Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 161] EBRILL 1835. [Cyf. XIV. NATUR EGLWYS EFENGYLAIDD. Sylwedd vr hyn a ganlvn a draddodwyd yn Urddiad y PaTchedip: Lewis Everett, yn Llangwyfan, Swydd üdinbyclì, gan O. Owens, Rhesycâe. * (Owel hanes urddiad Mr. Everett yn ein Rnilyn diweddaf.) Heb. 8. 5. " Canys, Owel (medd efe) ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd." CYFEIRIA y geiriau at Exod. 25.40. Ile y crybwyllir am y portreiad a gafodd Moses o'r tabernacl, a'r gorchyroyn a gafodd i'w ddilyn yn mhob peth, heb roddi lle i'w ddychymmyg ei hun, na dychymmygion neb ereill niewn un dim. Nis gwyddom ac ni pherthyn i ni wybod pa född y cafodd Moses y portreiad hwn; pa un ai argraffiad arei feddwl, ai peri i ddarlnn ymddangos o'i flaen, ai ynte rhoddi y darlun iddo a wnaeth Duw fel y rhoddodd lechau y gyf- raith; pa fodd bynag gwnaethpwyd ef yn bcrffaith hysbys o hono, fel nad oadd un perygl iddo gyfeiliorni o herwydd diffyg ynddo, nac anwybodaeth o hono. SeremonYau yr oruchwyliaeth Iuddewig ydynt wedi eu cyflaWnl yn Nghrist a'r Efeng- yl fel nad oes angen afnom ni eu dilyn, 'íe, byddai hyny yn bechod affolineb mawr, fel pe ceisiai dynion ddefnyddio llewyrch Iloer a sêr tra byddaigoleuni dysclair a thanbaid yr haul yn llewyrchu o'u hamgylch. Etto gan fod y rhai hyn yn gwasanaethu i fod yn sianipl a chysgod pethau nefol, sef y pethau am Grist a'r Eglwys, diau y gallwn yn gyf- reithlawn eu defnyddio atyrachospresenn- ol. Pan y byddo un yn cael ei ordeinio neu ei neillduo yn gyflawn i waith y weinidög- aeth yn mhlith yr Annibynwyr, y mae yn arferol bod rhyw weinidog yn gosod allan Natur Eglwys Efengylaidd yn ol portreiad y Gairdwyfol o ran ei chyfansoddiad, llyw- odraeth, gweinidogaeth,acordinhadau. Gan hyny ni a sylwn ar I. Natur neu Gyfansoddiad Eglwys. 1. Y mae'r gair yn y Groeg ('ExxX>iẃía) yn arwyddo cyntiuileidfa yn dyfod yn nghylch rhyw orchwyl, pa unbynagai cyfreithlawn ai anghyfreithlawn a fyddo, Act. 19. 32, 39. 13 2. Arwydda hefyd yr holl gorff o Grist- ionogiou trwy yr holl fyd, pa rai sydd yn proffesu eu bod yn credu yn Nghrist, ac hefyd yn ei gydnaboid fel Iachawdwr dynol- ryw. Hon a elwir yr eglwys weledig, Eph. 3. 21. a 4. 11, 12. 1 Tim. 3.15. 3. Holl gorff y gwir dduwiolion trwy wahanol oesau y byd. Hon yw yr eglwps anwelcdig. Y rhan sydd ar y ddaear o hotiynt a elwir yn EglWysFilwriaethus,a'r rhan sydd yn y nef yr EglwysOrfoleddus, Heb. 12. 23. Act. 20. 28. Eph. 1. 22. Mat. 16.28. 4. CyunulleidfaoGristionogion yn ymuao â'u gilydd ac yn cyfarfod yn yr un He i addoli Duw. A'r darluniad hwn y perffaith gyduna cyfansoddwyr Erthyclau yr Eglwys Wladol, pan yndywedyd, "Eglwysweledig Crist yw cynnulleidfa y ffyddloniaid, yn yr hon y pregethirpur Air Duw, acy ministrir (h. y. gweinyddir) y sacramentau yn ddy- ladwy, yn ol ordinhad Crist, yn mhob peth ag sydd yn angenrheidîol i fod yn yr un- rhyw." Erthygll9. Act. 9. 31. Gal. 1. 2, 22. 1 Cor. 14. 34. Act. 20. 27. Col. 4. 5. Yn yr ystyr olaf yn unig y mae a Wnelom â'r gair Eglwys yn bresennol, a diau fod yr ystyr yn ysgrythyrol a chywir. Ond dylid cofio maigormod gwaith yw i'r mwyaf eu doniau a gwresocaf eu sêl yn yr Eglwys Wladol i brofi fod eu harferion yn gyson â'u herthyglau eu hunain, mwy nag y gallant brofi eu bod yn gyson â Gair Duw. Dichon y buasai y gair Cynnulleidfa yn fwydealladwy na'rgair Eglwys, a'r achos paham na chafodd ei gyfieithu felly oedd fel y canlyn:^-Y Brenin anwadal Iago I. pan yn cael ei ddwyn i fyny yn Ysgotland a broffesai ei fod yn gorhoflS Presbyteriaeth,