Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 165.] AWST 1835. [Cyf. XIV. COFTANT MRS. JONES, LLWYNCWRT. GANED testyn y cofiant presennol yn mîs Mai 1811, mewn amaethdŷ o'r enw Erw- wen, yn mhlwyf Llanycrwys, ac yn un o'r parthau hyny yn swydd Gaerfyrddin ag a ymylant af Geredigion. Ni nodwéddwyd dyddiau ei phlentyurwydd ag un neillduol- fwydd, ond treuliwydhwynt yn null arferol plantos y dywysogaeth. Y cof cyntafsydd genyf am dani yw, ei bod yn boreuol a hwyrol gyd-deithio â mi i ysgol a gedwid mewn treflan gymmydogaethol. Ÿr oedd y pryd hwn yn agos i unarddeg oed, ac yn tynu mawrsylw ei chydysgolblant, oblegid ei glendid a'i chyflymdra yn dysgu. Y mae yn debyg ei bod yn ymwybodol o'i hardd- weh,oblegid talai fawrsylw i'w gwisgoedd, ar y rhai ni chanfyddid unamser nabrych- enyn na chrychni. Mor ddengar oedd ei dawn yn y tymmor hwn, ac mor llithrigaidd y darllenai ag yr adroddai y llithiau ap- pwyntiedig iddi gan ei meistr, fel nad oedd byth eisiau ei cheryddu; ac yr ydwyf yn dra sicr pe buasai ei hathraw yn amcanu y fath beth, y buasai y dyscyblion yn dra selog yn eu hymdrechion er ei ddwyn i'w iawn bwyll am gyffwrdd yn geryddol â pherson un ag yr oedd natur wedi bod mor haelionus iddi yn ei rhoddion. Treuliais amryw auafau yn yr un ysgol ac yn yrun dosparth â hi, ac nid hoffoedd genyf fi ac ereill gael ein gwasgaru yn nechreu yr haf. Pan ddeuai hafaidd ddyddiau Mai, rhai o'r bechgynos a ddanfonid i fugeilio praidd, brefiadau y rhai a gydgordient yn hyfryd â chornentydd y mynyddau; ereill i ofalu am y gwartheg ar aelydd y bryniau; a hwythau ymerched a elwid adref er cynnorthwyo eu mamau i gyflawni dyledswyddau tumewnol yr amaethdŷ. Yn y modd hwu, bugeilio a gweithio yr haf, a dysgu rhyw lyfrach y gauaf, y treulirboreuddydd y rhan fwyaf o blantos parthau mynyddig swydd Gaer- fyrddin. Mewn cylch mor fychan a'r hwn y troant ynddo, ac heb gymdeithion mwy deallus a gwybodus ua phreswylwyr rlian- 29 diroedd hanner bugeiliol a hanuer amaeth- yddol, nid rhyfedd ydyw fod cyn lleied o nodweddiadau neillduol yn gwneuthur eu hymddangosiad yn eu plith. A chyda golwg ar Mrs. Jones, nid oesdim fawf i'w ddywedyd yn ei chylch o'r amser y gadawodd yr ysgol hyd yr araser y priod- ódd, ond yn unig i'w harddwch a'i raedrus- rwydd dynu mawr syrw; ac nid rhyfedd oedd hyn, oblegid tég a hawddgar oedd hi. Llydan a theg fel alabaster oedd ei thalcen a'i odre a addurnid ag aeliau o'r ffurf ber- ffeithiaf. Tebyg i'r lili wedi ei gymmysgu â'r rhosyu oedd IIiw ei gruddiau, canys gwyn a gwridog oeddynt. Goleu-las oedd ei llygaid, ac yn ei hedrychiad taer—*-ond tyner—yr oedd rhywbeth ag a gyrhaeddai y galon mewn mynyd; ac o gylch ei lliwus wefusau fe chwareuai gwên ag oedd yu berffaith swyngar. Ac yn mysg y niferi a sugn-dynid gan ei thegwch yr oedd Mr. John Jones, Llwyncwrt, â'r hwn yr ymunodd mewn priodas yn y flwyddyn 1830. Hyd yn hyn yr ydwyf wedi dilyn fy nghyfeilles heb lefaru gair yn nghylch ei chrefydd, a hyny o herwydd rheswm esgus- odol iawn, nad oedd a wnelai â chrefydd, o rau ei phroffesu, hyd nes priododd. Nid ydym yn gwybod yn iawn pa bryd y gwuaed argraffìadau crefyddol ar ei meddwl; tebyg- ol yw iddi deimlo taeddiad at grefydd yn y flwyddyn 1828, pan fu adfywiad mawr ar grefydd yn gyffredinol trwy yr ardaloedd amgylchol. Ond er nad ymunodd â neb crefyddwyr y pryd hwnw, etto yr oedd ganddibarch mawr i grefydd, a'r amgylchiad canlynol a'i prawf:—Yn amser y diwygiad y crybwyllwyd am dano, fe dueddwyd un o weisiou ei thad i broffesu crefydd, ond gan nad allai ddarllen y Gyfrol Santaidd yn rhwydd, petrusai yn fawr pa un a wnai gyfodi gwasanaeth teuluaidd ai peidio. Pan yn ypetrusder hwu dywedodd hithau wrtho am beidio â digaloni, y gwnai hi ddarlleu.