Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 182.] IONAWR, 1837. [Cyf. XVI. BYWGRAFFIAD SERYETUS, TRA yroedd y Chwil-lys, a llysoedd ereill yn rhüo, dan ladd luddewon ahereticiaid yn yrYspaen, ymddangosodd ynoyn y flwydd- yn 1530, ddyn ieuanc oddeutu ugain oed, a elwid Michacl Servedc, (ond yn fwyaf cyífredin Servetus) o Tadel yn Navarre. Yr oedd yn ddyn o ddysg a naturiaetb cryf, yn hynod o ran ei hyfdra yn ymofyn am y gwirionedd; ac mor agored a'r dydd i ddywedyd ei feddwl; heb ystyried nad oedd ganddo gymmaint o hawl i chwilio i mewn î athrawiaethau ag ereill. Ymddydd- anodd yn rhydd ar y pwnc a elwir yn lled gyffredin, y Drîndod, àg(Ecolampadius, Bu- cer. a Chapito. Ysgrifenodd ei feddyliau, y fhai ni allasai gael eu hargraffu nes dyfod i Hagenay, yn Alsace. Daeth un llyfr allan yn y flwyddyn 1531, a'r llall 1532, ill dau yn ceisio gwrthbrofi y meddyliau cyffredin am y Drindod. Dywedir ei fod wedi ysgrif- enu yn ostyngedig; ac y mae ei wrthwyn- ebwyr yn gorfod cyfaddef fod gydag ef bob ymddangosiad o dduwioldeb, a chymhwys- iadadhefydi fod ynuno'rdiwygwyr mwyaf yn yr oes. Yr oedd yn astudio o'i febyd, ac yngyfar- wydd yn yLIadin,Groég, a Hebraeg, er yn foreu. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf pan nad oedd ond deunaw oed. Efe a gynhyrfodd yr holl wlad yn ei erbyn, am fod y fath lanc yn aramau athsawiaeth a gredai pawb. Di- fenwyd ef â phob math o eiriau haerllug; ac yn y dymhestl hon cfe a adawodd yr Almaen, ac a ddaeth i Paris, lle yr astud- iodd physygwriaeth a chyfrifyddiaeth. Efe a gafodd ei dderbyn yn feistr yn y cel- fyddydau, ac yn feddyg physygwriaeth. Yma daeth yn adnabyddus â Chalfin, yrhwn oedd y pryd hwn yn Paris. Mynegodd ei farn iddo, ac a wrthwynebodd rai o'i fedd- yliau crefyddol. Argraffodd lawer o Iyfrau ar ol hyn. O gyich tair blyuedd ar ddeg y bu fyw, fel meddyg yn Vienne. Oddiyno deuaiynaml i Lyons, lle ygwnaethargraff- iad o'r Bibl yn unplyg, gyda sylwadau. Meddyliodd Calfin eu bod yn anweddaidd, ac yn annuwiol, ond llawer ereill a'u parch- ent. Yr oedd Servetus wedi darllen holl waith Calfin yn fanol, ac ysgrifenu yn gar- edig ato pa le yr oedd yn tybied ei fod yn feius. Ond ni foddiodd hyny Calfin, cyfrif- odd Servetus yn wr balch ffrostgar. Beth bynag, cynhyrfodd sylwadau Servetus ysbryd Calfin gymmaint, fel y tystiolaethodd wedieu darllen, "Os byth y cai afael yu yr heretic, y costiai iddo ei fywyd." (Y mae Mr. D. Artigny yn gofeod hyn allan o bob dadl.) / Bu gystal a'i air; canys o hyny allan y ceisiodd ef i'w garcharu. Yn y flwyddyn 1553 y cyhoeddodd Servetus ei waith penaf, Christianismi Restitutio, yn 734 o dudalenau wythplyg* Y mae y gwaith cywrain bwn wedi ei ddosbarthu yn Chwech Rhan, ac yn gosod allan yr hyn oedd Servetus yn ei feddwl fod dyscyblaeth y Testament Newydd, ar gyferdyscyblaeth Eglwys Rhufain, a dyscyblaeth yr Eglwys ddiwygiedig gan Luther a Chalfin. Mor selog y bu Calfin yn erbyn Servetus fel y cafodd ei garcharu o'r diwedd trwy rai • It is m the fifth Book of the first part of this ■wotIì, tìie famous passage coueerning the Circulation of Blootl is found. Sèrvetus was the first physician that fuund it out. Burc. No. 756. Ille Sj)iritus a sinistro cordis yentriculo artcrias totius corporis deinde transfunditur, &c See in Bayle thè Livesof Dr. Juhn Banviek, AndreasCcslesünus, Dr.Harver, Father Paul.