Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 163.] MEHEFIN 1835. [Cyf. XIV. BYWGRAFFIAD MANASSEH, BRENIN IUDA. Os darllenwn, a sylwi yn fanylaidd ac ystyriol ar hanes bywyd y brenin hwn, canfyddwn ei fod yn un o'r hanesion mwyaf rhyfeddol a synadwy yn holl Lyfr Duw. Y mae yn hanes Manasseh ddau beth i'w can- fod yn y modd amlyeaf; yu 1. Mawredd trueni dyn yn ei wrthgiliad oddiwrth yr Arglwydd, ffynnon pobdaioni. 2. Gwelwn yma ddaioni, trugaredd, a gras annherfynol Duw yn ymddyscleirio yn eglur iawn yn achubiaeth un o'r pechaduriaid mwyaf a ffieiddiaf. Sylwn yn I. Ar eifywyd cyn ei ddychweliad, hyny yw, ei nodweddiad fel pechadur neu dros- eddwr o ddeddf santaidd ei Greawdydd. Y mae yn wirionedd sicr fod pawb yn wreidd- iawl lygredig, achwedi ymddyeithrio oddi- wrth Dduw o'r groth; achefyd nid yn unig y mae pawb yn wreiddiawl lygredig, ond y mae pawb yn droseddwyr ymarferawl.— Rhoddant brawf digonol o lygredigaeth eu nattir trwy eu hymddygiadau a'u gweith- redoedd croes i gyfraith Duw. Ond er fod pawb wrth naturiaeth yn blant digofaint,ac o ran eu cyflyrau yn euog yn ngwyneb deddfynef, etto dir yw fod rhai yn fwy pechaduriaid nag ereill. Profir y gwirion- edd hwn yn mhob gwlad, ac yn mhlith pob cenedl ar y ddaear. Gwelir rhài, er nad ydynt wedi ymostwng i gymmeryd iau Crist arnynt, ac er na ddeuant yn gynnorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn, erhyny bucheddant mor addas, fel y gellir dweyd fod eu hymddygiadau yn ddigon i beri i lawer o broffeswyr selog ostwng pen a chywilyddio. Canfyddwn ereill, euhyfryd- wch penaf yw cyflawni y pechodau echrys- lonaf a mwyaf ofnadwy; ac nid yn unig ymhyfrydant ynddynt, ond hefyd ymffrost- iant yn y cyflawniad o honynt. Nid yn unig y mae'r cyfìawn yn rhagori ar ei gym- mydog, ond hefyd y mae cymmydog annuwiol yn rhagori ar gymmydog arall mewn annuwioldeb. Geilw Paul ei hun "y penaf o bechaduriaid;" a sonia Soiomon am 21 rai yn " rhy annuwiol," sef yn nodedig o annuwiol. Ceir prawfiadau eglur o'r gwir- ionedd hwn yn mywyd Manasseh: yr oedd hwn yn un o'r pechaduriaid flieiddiaf ac atcasaí'o holl ddynolryW y cawn hanes am danynt. Mae y rhan gyntaf o deyrnasiad Manasseh yn cael ei hynodi â'r pechodau mwyaf arswydus. Cyflawnodd bechodau a flìeiddid gan baganiaid ! i'e, pechodau oedd- ynt yn ddychryn i ddynoliaethü Yn 1. Efea ymadawoddagachosDuw. Dyma un o'r camrau cyntaf a gerddodd yn flbrdd dinystr, sef gwrthgüiad. Cafodd ei freintio â thad duw iol, a'i ddwyn i fyny mewn teulu duwiol; a chau hyny gwelwn mai nid pagau nas gwyddai yn well ydoedd y Manasseh hwn. Cyflwynwyd ef i'r Arglwydd pau yn faban, a derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Dduw trwy gael ei enwaedu yn wyth niwr- nod oed; addysgwyd ef yn egwyddorion ac ordinhadau crefydd o'i icueuctid, adiau V\v dad duwiol Hezeciah ymdrechu i argraftu ystyriaethau o werthfawrawgrwydd crefydd ar ei feddyliau; ond er yr holl freintiau gwerthfawr a fwynhaodd, morfuan ag y bu farw ei dad, ac y dyrchafwyd yntau i'r orsedd, anghofiodd yr holl gynghorion a'r addysgiadau boreuol hyn, dangosodd nad oeddynt wedi cael effaith ddyladwy ar ei feddyliau; oblegid gadawodd eglwys, pobl a gwaith Duw: bwriodd ymaith bob rhith o ddaioni a moesoldeb, gan ymroi yn hollawl i gyflawni y pechodau gwaethaf, heb ystyr- ied dim o'r canlyniadau arswydus. Peth ofnadwy yw ymarfer â phechodau rhyfygus yn moreuddydd bywyd: y mae'r dynion hyny yn debyg iawn o wneuthur Ilawer dros ddiafol cyn diwedd eu gyrfa, os godd- efa amynedd Duw iddynt fyw i sathru ei orchymynion a'i ddeddfau santaidd. Gres- ynus iawn gweled neb plant yn ymroddi i fyw yn annnwiol; ond ow! peth arswydus yw gweled plantwedi eumagu mewn teulu- oedd duwiol yn ymroddi i ddilyn eu chwant- au pechadurus i wrthryfela yn erbyu Duw.