Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 152.] AWST, 1834. [Cyf. XIII LLYTHYR AT WEINIDOGION YR EFENGYL. M AE amry w o honoch yn arferol o ddar- llen y Dysgedydd ag ydych nid yn unig yn frodyr i mi, am ein bod yn cydlafurio yn ngwinllan Iesu Grist, ond yn gyfeillion neillduol i mi, am ein bod wedi cymdeithasu llawer â'n gilydd, wedi bod yn cynghori ac yn dysgu ein gilydd, wedi bod yn aml yn rhybuddio a chyfarwyddo ein gilydd, ac wedi bod yn cryf hau breichiau ein gilydd yn ngwaith yr Arglwydd. Chwychwi yw y rhai, fy anwyl gyfeillion, ag yr wyf yn ystyried fy han yn eu hanerch yn y llythyr presennol. Mae er pan ddaethym o'r ysgol i weinid- ogaethu yn y lle hwn ddeugain mlynedd o fewn ychydig wythnosau. Mwynheais, fel y gŵyr llawer o honoch, iechyd rhagorol hyd o fewn y tri mis diwcddaf; ond er y pryd hwnw yr wyf yn Ilesg ac yn wanaidd, a'r rhan fwyaf o'r amser mewn poeu mawr. Nid yw y dengain mlynedd a dreuliais yn y weinidogaeth yn ymddangos yn bresennol i mi ond rhyw dymhor byr iawn. Mae yn gysur mawr genyf feddwl fy mod wedi treulio fy oes yn gysylltiedig ag achos a phobl yr Arglwydd. Y mae ei achos ef wedi bod yn nes at fy nghalon nag un achos arall, a'm cyfeillion penaf ar fy mhererin- dod oeddynt y rhai ag oedd yn ofni Duw, ac yn cadw ei orchymynion. Y mae yn gysur genyf nad wyf wedi llwyr esgeuluso fy nyledswydd i ymddiddan â'm cyfeillion, yn neillduol fy nghyfcillion ieuaiuc, am werth eu heneidiau, a'r angen- rheidrwydd iddynt roi eu hunain yn ddioedi i waith a gwasanaeth Iesu Grîst; ac yr wyf yn dymuno diolch i Dduw, o'ni calon, nad yw fy llafur yn hyn yn gwbl ofer. Nid wyf yn gwybod nad ymddengys yn y dydd tnawr, fy mod wedi bod yn fwy llwydd- iannus i ennill eneidiau at Grist yn y ffordd hon nag yn fy ngweinidogaeth gyhoeddus. Ond y mae argraff dwfn iawn ar fy meddwl heddyw fy mod, hyd yn nod yn hyn, wedi bod yn hynod o fusgrell a diofal mewu 29 cymhariaeth i'r hyn a ddylaswn fod, ac yr wyf yn ofni oblegid fy esgeulusdra yn hyn, nad wyf yn lân oddiwrth waed pawb oll. Yr ydwyf wedi bod yn meddwl yn fynych gyda dwysder mawr am yr ugeiniau o fy nghydnabod yn y gymmydogaeth hon, ag ydynt wedi marw yn anmharod yn ol pob tebygolrwydd, y rhai y bum i yn fynych yn ymddiddan â hwynt,—ac O mor Ileied a ddywedais wrthynt am y perygl o farw yn annuwiol! Ni chaf gyfle i'w rhybnddio byth mwy. Un o'r addunedau dwysion ag yr wyf wedi eu gwneuthur yn nydd fy noluryw, os bydd i'r Arglwydd fy arbed dros ychydig yn hŵy, achaniatâu i mi nerth i fyned i mewn ac allan yn mblith fy nghyf- eillion, ybyddaf yn fwy diwyd, ymdrechgar a ffyddlon yn y peth hwn nag y bum erioed. Ac O, fy nghyfeillion anwyl, yr wyf yn dymuno i bob un o honoch gymeryd y peth at eich ystyriaethau difrifol. A ydych yn sicr eich bod yn lân oddiwrth waed pawb oll ? A oes neb o'ch cydnabod wedi marw yn eu pechodau ag y gallasech chwi eu rhybuddio o'u perygl, ac ni ddarfu i chwi wneuthur hyny erioed ? Os ydym am ymroddi yn ddifrifol i'r peth hwn, fel rhai sydd raid iddynt roddi cyfrif i Dduw am ein hymddygiadau; yn 1. Rhaid i ni fod yn ofalusiawn nabydd- om un amser yn anaddasu ein hunain i ymddiddanion crefyddol trwy un math o ysgafnder mewn tymher neu ymddygiad. Y mae gormod o ymadrodd ffol a choeg- ddigrîfwch yn ein plith, pethau nid ydynt weddusineb, ondyn neillduol gweinidog- ion efengyl gogoniant Mab Duw. Buddiol iawn a fyddai i ni drysori yn ein cof lawer o fyr-hanesion pwysig a defnyddiol, cy- mhwys i ddifyru ac adeiladu ein cyfeillion. Ond yr wyf yu meddwl y gweddai i ni fod * , yn ofalus iawn i beidio adrodd mewn teulu* * ■ oedd ystoriau gwag, heb un tuedd ynddynt* ond cynhyrfu a magu ysgafnder,ysbryd, a ' chwerthiniadynfyd. „m.\ ■