Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 151] GORPHENAF, 1834. [Cyf. XIII. COFIANT Y DDIWEDDAR MRS. CATHERINE EVANS, Gwraig y Parch. John Evans, Gweinidog yr Annibynwyr yn Beaumaris, yr hon a fufarw yr wyth/ed dydd o Fawrth diweddaf. PliIF ddyben Cofiant ydyw trosglwyddo mewn banes effeifhiau gras ar y tueddiadau, ac amlygu rhinweddau ymarferol er addysg i'r by w ; a chan fod gan esiaraplau y fath effaith ar ddynion, gweddus gan hyny yw cyhoeddi hanes y rhai a fu yn perarogli yn eu bywyd, ac a ddangosant effeitbiau y gwirionedd arnynt, ac a ymlynasant wrth grefydd Mah Duw hyd eu bedd. Fel hyn y derbynir gan ereill, mewn ychydig amser, lafur oes ddefnyddiol a llafurus: felly cyf- iwynir i'ch darlleuwyr hanes y fam hon yn Israel. Ganwyd Mrs. Evans y 6fed o Awst 1775. Ei thad, Mr. John Williams o'r dref uchod, ydoedd gyfreithiwr o ran ei alwedigaeth, ac fel y rhan amlaf o'r alwedigaeth honno yr ydoedd yn ddiystyr o grefydd, dyeithr i ymarferiad â moddion gras, ac ychydig o lywodraeth gan Air Duw ar ei feddyliau, yr hyn ydoedd yn anfantais fawr i faga teulu yn grefyddol; ond er hyn yr ydoedd ei mam yn proífesu gyda'r Annibynwyr, ac yr oedd hi yn barchus iawn o Air Duw, a thebygai i fam a nain Timotheus, yn dysgu ei merch mewn gwybodaeth o grefydd a pharch i ordinhadau y nef. Yr oedd Mrs. E. er yn foreu yn barchus o'r Bibl, ac o ran tueddiadau ei meddwl yr oedd yn syml, a myfyriai yn aml ar freuolder oes dyn, a thragywyddoldeb, yn nghyda'r angen- rheidrwydd am fod yn barod i wynebu angeu. Cymerodd hyn le gan mwyaf trwy fod ei mam yn ei dwyn yn aml dan weini- dogaeth y Gair ac i ymarferiad â moddion gras. Ac Ŵl yr oedd y Parch. W. Jones, Gweinidog y dref hon, yn cadw cyfarfod neillduol unwaith w»t> wythnos i egwyddori a hyfforddi plant, ymddyddanai à hwynt mewn iaith a ddeallent, a chyfansoddodd amrai liymnan priodol i\v hamgyffrediadau, a than fendith yr llollalluog bu moddion fel ayn yn offerynol i beri i Mrs. E. gyflwyno 25 ei hun i'r Arglwydd yn moreu ei hoes.— Ymddyddanai Mr. Jones mor serchog â pblant ei ofal, fel y soniai gwrthddrych yr ysgrif hon yn aml gyda'r hyfrydwch mwyaf am dano, ac am y cysur a fwynhaodd yn y cyfarfodydd a enwyd. Cychwynodd ei thaith grefyddol gyda sêl ac awyddfryd mawr am fod yn ogoniant i enw yr Ar- glwydd, yn ddefnyddiol yn y winllan, ac hefyd yn gymwynasgar i weision Cristj a chyda yr un sercháwgrwydd y parhaodd tra yu y byd hwn. Derbyniwyd hi yn aelod rheolaidd yn unarbymtheg oed, a hi a gafodd y fraint o lynu gyda'r achos hyd ei bedd, ermai trwy lawer o rwystrau. Yr oedd o Çeddyl- iau cryfion a gwrol, nis dychrynid hi â bwbachod erlidigaeth, ac nis denid hi ychwaith â gwên ffuantus y byd. Gadaw- odd Mrs. E. ei chartref, ac a aeth i wasanaeth Arglwydd Bulkeley, Marquis y Bath, &c. Ue yr oedd angenrheidrwydd mawr am ras a symlrwydd i gadw ei Ue, gan fod gwein- idogion boneddigion yn gyffredinol yn Ued ddiystyr o bob peth, yn wyllt ac yn ben- rhydd, a byddent yn aml yn ddigofus wrth y rhai na chydredent â hwy. Dyoddefodd Mrs. E. raddau o erlidigaeth. Un tro neill- duol achwynwyd wrth Arglwydd Bulkeley y byddai yn myned i'r capel, ac i wrandaw i oedfaon gras. Galwyd hi ger bron, a rhoddwyd ei dewis iddi, pa un ai gadael y capel neu adael gwasanaeth ei arglwydd- iaeth. Parodd hyn iddi synu yn ddirfawr, a gofynodd a oedd rhyw beth yn ei gwasan- aeth yn ei anfoddloni. Atebodd nad oedd. Yna hi a dorodd i wylo, a dy wedodd fod yn ddrwg ganddi adael y teulu, ond nad oedd dim ymwared, oblegid nis gallai adael ei chrefydd. Pan welodd Arglwydd Bulkeley hyn, yntau a wylodd hefyd, ac a ddywed- odd, os oedd ganddi gymaint o afael mewn crefydd a hyny, na ddywedai efe ddim yn