Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 150] MEHEFIN, 1834. [Cyf. XIII. COFIANT WILLIAM WlLLIAMS, DOLWYDDELEN. Mr. William Wìlliams, gynt o'r Fron, Dolwyddelen, swydd Gaernarfon, a fu farw yr 21ain o Orphenaf diweddaf, yn saith a deugain mlwydd oed. Yr oedd yn glochydd er pan yn bedair ar ddeg oed, (a hynod fod ei fab Thomas wedi caei y glochyddiaeth pan ond deuddeg oed, a dywedir ei fod yn uodedig hylaw a ínédrus ýn ei sẅydd. Mr. William Williamsadderbyniodd yr Ymneill- duwyr Cynnulleidfaöl gyntaf i bregethu yn Nolwyddelen. Cofrestrodd ei dŷ, a bu pre- gethu ynddo tua deuddeng mlynedd, hyd nes y cafwyd yno gapel. Bu agos iddo golli y glochyddiaeth am dderbyn a chroesawu y pethauy &c. Er fod y Person o hono ei hun yn un tra hynaws, ond etto am fod ereill yn ei gy- thryblu ac yn ei flino am adael i sentar fod yn glochydd, gofynodd iddo un diwrnod, " We! William Williams, pa un ai ymadael yn hollol à'rbobl yna a wnewch, neu ymad- ael â'r glochyddiaeth ?" Atebodd yntau} "Gyda'ch cennad, Syr, gwell genyfymad- ael â'r glochyddiaeth." Ni soniwyd wrtho byth drachefn am golli ei swydd. Cafodd lonydd, cadwodd ei le fel clochydd, ac fel aelod hardd o'r EglwysGynnulleidfaol hyd ei ddiwedd. William Williams ydoedd ddyn lled wan ac afiach o gorph, distaw a thawel o dymher. Yr oedd yn wladwr da, gwasanaethgar iawn i'w gydblwyfolion-'-wedi bod yn arolygwr y tlodion lawer blwyddyn, a chadw ei le a'i gymeriad yh rhagorol rhwng yr isel a'r uwchradd. Ac yr oedd hefyd yn ddyn da yn ei deulu: gwr da, tad da, a Christion da, i olwg ddynol,—yn gallu pob peth trwy Grist yr hwu oedd yn ei nerthu. Nid ydym yn son am ei wendidatt a'i bechodau, oblegid eìn bod yn credu fod Duw wedi euhanghofio; ac nid da cofio pechodau ag y mae ef wedi eu maddeu. Ymddengys fod Williatn Williams yn un tra ucillduol ohyddysg, parod, a gwybodus 21 yn y Bibl; wedi ei ddarllcn gynnifer o weithiau, fel ag yr oedd bron yn gwybod pa le, a pha fodd y mae darllen pob adnod, neu o leiaf yn Ued hyddysg o bob hanes ysgrythyrol. Pan y clywai rywun yn dar- llen yn anghywir yn y capel, dy wedai wrtho yn arafaidd a mwynaidd, " Mae yn ddrwg genÿf nà byddai Bibl yr areithfa fel ein Bibl ni gartref. Paham na cheid pob Blbl yr un fath? Dyma y dull y byddai yn cerÿddu y darllenwyr anghywir. BuWilliam Williams yn dra gwasanaeth- gar Tw gydoesolion,—yn Uafurus, caredig a hunanymwadol iawn i gynnal yr achos santaidd pan yn ieuanc a gwan, a'i deulu yntau yn fawr. Gadawodd weddw ac wyth ö blant i alaru ar ol gwr gofalus a hynaws, tad tyner a gwerthfawr ei gynghorion.— " Ystyr y perflàith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnef- edd." Y mae hanes pobl yr Arglwydd yn eu bywyd a'u marwolaeth, mewn Uawer ystyr, yn un o'r pethau mwyaf defnyddiol a drosglwyddir gan yr argraffwasg. Y mae hanesion duwiolion ymadawödigganmwyaf yu nerthol iawn 1 dynu sylw y darllenydd, i'w ddwyn i ddymuno santeiddrwydd, ac i ymofyn am barodrwydd i fyned i Iwybr yr holl ddaear. Y mae cofiant y rhagorolion hyn yu tueddu yn fawr i halltu y ddaear, 'i ennyn yn mynwesau teulu yr Oen deimlad- auhyfryd amelys, ac i godi dymuniadau ynddynt i fod yn aiddgar ac ymdrechgar gyda gwaith eu Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, Y mae darllen eu hanes yu eu profiadau melys, ac yn eu golygiadau dymunol ar ogoniant Person Crist—cyflawn- der ei drysorau-"-a digönolrwydd ei gyf- iawnder, a hyny pan fyddont bron yn safn marwolaeth, yn rhyfeddol o rymus i nerthn y gwan a thawelu yr ofnus. Gan hyny, ystyriwn ddiwedd y perffaith, fel y gwelom mor dawel y gall Cristion farw, Llanrwsty Mawrth 3,1834. E. D.