Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 147.] MAWRTH, 1834. [Cyf. XlH. BYR.HANES Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS DAVIES, GYNT 0 LANUWCHLLYN. GANWYD Thomas Davies yn Nghwm- clegernant, Llaubryumair, yn y flwyddyn 1751. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuanc iawn, ac annogwyd ef i ddechreu pregethu yn bedair ar bymfheg oed. Gan fod genyf ei Ddyddlyfr, wrth ddarllen y cyfry w sylwaf fel y canlyn: Fel dyn. Nid oedd ond gwan ac afiach o gorph, isel a phruddglwyfus o ysbryd:— neillduol o siriol a llawen ar amserau, bryd arall yn fwy distaw, os nad yn anfwyn. Fel ysgotaig. Yr oedd yn rhagori ar y cyffredin am ddysgu. Gwedi cael pob annogaethgan eiberthynasau a chan egl wys Llanbrynmair, aeth i Athrofa ý Fenui am rywgymaint o amser; ac yna i Deutry, Bwydd Northampton,— yr athraw ydoedd Dr. Davies. Er ei fod dan yr angenrheid- rwydd o adae! ei ysgol yn fynych oblegid ei afiechyd, etto yr oedd yn rhagori ar ei gyd- fyfyrwyr, yn dyfod yn mlaen yn gyflymach. Mewn chwech neu saith o flyuyddau daeth yn ysgolaig da, nid yn unig mewn ieith- oedd, ond hefydmewn gwybodaeth gyffred- inol acangenrheidiolj fel y tystia rhai fod golwg iddo gael ei wneuthur yn feistr athrofa pe buasai byw yn hwy. Yr oedd yn ddifyrwch mawr ganddo ymddyddan am bethan dadleugar a dyrys. Safai yn fynych yr ochr wan ueu ddrwg i'r ddadl, er mwyn profi cadernid ei gyfcillion. Byddai yn hoff iawn gan ei hen gyfeillion ei waith yn ymweled â hwy, oblegid byddai à'i holl egui yn eu dysgu mewn pynciau, a rhyw bethau naturiaethol ueu grefyddol. Pan y byddai yn lled iach yr oedd yn dra diwyd i gyrhaedd am gynuydd iddo ei hun, ac i ereill. Fel Cristion. Yr ydoedd yn neillduol dyner ei gydwybod, yn mawr ofni pechu, , yn hyddysg iawn o bla ei galon a dichellion y gelyn cyffredin. Y mae yn ysgrifenu fel y canlyn, ond fy mod yn cyfieithu: "Mawrth 13, 1770. Gwirioneddau ys- brydol i fyfyrio arnynt bob dydd. 1. My- fyrio ar fy sefyllfa neillduol fy hun, gyda golwg ar yr iechydwriaeth dragywyddol. 2. Ar ogoniant Duw, ei briodoliaethau, ei waith, a'i ragluniaeth. 3. Ar y bendigedig Arglwydd Iesu Grist, yn ei berson a'i swyddau, ei gariad a'i siamplau. 4. Ar fy nghyflwr truenus wrth natur. 5. Ar y Bibl santaidd, yn ei holl drefn, a'i wersi ysbrydol a gwerthfawr. 6. Ar fy ngwaeledd a'm gwendidau beunyddiol. 7. Ar gyfrwysdra a hudoliaethau Satan. 8. Ar ddaioni dynion ataf fi, a pha fodd y byddaf finnau o fendith iddynt hwy. 9. Gogoniant yr eglwys or- foleddus yn y nef. 10. Yn fy holl waith ac yn fy holl fiyrdd, pa fodd i ryngu bodd Duw, ac i fod yn dderbyniol yn ei olwg, ac hefyd i fod yn ddefnyddiol yn ei dỳ." Y mae ei Ddyddlyfr yn trafod llawer à dadleuon yr oes honno, ac am wahanol lyfrau. Dybygwn ei fod yn nodedig ddiwyd yu darllen ac yn chwilio gwaith awdwyr, a bod ganddo fawr gariad at lyfrau, a blas i ddarllen. Mae yn ymddyddan yn nodedig barchus am ei weinidog, y diweddar Barch. Richard Tibbot. Dywed fel hyn, "Y mae Mr. Tibbot mor neillduol lednais a boneddig- aidd ei ysbryd, a charedig a diragfarn at bawb—nis gall neb fod yn gaeth ato, oddi- eithr yn achos ei athrawiaeth eglur, llym, ac ysbrydol." Mai 11, 1770, dywed fel y canlyn,— "Neithiwr pregethodd Mr. Tibbot oddiwrth Heb. 2. 1. Sylwodd yn I Ar y pethau yr ydym i'w dal. 1. Egwyddorion sylfaenol crefydd. 2. Gwaith gras yn yr enaid. 3. Ymarfer pob dyledswydd er gogoniant Duw. —II. Y mawr angenrheidrwydd i ddal ar y pethau a glywsom. 1. Y golled fawr o'u colli. 2. Oblegid y mae egni Satan yn erbyn i ni eu cofio. 3. Y daioni o'u dal.— III. Pa fodd y galluogir ni i ddal pethau nefol. 1. Rhaid eu gwerthfawrogi. 2. Rhaid i ni gael profiad o honynt. 3. Rhaid eu gosod mewn trefn yn eiu meddyliau.