Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 149.] MAI, 1834. [Cyf. XIII. COFIANT WJLLTAM JONES, CAEAETHGEN. Y R ydoedd gwrthddrych y cofiant hwn yn adnabydduis i'r rhan fwyaf o Weiuidogion yr Annibynwyr yn Nghymmru. William Jones oedd fab i John a Margaret Rowlands o Gaeaethgeu, yn mhlwyf Cemmes, swydd Drefaldwyn. Ganwyd ef yu y flwyddyn 1748. Ni bu yn briod. Nid ydwyf yu gwybod ond ychydig am dauo yn rhan foreuol ei oes, na pha fodd yr effeithiwydei feddwl gyntafgan argraffiadau crefyddol. Mae yn ddiau fod ymarferiadau crefyddol yn dra anaml y pryd hwnw. Yr wyf yn meddwl mai y Trefnyddion Calfin- aidd a ddaethant i bregethu gyntaf i'r ardal hon, ac efe a ymunodd à'r Trefnyddion yn y Cemmes, a bu yn proíFesu gyda hwynt ry w gymaint dros 25 o flynyddoedd. Daeth y Parch. W'illiam Hughes o'r Dinas i bre- gethu i fan gyfagos i Gaeaethgenj a elwir Drws-y-nant, er's oddeutu 30 mlynedd yn ol, a byddai William Jones yn arfer myned i wrando yno, ac yn gwahodd yr Annibyn- wyr i'w dŷ. Er ei fod y pryd hwnw yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, etto nid oedd wedi ei ddallu gan sêl bleidiol, ond dywedai yn fynych nad caru yr euw yr oedd, ond ei fod yn caru pawb a ddygai ddelw yr lesu. Yn fuan gwedi hyny ymunodd â'r Anni- bynwyr, (yrydoedd dau gwedi yinuuocyn hyny ychydig) ac nid w,yf yn gwybod fod un tramgwydd yn achoso'i ymadawiad oddi wrth y Trefnyddion, oud fod yrenwadarall yn gyfleus iddo ef; ond pa fodd bynag efe a ymunodd, a'r ddau ereill hefyd, gyda'r Annibynwyr, ac felly íìurfiwyd eglwys yn Nrws-y-nant. Clywodd yr ysgrifenydd ef yn dweyd lawer gwaith, fod yno gyfeill. achau hyfryd gyda'r pedwerydd, sef Pen yr eglwya, a buont felly am ryw ysbaid o amser; ond yn raddol ycbwanegodd Duw at ei eglwys. Y mae'r tri hyny wedi myucd i fyd arall yn awr, ac ugain yn bresennol am bob un o bonynt yn proflesu yn yr 17 eglwys houno. Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain. Mae yn ddiau nad oedd William Jones heb wendidau, fel ereill, ond fel y dywedodd y Bardd, " Beiau gladdwyd, rhai nîa gwelir Mwy na phechod Iudabyth." Ond gyda golwg arno y mae yn ddiammheu na cheir cymaint o rinweddau, ond yn anghyfl'redin, yn ymddangos yn yr un dyn ag a ymddangosasant ynddo ef. Nodwn rai o honyuí. Fel gwladgarwr yr ydoedd yn rhagori yn mhell ar bawb yn y rhinweddhon, a thystia pawb a'i hadwaenai nad oes yma mo'i gyfrelyb i'w gael. Yr ydoedd mewn hedd- wch â pìiawb fel cymmydog. Nid oes neb yn cofio ei fod raewn ymrafael â neb trwy ei oes. Yr ydoedd yn dewis yn hytrach goddefcara iiacbolìi tawelwchcymmydogol. Onid yw hyn yn rhinwedd fawr? Mewn teimladau tuag at y tlawd a'r rheidus efe a a ragorai yn fawr. Clywir cwynfaniadau y dosbarth hwn wedi colli eu tyner uoddwr. Pa faint o grwydriaid llymion a ddygodd, i'w dŷ? Pa sawl cylla wag a ianwyd ganddo? a pha gymaint mewn anwyd a noethni a achleswyd ganddo ef? Clywaf gwyno trwm ac ocheueidio trwy yr ardal etto, am fod William Jones wediein gadael. Ewyllysiwr da i bawb ydoedd ef. Os dy- gwyddai i aflwyddiant a chyfyngderau gyfarfod â rhyw rai, eäeithiai ar ei feddwl yn ddwys pwy bynag fyddent, ac ymdrechai à'i holl egni eu cynnorthwyo yn eu cyfyng- derau. Nid yn fynycb y mae'r cyfryw i'w cael. Dy wedai pawb am dano nad oedd ef yn ewyllysiwr drwg i neb, a phan glywai fod rhai yn llwyddo byddai yn Ilawenhau. Mae yn ddiau fod y pethau uchod yn rhinweddau a berthynant i ddynoliaeth, ac yn bethau a gymeradwyir ac a orchymynir yn y gwirionedd, a bygythir gwlad a pher- sonau pau fyddo y pethau hyn yn ddiífygiol ganddynt.