Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 146] CHWEFROR, 1834. [Cyf. XIII. YSTORI LOUISA. YsTORI Louîsa a adroddlr gan Welnidog duwiol yn America fel y eanlyn:—" Yn fuan ar oldechreufyngweinidogaeth, canfyddais yn y gynnulleidfa foneddiges brydferth, o ymddangosiad hynod o iachus a by wiog. Nid oedd un o'm gwraudawwyr yn debycach i fyw yn hir, a mwynhau cysuron ybydhwn na Louisa. Nid oedd yn amlygu casineb neillduol at grefydd, ond yr oeddyn dymuno byw yn llawen ahyfryd yn mron hyd ang-eu, ac wed'yn troi yn dduwiol a marw yn dded- wydd. Yr oedd yn ddiwyd yn dyfod i'r eglwys. Ond ar ba fater bynag y byddwn yn pregethu, nid oedd ar ei gwynebpryd hi ond yr arwyddion mwyaf o anystyriaeth a dideimladrwydd. " Un prydnawn gwahoddais foneddigesau iöuainc y gynnulleidfa i gyfarfod yn fy nhý ar amser gosodedig. Daeth Louisa gyda'i chyfeillesau. Fy atncan oedd gwasgu yn fwy dwys at eu hystyriaethau bwysfawrog- rwydd crefydd. Ymddangosai pawb yn yr ystafell o dan effeithiau dwysion, ac yr oedd hithau yn teimlo yn ddwys fel ereill, ond ymdrechai i gelu ei theimladau. Gwahodd- ais bwynt i ddyfod drachcfn yn mhen wythuos. Pan ddaeth yr amser, ilawen- ychais yn fawr weled Louisa yn eu plith. Ymddyddenais â phob un yu ei thro. Ym- ddangosent oll yn deimladwyobwyspethau tragywyddol. Yr oedd Lousìa yn teiuilo yn fawr, ond yr oedd yn Cywilyddio arddel ei bod yn teimlo. Yr oedd wedi dyfod i siarad â mi am grefydd, ac etto ymdrechai yn fawr i ddangos ei difaterwch yn nghylch y mater. Louisa, ebe fi, mae yn dda genyf eich gweled yma heno, yn neülduol am fy mod yn gwybod eich bod yn dechreu teimlo pwys pethau crefyddol. Ond ni roddodd i mi un atebiad. Gofynais iddi, A ydych Louisa wedi bod yn hir yn meddwl am y pethatí byn ? ' Yr wyf wedi hpd yn medd wl bob amser mai pethau pwysig ydynt, ond heb feddwl mor ddifrifol ag y dylaswn.' A ydych yn teimlo y mater yn ddwysaçh yn awr nag y byddech yu arfer? 'Nis gwn, Syr,—yr wyf yn meddwl y dymunwn fod yn Gristion.' A ydych yn teimlo eich bod yn bechadur, Louisa? ' Yr wyf yn gwybod fy mod yn bechadur, am fod y Bibl yn dywedyd fy mod; ond nid wyf yn ddigon teimladwy ohyny.' A ydych yn disgwyl y derbyn yr Arglwydd chwi tra fyddoch yn y cyflwr difater yma? Efe sydd wedi eich creu, ac wedi gofalu yn wastad am danoch, ac yn rhoddi i chwi yn barhaus bob bendith ag yr ydych yn fwynhau; ac etto yr ydych wedi byw lawer blwyddyn heb fod yu ddiolchgar, ac heb ufuddhau i'w orchymyn- ion, ac yn bresennol nid ydych yn teimlo eich bod yn bechadur; ac yn awr, Louisa, rhaid i chwi fod yn golledig, oddieithr i chwi edifarhau am eich pechodau, a gofyn yn ostyngedig ac yn ddiflùaut am faddeüant. A pbaham na wnaech hyn? Oni wyddoch fod Crist wedi marw i wneuthur iawn am eich pechodau? Bydd i Dduw faddeu i chwi er ei fwyn ef, os edifarhewch. Nid atebodd Louisa ddim i hyn; nid ymddang- osai yn ddig, nac ychwaith yn teimlo fawr. Yr wythnos ganlynol daeth Louisa gyda'i chyfeillesau, ac ymddangosai yn fwy teiml- adwy. Wel Louisa, ebe fi, y mae yn dda genyf eich gweled; yr oeddwn yn ofni na chawn eich gweled mwy. 'Yr wyf yn teimlo, Syr, fod. yn bryd i mi ofelu am fy enaid anfarwol. Yr wyf wedi ei esgeuluso yn rhy hir.' A ydych yn teimlo Louisa eich bodyn bechadur? 'Ydwyf Syrt' A ydych yn meddwl fod ynoch ryw deilyngdod i gael eich achub? 'Nac wyf; byddai yn gyfiawn yn Nuw fy ngadael i fod yn golledig.—■ Meddyliwn fod arnaf eisiau edifarhau, ond nis gallaf. Mae arnaf chwant caru Duw, ond nis gwn pa fodd i'w garu.' A ydych chwi yn cofio Louisa fod Crist yn dy wedyd, * Yr hwn nis gadawo'r cwbl, nid al I fod yn ddysgyblimi?' «YdwyfSyr/ Wel Louisa bwriwch y draul. A ydych yn foddlon i roddi i fyny y cwbl er mwyn Crist? A