Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 148 ] EBRILL, 1834. [Cyf. XIII BYWYD A MARWOLAETH ANN REES. MrS. Ann Rees, gwraig y Parch. B. Rees, Llanbadarnfawr, Ceredigion, ydoedd gyntafanedig y Cadben J. Davies a Mrs. M. Davies, Albiou House, Marine Terrace, Aberystwyth. Gauwyd hi yn y flwyddyn 1797. Cafodd gymaint o ddysgeidiaeth yu ei hieuenctid, fel y cyrhaeddodd wybodaeth helaeth mewn ysgrifen, rhifyddiaeth, a Saesoueg. Er's tuag wyth mlynedd yu ol, bu yn glaf iawn; yr oedd arwyddion angeu yn amlwg a chryf iawn yn ei gwedd: ond Duw adrugarhaodd wrthihi y prydhwn— " iachaodd hi ar ol ei dryllio." Gweiodd yr Arglwydd fod yn dda i roddi iddi hi fen- dithion lawer ar y eystudd blin hwnw, fel y mabwysiadodd, gyda phriodoldeb mawr, eiriau'r Salmydd, "Cyu fy nghystuddio, yr oeddwn yu cyfeiliorui: ond yn awr cedwais dy air di. Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau." Tau y cystudd hwn, dywedodd, "Os byth ycaf godi, mynegaf adadganaf ogon- iant íesuGrist yumhob lle." Cod- a gafodd, a chyílawni ei hadduned i'r Arglwydd a wnaeth. Yn fuau ar ol codi o'r cystudd hwn i iechyd, cyflwynodd ei hun i'r Ar- glwydd ac i'w bobl ef, trwy g) iumraod tragywyddol, yr hwn nid anghofir, mewn cysylltiad â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Nghapel S'i'on, Aberystwyth. Y geiriau melys hyny o eiddo ein Hiachawdwr a fuout yn foddion, yn llaw yr Ysbryd Gian, i'w galluogi i gyflawni yr addewid fawr a wnaeth i'r Arglwydd,—"Deuwch ataf fi, bawb ag y sydd yn flindcrog a llwythog, a mi a esmwythàf arnoch. Cyuierwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, cauys addfwyn ydwyí', a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau: canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn." Profodd y geiriau hyn yn wledd felys yn ei newyn a1i syched ysbrydol—yn oleuni clir yn ei thywyllwch—yu ddiogelwch cadarn yu ei pheryglon—yn gynnaliaeth gref yn 13 ei chroesau—yn feddyginiaeth gymhwys i'w chlwyfau—yn chwalfa fawr i'w hofnau —;ic yn flaen-brawf sicr o'r orphwysfa ddedwydd dragywyddol sydd etto yn ol i bobl Dduw. Fel penteulu yr oedd Mrs. Rees ynhynod o weifhgar, diwyd, a threfnus, yn ei chyf- lawniad o'i dyledswyddau teuluaidd. Fel gwraig yr oedd yn llawn cariad, tir- iondeb, a gofal am ei hanwyl briod. Ni fynai ei rwystro na'i flino, mewn un modd, yn ei swydd bwysig. Llawenydd ei chalon ocdd ei Iwyddiant a'i ddedwyddwch ef.— Dywedodd unwaith wrth ei phriod, gyda phwyll a phwys neillduol, "Mae arnaf ofn mawr nad oes ynof gymaint o gariad at Dduw ag sydd atoch chwi: byddai yn well genyf na'r byd, pe gwyddwn fy mod i yn caru yr Arglwydd, fel y gwn fy mod yn eich caru chwi." Fel Cristiijìi. HofF iawn oedd ganddi ddysgu ac adrodd hymnau nefoìaidd a phrof- iadol, yn Saesoneg a Chymmraeg.—Meîys i'w henaid oedd chwilio yr Ysgrythyrau. Dywedodd iddi lawer gwaith, ryw fodd, agor y Bibi ar eiriau hynodo gymhwys i'w hamgylchiad a'i phrofiad yr amserbwnw, y rhai a fu iddi hi megys afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. Dyma air mewn pryd i'r diffygiol. Treuliai ran fawr o'i hamser mewn gwîìddiau dirgelaidd, dwy a thair gwaith y dydd. Mynych y tywallt- odd ddagrau wrth orsedd gras. Gofidiai yn í'awr eisiau ei bod hi yn tebygu mwy i Iesu Grist. Credai yr angenrheidrwydd o ymarferiad cydwybodol o grefydd drosti ei hun. Yr oedd yn ofni ei bod hi yn pinio ei chrefydd wrth ei phriod—ei bod yn rhyw feddwl a disgwyl cael flhfr a nodded yr Holîulluog o achos ei bod hi yn briod âgwas iddo. Fel Cristion yr oedd yn dra diwyd gyda moddion gras—haelionus a ífyddlon i gyfranu at achos crefydd—a dyoddefgar. Cafodd, fel ereill o ganlyuwyr yr Oen, ei