Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 158.] IONAWR 1835. [Cyf. XIV. COFTANT Y DIWEDDAR BARCHEDIG WILLIAM HUGHES O DDINAS-MOWDDWY, SWYDD FEIRION. '• Meddyliwch am eieh blaenoriaid, y rhai a dracthasant i chwi air Duw: ffydd ỳ rhai dilynwch, gan ystyrieu diwedd eu hymarweddiad hwynt." GaNWYDMp. William Hughes* yn Rhos- cillbach, yn mhlwyf Llanystumdwy, swydd Gaernarfon, yn mis Mai 1761. Enwau ei rieni oeddynt Hugh a Mary Rowlands. Bu iddynt ddeuddeg o blant; chwech o feibion, a chwech o ferched. Bu feirw dau oV plant yn eu mahandod; ond y degereill a gyr- haeddasant oedran pwyll, a daethant bron i gyd i fod yn broffeswyr crefydd gyda rhyw enwad o Gristionogion. Er nad oedd Hugh a Mary Rowlands yn aelodau o unrhyw eglwys neillduol, nid oeddynt yn rhoddi un attalfa i'w plantifyned i wrandoyrefengyl, neu i arddel crefydd, yn y fan a fynent. Yr oedd Mr. Hughes yn gloff o groth ei fam: ac yn fuan ar ol ei enedigaeth, aethei rieni ag ef aty Parch. Mr.Thomas, (ygwein- idog ag oedd y prydhwnw yn Mhwllheli,) i ofyu ei gynghor, pa un a allai meddygon wnenthur dim tuag at unioni ei droed. At- ebiad Mr. Thomas oedd—a diau ei fod yn addas iawn—mai gwaith yr Arglwydd yd- oedd, mai gwell oedd ei adael fel yr oedd, ac y gallai ef lwyddo yu y byd yn gystal a neb o'u plant. Nid/ ydys yn gwybod yn bresenol trwy ba foddion y dygwyd ei feddyliau dan argraffiadau crefyddol: ond y mae yn sicr iddo gael ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Mhwllheli, gan y Parch. Rees Harries, pac, meddyliwn, o gylch ugain oed. Clywais i ddyn ieuancarall, o ymddangosiad gobeith- iol iawn, gael ei dderbyn gydag ef; a bod Mr. Harries a'r eglwys yn dra chysuras * Ar ddymuniad amryw o'n darllenyddion cy- hoeddasom Gofiant ein hen frawd anwyl a ffyddlon hwn, wedi ei gyfansoddi gan ein gwiwgofus oheb- ydd y diweddar Barch. Mr. Iioberts o Lanbrynmair. Argraffwyd hwn o'r blaen yn llyfr ar êi ben ei hun, oud nid yw yn meddiant ond ychydig. wrth dderbyn hwnw, ond eu bod braidd yn ammheuus pa un a fyddai Mr. Hughes yn addurn i'w broffes grefyddol ai peidio. Ond cawsant siomedigaeth yn y ddau. Trodd y naill allan yn wacth na'u dysgwyliad, a'r llail lawer yn well. Wrth sylwi ar ymddygiad doeth a duwio! Mr. Hughes, ei ddawn neillduol mewn gweddi, a'i gynnydd mewn gwybodaeth ysgrythyrol, barnodd yr eglwys fod Duw wedi ei fwriadu i'w wasanaethu yn efengyl ei Fab ef. Annogwyd ef i arfer ei ddoniau mewn modd mwy cyhoeddus. Ufuddhaodd yutau i'w gyfeillion, ac yn neillduol i'w hybarch weinidog, y Parch. Rees Harries, yr hwn, yn yr amgylchiad yma, a ymddyg- odd ato yn dirion iawn. Ymroddodd i'r gwaith yn mhen oddeutu blwyddyn ar ol ei dderbyniad ynaelod eglwysig; a thraddod- odd ei bregeth gyntaf yn y Capelnewydd, Lleyn, oddiwrth Act. 3.19. " Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau:1' agellir dywedydmai edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Har- glwydd Iesu Grist, oedd sylwedd ei wein- idogaeth drwy ei oes. Yn fuan ar ol dechreu pregethu, treuliodd ychydig amser yn yr ysgol, dan ofal y diweddar Barchedig A. Tibbott o Lanuwchllyn, Ile y cyrhaedd- odd fesur o adnabyddiaeth o'r iaith Seisnig, a changhenau ereill o wybodaetb, i fod yn wasanaethgar iddo yn y cyflawniad o'i swydd oruchel. O gylch y flwyddyn 1788 symudodd i Fangor, ilafurioyn fwy sefydlog yn ngwaith ei Arglwydd. Trwyymdrech, nidychydig, y pregethodd efe efengyl Iesu yn y ddinas hòno a'i chymmydogaethau. Cyfarfu yno â llawer o rwystrau. Pan y gyrwyd ef a'i ychydig ddyscyblion allan o un ystafell,