Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 157] RHAGFYR 1834. [Cyf. XIII. COFIANT MRS. SARAH SIMON O LANGOLLEN. MRS. Sarah Simon ydoedd ail ferch !Mr. Evan Jones a Jane ei wraig, gynt o Lan- uwchllyn, y rhai afuont yn aelodau oEglwys yr Annibynwyr yn y lleuchodamfiynyddau lawer, dan ofal y Parch. Benjamin Erans. Ganwyd Mrs. Sarah Simon ynLlanuwch- llyn, yn y flwyddyn 1779, a phan oedd yn flwydd oed symudodd ei rhieni o Lanuwch- llyn i Langollen, sef yn y flwyddyn 1780; a chan nad oedd achos gan yr Annibynwyr yn Llangollen y pryd hwnw, uac aiu flyn- yddau gwedi hyny, rhoddasant euhunain fel aelodau achlysurol i fwynhau breiutiau ac ymgeledd yr efengyì gyda'r brodyr y Trefnyddion Calfinaidd, ond ni thorasant eu himdeb gyda'r Annibynwyr. Buont yn Llangolleu am oddeutu 30 o flynyddoedd cyn i'r Annibynwyr ddechreu yno, ac am lawer o flynyddoedd yn myned yn fisol i Lanuwchllyn i gymundeb; acwedi hyny, fel yr oeddynt yn heneiddio, yn chwarterol. Oddeutu y flwyddyn 1809 daeth y Parch. W. Williams o'r Wern i bregethu i Langoll- eu, a'r lle cyntaf y bu yn pregethu yno oedd ystafell yn nhŷ Mr. J. Hughes, Roijal Oak. Cafodd Evan Jones a'i wraig y fraint o weled graddau helaeth o Iwyddiant ar yr achos cyn eu marw, a gorphen eu dyddiau gyda'r gwaith da. Nid oes achos dweyd wrth neb o'r rhai a adwaenent Mr. Evan Jones, fod ei ferch Sarah yn ei hieuenctid wedicael llawer o addysgiadau achynghor- ion, ac esamplau da, er nad oedd llawer o arwyddion ei bod yn gwneud y defuydd goreu o honynt tra bu yn ieuanc. Yn mis Rhagfyr 1799 priodwyd hi â Mr. Thomas Simon o Langollen. Ganwyd iddi bedwaro blant, tri o'r rhai sydd yn fyw hyd heddyw, yn cydwylo gyda'r tad ar ei hol. Y Sabboth cyntaf y daeth Mr. Williams o'rWcrn i bregethu i Langollen,mawr oedd y swn fod crefydd Evan Jones yn dyfod yno. Parodd hyny i Mrs. S. Simon wyleidd- io cymmaint fel na ddaeth i'w wrando. Ond yr ail dro y daeth efe yno, penderfynodd y 45 mynai gael clywed pregethwr ei thad. TestynMr. Williams y tro hwnw oedd Salm 119. 113. "Meddyliau ofer a gasêais," &e. Cafodd y bregeth gymmaint o efiaith ar ei meddwl fel na allodd mwy beidio â myned i wrando, napheidio arddel crefydd ei thad. Yroeddyn meddwl mai iddi hi yr oedd y bregeth i gyd, a chafodd olwg newydd ar ei chyflwr yn ngwyneb manylrwydd cyf- raith Duw. Yn mhen ychydig o wythnosau cawsant le mwy cyfleus i bregethu, mewn tŷ a elwir Penybont. Buont yno am oddeutu chwe mis, pan gymmerwyd y tŷ hwnw gan ereill i fyw ynddo, ac nis gallent ei gael yn hwy. Yna agorodd Mr. Thomas Simon ei dỳ, a buont yn ef gadw yn agored oddeutu saith mlynedd, nes y cafwyd y capel Ile y mae'r Annibynwyr yn cyfarfod ynawryn Llangollen. Yn fuan wedi dechreu pregethu yn nhŷ Mr. Simon dechreuasaut gadw cyfeillach neillduol, ac yr oedd gwrthddrych y cofiant hwn yn y gyfeillach grefyddol gyntaf a gynualiwyd gan yr Annibynwyr yno, ac yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd fel aelod. Cyfranogodd o'r swpper sautaidd y tro cyntaf y gweinyddwyd ef yn Llan- golleu, a chafodd y fraint o ddal ei ftbrdd yn ddigwymp hyd y diwedd. Diau y gellir dweydam dani, nabu na segur na diffrwyth trwy ei gyrfa grefyddol; a hir y teimlir y golled ar ei hol, nid yn unig gan ei theulu, ond gan yr eglwys, a chan lawer o weini- dogion a phregethwyr, y rhai a fuont yn mwynhau o'î siriol gyfeillacha'i hymgeledd fel mam yn Israel. Ei phrif hyfrydwch oedd llwyddiant Sîon. Ei phleser oedd lloni a chysuro ac ymgeleddu y ffbrddolion, a'i gofal dros amgylchiadau crefydd yn ei hardal oedd fel mam diriou agofalus dros ei theulu. Y chweched o Awst diweddaf aeth i edrych am ei mab, Thomas Simon, yr hwn Bydd yn byw yn swydd Gaer, am yr afou a Llynlleifiad. Nid oedd yn teimlo ei