Skip to main content

Y DYSGEDYDD. ÍÍhif. 154] HYÖREF, 1834. [Cyf. XIII. COFIANT MISS SARAH BEYNON, LLYNLLEIFIAD. " See in what peacc a Christian can die."-----Addison. " Marw a wnelwyf o farwolaeth yruniawn."-----Balaam. ÀR y 7fed o Orphenaf aiweddaf, yn 21ain mlwydd oed, bu farw o'r darfodedigaeth, Sarah merch i Ddafydd a Margaret Beynon o'r dref hon. Mae anfarwoldeb yr enaid yn wirionedd o'r pwys mwyaf, a'i drosglwyddiad o'r sef- yllfa bresennol i'r un ddyfodol sydd wedi ei benderfynu gan ddeddf digyfnewid Iôr,— "Gosodwyd i ddynion farw unwaith." Ueddf ydyw marwoldeb y rhaid i bawbufuddhau iddi. Dyledydywy rhaid ei thalu. Brwydr ydyw y rhaid ymarfogi i fyned iddi; canys, "Nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw.1' JVlae''rmarch gwelwlas yn gwneuthurgalan- astra echrydus yn y dyddiau presennol trwy farwolaethau disymmwth iaẃn. Dynion yn nghanol eu cryfder, ar hyd ein heolydd, a sethrir ganddo mewn eiliadi dragywyddol- deb. Brydiau ereill daw yn arafaidd i ddrws yr ystafell, a gweryra nesdychrynu yr enaid allan oM drigfan ddaearol yn nghanol dagrau caredigion. Yn y dull a nodwyd olaf y cyflawnai ei orchwyl ar ein chwaer ymadawedig. Ganwyd y drengedig yn Machynlleth. Arddelwyd hi yn ei pherthynas â chyfam- hiod trwy weinyddiad yr ordinhad o fedydd gan y Parch. J. Griffiths, Tŷddewì. Ar- weiniwyd hi gyda'i rhieni gan "ddyrys droadau olwynion rhagluniaeth" i'r dref hon. Addysgwyd hi ganddynt ynegwydd- orion crefydd Crist, a derbyniodd ddylanw- adau gwerthfawr esiampl rinweddol. Pan oddeutu 16 oed tueddwyd ein chwaer ieuanc i gyssegru ei hunan o blaid yrachosgogon- eddusaf, wrth yr hwn yr ymlynodd gyda'r gwresawgrwydd mwyaf hyd angeu. Nodweddid hi gan symlrwydd crefyddol. Ynddi y cyfarfu sirioldeb heb wamaldra, a symlrwydd heb sarugrwydd. Nid aml y gwelid hoender ieuenctid wedi ei gydblethu mor brydferth â difrifoldeb efengylaidd; a da pebyddai ieuenctid yr oes yn ei hefelychu 37 yn hyn, oblegid nis gellir eu gwisgo â thlysau prydferthach, na'u haddurno â chadwyni gwerthfawrocach. Yr oedd yn llawn brwdfrydedd yn achos icchydwriaeth ereitl. Teimlodd effeitbiau dymunoì crefydd arei meddwl yn ei bywyd, a phrofodd werth gwirionedd yn y dyn oddimewn "pan yn marw." Yr oedd yn feddiannol ar ysbryd cyhoedd yn achos rhinwedd, ac ymddyddanai â'i chyfeillion fel un yn teimlo y pwys o gydwybodol ymarferiad à chrefydd yn moreu yroes, ond yn enwedig felly yn ei chystudd. Dywedai nad oedd ganddi yn ngwyneb goruchwyl- iaeth marw, ond rhoddi ei hun i ofal yr "hwn sydd abl i gadw yr hyn a röddirato erbyn y dydd hwnw." Gorweddai ei henaid ar ei Phrynwranwyl. Gorweddai eiheuaid arno am gymmeradwyad a derbyniad gyda Duw. Llonid ei meddwl yn fawr trwy fod ei chyfeiltion yn ymweled â hi, annogai hwynt i ymofyn am grefydd dda mewn iechyd, "i lynu o íwyrfryd calon wrth yr Arglwydd," ac i fod yn "flỳddlawn hyd angeu." Yn amyneddgar yn ei chystudd. Cyn- nysgaeddwyd hi ag "ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr;" am hyuy yr oedd hi yn "fon- cddigaidd a hawdd ei thrin.'" Er ei bod yri gwybod fod ei chyfeillion yn mwynhau o'r gwleddoedd yn y cyssegr, er y dymunasai hithau fod yn eu plith, ac er bod "cyntáf- anedig angeu yu bwyta ei chryfder, ond er hyn i gyd ni phechodd ein chwaer, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn yr Ar- glwydd; oud yn ddirwgnach a chyda dewr- der Cristionogol ymòstyngodd i'r driniaeth gan gydnabodhynawsedd ei Thadnefol tuag ati. Derbyniodd ddylanwadau helaeth o gysurou cyfammod Duw yn ei henaid, nes yn aml y dywedai yn orfoleddus, wMor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw."