Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 155] TACHWEDD 1834. [Cyf. XIII. CÖFIANT JANNET MORRIS O FANGOR. MAE rhyw symudiadau o eiddo rhaglun- iaeth ein Duw yn dywedyd, nid yn unig wrth deulu, eglwys, a chymmydogaetb, ond hefyd wrth holl luaws teulu S'íon; yn mysg y dygwyddiadau hyny y mae marwolaeth y pererinion. Ös yw gẃroì orchestion rhyfel- wyr, clodfawr ddyfeisiau gwladweinydd- ẃyr, gydachanmoliaeth tir a môr deithwyr, yn teilyngü eu hysgrifenu a'u hargrafFu, llawer iawn mwy felly y teilynga énwau rhyfelwyr y groes, amcanion gweinyddwyr y saint, a theithwyr tir Immanuel. Jannet Morris oedd wraig Robert Morris, gwr cyfiawn yn mhob ystyr, adnabyddus iawn yn siroedd y Gogledd, ac i'r gwéin- idogion o eglwysi y Deheudir hefyd: ei wraig oedd o'r un egwyddorion ag yntau, ac yn gymhorth iddo i ddilyn daioni lawer; buont fyw yn nghyd am 41 o flynyddoedd ; ganed iddynt 5 o blaut, mae tri yn awr yn fyw, gwedi cael dygiad da i fyny; mae eu mab Mr. W. M. Roberts, yn cario yn mlaen farsiandì'aeth yn Lîverpool; eu merch Mrs. Watkins, yn dysgu plant yn llwyddiannus yn Hólyhead; eu mab arall Mr. Ebenezer Morris, yn gwasanaethu y brenin, tu hwnt i'r môr yn mhell yn aẃr, heb wybod hyd yma fod ei fam wedi ei symud o'r byd lle y gweddiodd laẅer canwaith ar ei ran, am yr hyn hefyd yf oedd ganddo yntau gryn gyfrif. Sabboth cymundeb y saint gyda ni, oedd ỳ Sabboth diweddaf a gafodd hi yma yn yr eglwys-, cyn yr ail Sabboth yr oedd hi wedi clafychú, a chwedi myned i orwedd ar y gwely yn yr hwn yr ymadawodd ei henaid o'r corff! Dywedodd wrth ei gwr amryw ddyddiau cyn clafychu, ei bod yn meddwl fod ei hamser i ymadael â'r fuchedd hon gerllaw, ac yr oédd arwyddion ei bod yn credu hyny, trwy ei gwaith yn trefhù ei thý, a'r mân bethau o'i hamgylch. Un ydoedd hi o dymher ddystaw yn gy- ífredin, oddieithr lawlaw o'r neilldu, yna hi a helaethai ar achos crefydd yn ddwys a 41 difrifol iawn. Rhwydd ac aml oedd yn ei chyfrauiadau, os deailai fod yr achos yn deilwng. Mi a wn iddi roddi at lawer achos heb gymhelliad, ond trwy glywed cyhoeddi y gwrthddrych; ac am bob achos y cymhellais hi i'w ystyried a rhoddi ato, nid wyf yn cofio iddi nacàu erioed; ac ofni yr ydwyf y sych rhai aberau rhedegog o achossymud o'n cynnulleidfa aml ftýnnon fuddfawr.- colled i ni isod, ond ennill iddynt hwy uchod; gan hyny na chwynwn, eithr gwedd'íwn am weled llawer yn ei lle. Y tro cyn yr olaf y gẅelais hi, gofynais iddi, A yw eich meddwl yn caru Iesu y Ceidwad mawr digonoí yn yr amgylchiad isel yma ? Ebai hi, " Ydwyf yn caru Iesu Grist. Bu yn dda gan fy meddwl, yn dda iawn gan fy nghalon, eich clywed chwi yn pregethu ein Ceidwad anwyl. Do, yn dda genyf fil o weithiau am hyny." Y tro diweddaf yr aethym i'r tŷ, dywed- wyd wrthi fy mod yn yr ystafell. Gwedi agoryd ei llygaid, edrychodd yn graff, a dywedodd ddigon i beri gwybod ei bod yn fyadnabod, a gwenodd ynanarferol o siriol, hyd syndod, wrth ystyried ei bod mor ddwfn yn yr afon sydd rhwng y ddau fyd! Gwenu fel y cyfiawn a obeithia pan y byddo rnarw, oedd hyn. Cadwodd cynnaliaeth Dnw ei gwybodaeth iddi hyd yr amser y gailodd ei chyfeillion ddeall ei hymadroddion. Cym- merodd y íFrydlif yn llonydd iawn, nos Wener, Gorphenafl8, yn 70 mlwydd oed; pregethodd Mr. Griffiths o Bethel ar yr achlysur, y nos cyn dydd y claddedigaeth. Cludwyd a chladdwyd ei chorfF hi mewn modd Cristionogol yn nghladdfa Bethlehem, gerllaw Bangor, dydd Mercher, Gorphenaf 23, 1834. Pelh mawr a thragywyddol ei ganlyniad ydyw bod yn grefyddol gartref, gofalu am ddangos gwerth crefydd a'i gogoniant i'r teulu, rhyddhau ein cydwybodau gan eu cadw yngydwybodau dirwystr, trwy weith redoedd da gogyfer a phob cytìeusdra. ac