Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 203.] HYDREF, 1838. [Cyf. XVII. CARIAD CRIST AT FYD COLLEDIG, HEWN PREGETH AR II COR. V. 14, 15. GAN D. PRICE, PENYBONTFAWR, Yr hon a bregethwyd yn Nghyfarfod Llanfyllin, Meheíìn '20. 1838. " Canys y mac cariad Crist yn cin cymhell ni, gan farnu o honom hyn ; os bu un farw dros hawb, yna meirio ocdd pawb: Ac efe a fu furw dros bawb, fc.l na byddai Vr rhai l>yw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn afufarw drostynt, ac a gyfodwyd." 1 MAE cysylltiad rhwng y testyn a'r itdiiodau blaenorol iddo. Yn yr adnodau cysylltiadol y mae yr Apostol, drostoei hun a'i frodyr yn y weinidogaeth, yn sylwi ar bwysigrwydd eu swydd, adn. 11.—eu gon- estrwydd yn nghyfiawniad eu swydd, adn. 11.—y rheswm paham yr oedd yn son am hyn, adn. 12.—yn nghyda sylwi ar farn gyfeiliornus llawer mewn perthynas i'w swydd a'u hymddygiad, adn. 13. Yr oedd Hawer yn barnu am danynt eu bod wedi tlyrysu yn eu synwyrau wrth eu gweled yn dilyn Cristionogaeth trwy y fath ddyoddef- iadau a gwaradwydd, ac mai anmhwyllo yr oeddynt wrth ddangos yfath sêl ac ymdrech dros beth mor wael yn ol eu barn hwy; lle y gellir sylwi, Fod egwyddorion crefydd gymmaint uwchlaw rheswm ag y meddylia rhai eu bod yn ddireswm. Ond y mae yr Apostol, gyda meddwl tawel a chydwybod ddirwystr, yn sicrhau mai gogoniant Duw a llesdynion oedd ganddynt mewn golwg yn eu holl lafur; ac yn dwyn rhesymau y testyn i mewn fel digonolamddiffyniaddros eu sêl a'u hymdrech,—"Canys y mae cariad Crist yn ein cymhel! ni," b. y. yr ydym werìi ein nerthol gynhyrfû a'n cryf dueddu gan gariad Crist i wneuthur cyflawn g-yf- Iwyniad o honom ein hunain gyrffac eneid- iau i'w wasanaeth. Gwneyd a allom i ddwyn y byd i adnabyddiaeth o hono, ac i gydnabod eu rhwymedigaeth iddo. Y mae geiriau y testyn yn cynnwys y sylwadau canlynol: I. Sofyllfa druenus y byd,—" IMeirw oedd pawb." Y mae y darluniad hwn yn cyn- nwys, yn 37 1. Dyfnder trueni eu sefyllfa, "Meirw oedd pawb." Nid oes uu darluniad mwy cynnwystawr a pnriodol nahwn o drueni y byd ; eto nid oes un g-ymhariaeth o fewn r dwyfol wirionedd wedi ei chamddeall, ei chamesbonio, a'i chamarfer, yn fwy na'r gymhariaeth hon. Cymharir ynaml gyflwr dyn wrth natur i farw yn y bcdd, mor farw o ran ei enaid ag oedd mab y wraig weddw o Nain, a Lazarus o Bethania, o ran eu cyrff, hcb fod gandrìo na gallu nac ewyllys i wneuthur dim ag y mae Duw yn ei ofyn iddo yn ei gyflwr presennol, mwy nag sydd gan y marw naturiol i gyfodi o'i fedd. Y mae yr athrawiaeth wrlhysgrythyrol hon wedi bod yn glustog esmwyth o dan bcnau miloedd mewn cyflwr drwg, a diau fod llawer yn y fflamau tragywyddol wedi cael eu dinystrioganddi, Y mae y Bibl yn dar- lunio dyn yu farw mewn dwy ystyriaeth, sef o ran tueddiadau ei enaid at ddaioni, ac hefyd fel troseddwr dan ddedryd collfarnol cyfraith y nef. Y mae yn farw o rau tuedd- iadau ei enaid at santeiddrwydd, marw mewn camwcdd a phechod; yn gûs ganddo Dduw; "y mae holl fwriad meddylfryd ei galon yn ddrygionus bob amser." Yn yr iin ystyr ag y mae y Cristion yn farw i'r byd, i bechod, ac i'r ddeddf, y mae yr an- nuwiol yn farw i bob daioui a sa»(eidd- rwydd Nid yw y marw hwn yn analluogi dyn i garu Duw, fel ag y mae marw natur- iol yn analluogi dyn i gerdded a gweithio, onidè ni byddai dyn i'w feio am eiymddyg- iad drwg, a byddai Duw yn anghyfiawa wrth ofyn iddo yr hyn nad oes ganddo gy- mwysder fcl creadur i'w gyflawni. Ond