Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 198.] MAI, 1838. [Cyf. XVII. HANES BYWYD A MARWOLAETH MR. DAVIES, PROSPECT PLACE, LLUNDAIN. Y MAE gofid yn cael ei anghofio wedi ^eni dyn i'r byd, ac y mae blinder yn cael ei achlysuro yn gyffredin i ryw rai pan y byddo dyn yn niyned o'r byd. Llawer yw y teimladau a dystiolaethant yn gyson â íjair y gwirionedd, fod dyn wedi ei eni i flinder fel yr eheda y wreichionen i fyny. Gwelir yn feunyddiol fod dyn i dderbyn blinder oddiwrth ei gydgreadur, yn gystal a rhoddi blinder iddo, abod y byd hwn yn gymmysgfa o deimladau yn ol yr amgylch- iadau y byddo dyuion yn cael eu gosod ynddynt, a phob teimlad drwy y greadig- aeth resymol yn deimlad o boen neu o hyfrydwch. Gellirdosbarthu holl ymerodr- aeth fawr teimlad i ofid a llawenydd. Pan yr edrychom ar laweroedd yn treulio eu hoes fer ac ansicr, gellir penderfynu yn ddiymwad fod y byd yn waeth oblegyd eu dyfodiad iddo. Pe chwiliem hen wreiddyn cyntaf prif beehodau y byd, gwelid eu bod wedi cael eu geni yn meddwl rhyw un dyn. Hefyd prif gyfeiliornau y gwahanol oesau, y rhai ydynt fel afonydd gwenwynllyd yn dystrywio eu miloedd, a darddasant allan o fyuwesau llygredig rhyw bersouau neill- duol. Gwelir fod oes ar ol oes wedi dwyn rhyw ddynion, y rhai sydd wedi gwaetbygu egwyddorion eu hynafíaid er diwygio a pherffeithio peiriannau dystryw, fel y mae doethineb llawer oes erbyn hyn o blaid yr hyn sydd ddrwg yn ei duedd andwyol i gysuron Cymdeithas, a dychrynllyd ei gan- lyniadau mewn byd a ddaw. Gellir dweyd yn angladdau miloedd fod y byd yn waeth o'u dyfodiad iddo. Y mae genedigaetb ereill i'r byd, a'r dull y treuliasant eu hoes ynddo, wedi bod er 49 daioni a dyrchafiad iddo. Crybwyllwn am y patriarchiaid a'r proffwydi, Crist a'r apos- tolion y merthyron a'r diwygwyr, a Iluoedd gyda hwynt, y rhai a osodir ger ein bron gyda manylwch gan ysgrifeuwyrysbrydol. edig a chyffredin, er annogaeth ini ddilyn eu llwybrau fel y derbyniom ddiwedd eu hymarweddiad; ac am y rbai y gellir í dweyd, fod eu hoes mewn blodau pan y : mae eu cyrff mewn Iludw, hanesion eu byw- | ydau fel lampau yn dal goleu, pan y maent i hwy eu hunain yn gorwedd yn y tywyllwch a chysgodangeu. Llawer, os nid pob un, o'r cymdeithasau dyngarawl sydd yn awr yn gweithredu yn effeithiol er gyru trueni perthynoli gyrffac eneidiau allan o'r byd, a gawsant en de- chreuad yn meddwl rhyw fodau haelfryd- awl. Gellir coffâu y Bibl Gymdeithas, y GymdeithasGenhadawl, yr Ysgol Sabbothol, ac ugeiniau heblaw y rhai hyn, a ddechreu. asant yn wanaidd, a dyfasant yn fawr, ac y mae y lluuwyr o honynt, yn nghyda'a pleidwyr, lawer o honynt wedihuno gyda'u tadau, a'r byd wedi derbyn bendith fawr trwyeu dyfodiadiddo. Coffheir am bob peth da yn mywydau dynion gyda gorfol- edd a chysur, ac nid oes ond yr hyn sydi dda yn werth son am dano. Bwriedir y llinellau canlynol fel drych o fywyd a mar> wolaeth un a fu yn aelod a diacon yn yr Eglwys Gynnullcidfaol yn nghapel Guild- ford Street, am agos i bum mlynedd ar hugain. Ganwyd Mr. Davies yn y Gellifach, yn mhlwyf Llanddewi, Ceredigion. Yr oedd ei dad yn yr amser hwn yn aelod hardd, ac yn arferol o addoli Duw gyda'i deulu, yn