yr afon, ac a gafodd y pyrth oedd o wely yr afon i'r ddinas wedi eu gadael yn agored trwy ddiofalwch y trigol- ion, ac felly aeth i mewn, ac a gymmerodd y ddinas yn gaeth, ac a laddodd y brenin, ac felly gwnaeth cymmeryd Babilon roddi ter- fyniad i ymerodraeth Babilon yn ol proff- wydoliaethau y proífwydi Esay, Ieremi, a Daniel. Yna wedi Iladd brenin Babilon, dy- wed yr ysgrythyr i Darius y Mediaid gym- ttieryd y frenhiniaeth, (Dan. 5. 31. a 7.1. a 8.1,) ac wrtb y Darius yma y dealür Cyax- ares, ewythr Cyrus, yr hwn oedd y pryd hwn yn frenin y Meá\a\à,(Ancient Unitersal Hist. Vol. ii. p. 93. Hol. Ed.) Yn mhen dwy flynedd wedi hyn bu farw Cyaxares brenin Media, a Cambyses brenin Persia, pryd y daeth Cyrus i'r orsedd yn frenin y Mediaid a'r Persiaid, yr hyn a fwynhaodd efe am saith o flynyddoedd, ac ar y flwyddyn gyntaf o'r saith y daeth y 70 o gaethiwed Israel i ben, pan gyhoeddodd Cyrus y rhyddâd gogoneddus i blant Israel fyned i'w gwlad eu hun o'u caethiwed. Y mae yn ddiammheuol fod Daniel y proffwyd yn ofí'eryn i gael hyn oddiar law y brenin, ac y rrae yn debygol hefyd iddo, i'r dyben o Iwyddo yn ei ymgais, ddangos i'r brenin fel yr oedd Esay, proffwyd y Duw goruchaf, wedi proffwydo am dano 120 mlynedd cyn ei eni, fel un wedi ei appwyntio gan üduw i fod yn orchfygwr ac yn frenin ar genedl- oedd lawer, a gollwng ei bobl o'u caethiwed a pheri iddynt ailadeiladu y deml, ac ail- feddiannu ludea a Ierusalem. Esa. 44. 28. a 45. 1.—"Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Ierusa- lem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfeinir. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrtb Cyrus, yr hwn yr ymaflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: a mi a ddattodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o'i flaen ef, a'r pyrth ni cheuir." A gellir meddwl i brotfwydoliaeth o'r fath yma argraffu ar ei feddwl nes peri iddo gyhoeddi rhyddid i'r luddewon, fel y cawn ei eirian yn 1 Esdras2.1—7. "Yn y fiwyddyngyntaf o deyrnasiad Cyrus brenin y Persiaid, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau leremi, yr Arglwydd a annogodd ysbryd Cyrus brenin y Persiaid, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyruas, a hyny mewn ysgrifen,gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin y Persiaid; Arglwydd Israel, sef, yr Ar- glwydd goruchaf a'ra gwnaeth i yn frenin ar yr holl fyd, ac a orchymynodd i mi