Skip to main content

Y DYSGEDYDD, Rhif. 162.] MAI 1835. [Cyf. XIV. COFIANT MARGAÍÍET SALISBURY O DREFFYNNON. JMaE yn deÜwng o sylw neillduol eglwys Crist yn Nhreffynnon, fod amrai o'r rhai mwyaf duwiol a defnyddiol a feddai wedi eu symud trwy angeu, oddiwrth èu gwaith at eu gwobr tragywyddol, yn ystod y deng tnlynedd diweddaf; acÿneü plith ein diw- eddar chwaer Mafgafet Salisbury, am yf hon y mae genym obaith eryf iddi huno yu yr leau y 30oFedi diweddaf,yu 61 mlwydd oed,—eladdwyd hi y 4 o Hydref. Ni chafodd gwrthddrych y cofìant hwn y fraint o wneud arddeliad cyhoeddus o Iesu Grist y rhan foreuol o'i hoes, yf hyn a fu yn ofid dwys iddi er yramser y rhoddodd ei hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ei ewyllys, hyd derfyn ei gyrfa yn y byd hwn. Cafodd ei derbyn yn aelod i'r eglWys yn Nhreffynnon gan y diweddar JBarch. D. Jones, Rhagfyr 6, Í829. Gadawodd Margaret Salisbury ar ei hoi ŵr a chwech o blant i alaru eu colled ddìr- fawr ar ol un ag oedd yn teimlo yn dduwiol ac yn gwir ofalu, am eubod oll yn gwybod am y pethau a berthynant i'w hiechydwr- iaeth. Hyderwn na bydd iddynt anghofio y dagrau a dywalltwyd, aV cynghorion ffyddlawu a roddwyd, a'r gwedd'iautaerion a offrymwyd ar eu rhan. Cafodd gwrthddrych yr hanes hwn yr hyfrydwch o weled dwy o'i merched yn ymuno â'r eglwys ychydig wythnosau cyn ei maiwolaeth. Mynyeh y dywedai, "Ni byddafddim yn hif, fy mhlant anwyl; yr wyf fi yn gwybod mai marwolaeth sydd o*m blaen." Wylai yn fyuych, gan ddywedyd fod arni hiraeth mawr am gael ymddangos yn nhŷ ei Duw unwaith gyda'i brodyr a'i ehwiorydd; "ond* meddai, "ni chafbyth tu yma i'r bedd." Mynych y teimlai yn ise! acyn alarus na buasai wedi trenlio ei hoes yn fwy ergogoniant i'w Phrynwrmawr, ac ar amseran byddai yn ammheuus iawn am wirionedd ei chrefydd. Pan mewn iechyd cyflawnai y cynghor hwnw o eiddo Paul i Tinotheus sef glynu wrth ddarllen. An- 17 fynyeh yf ymwelid â Margaret Salisbury na byddai yn chwilio yr ysgrythyrau. Gal- wai'r Bibl ei chyfaili goreu yn ybyd hwn. Wrth sylwi ar ei hawydd i ddarllen, dywed- odd cyfaillwrthi, "Niddylechchwi ddarilen cymmaint, o herwydd eich gweudid $" ateb- odd, "Pafodd y gallaf beidìo â darllen fy Mibl anwyl, oblegid y mae wedi iachâu fy meddwl, a chryf hau fy ysbryd yn ngwyneb gwendid filoedd o weithiau cyn yn aWr. A bydded hysbys i chwi, na feddaf fan i droi fy ngolwg yn ngwyneb trallod, adfyd, îe ac angeu, ond i Dduw; a diolch i Dduw, nid oes eisiau mo'i well; am yr hysbysir fi yn hwn am lawenyddyn ngwyneb tristwch cysufon yn ngwyneb trallod, cyfoeth yn ngwyneb tlodi, meddyginiaeth i'm clwyfau, a bywyd yn ngwyneb angeu. Oddeutu tair wythnos cyn ei marwolaeth ymunai ei chyfeillion yr Afglẃydd mewn gweddi ar ei rhan, pan y dymunasantar iddi gael ei gadael nes i'w hammheuOn gilio ymaith. Wedi iddynt ymadael y tfo hwnw dywedödd wrth ei merch hynaf, " Yr wyf fi yn gwybod y caf afos nes y daw yn ddydd af fy enaid." Ar rai amserau byddai yu draofnus; dywedodd fod Satan yn rhyfela yn fawr; parhaoddyn drist iawn hyd o fewn ychydig ddyddiau cyn ei hymadawiad, pan y llefodd allan fod y frwydr wediei hymladd, a Satan wedi colli'r dydd. Sylwodd ei merch aruî un diwrnod pan yn ei gwely, fod agwedd orfoleddus ar ei gwynebpryd, a'r dagrau yn treiglo dros ei gruddiau, gofyn- odd iddi, " Beth yw yr achos, fy mam anwyl, eich bod yn wyloî" Atebodd, "Gweled fy lesu anwyl yn gwaedu, ac yn marw, i mi gael byw. O! gariad mawr. O! gariad rhad. O! gariad heb ei fath. Y mae'r iach- awdwriaeth a gawd trwy angeu'r groes jrn cynnwys môr o haeddiant nas geilir ei blymio. Gobeithia, fy merch, yn yr iach- awdwriaeth hon, a'th enaid ni siomir." Ac wedi dywedyd y geiriau hyn, adroddodd y pennill canlynol:—«