Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Rnrr. 7.] GORPHENAF, 1825. tcyf. iv. CYNLLYN, NEU Ychyd'g o hanes yr Athrawiaeth sydd yn cae.1 ci gaìio yn GALFIMAETH. Ar olrhoddi ychydig o hanes am fywyd a marwolacth Calvin, dychwel- af yn awr i roddi ychydig o banes yr Athrawiaeth sydd yn cael ei galw yn Galfiniaeth, yn nghyda'rpenderfyniad a wnaed yn Nghymanfa Dort,* mewn perthynas i'r pum pwnc Calfin- aidd. Yr oedd yr enw Calfiniaid mae yn debygol yn cael ei roddi ar y cyntaf nid yn unig i'r rhai oedd yn cofleidio yr Athrawiaeth, ond hefyd y llywodraeth a'r ddysgyblaeth eglwysig a ffurfiwyd * Y Gymanfa uchod a gynnaliwyd yn Holland, a'r achlysur o honi oedd y terfysg a godasai Arminiaid ac Arminiaeth yn ngwladwriaeth ac eglwysi Holand. Hi a ddechreuodd y I3eg o Ragfyr, 1618, a pharhaodd dros bum mis. Yr oedd yn y Gymanfa amryw o wŷr duwiol a dysgcdig o amryw o daleith- au Holand ; a daeth dtiwinyddion o Switzerland, ac amryw o rydd-ddin- asoedd Germani. Anfonwyd hefyd o Brydain bnmp o eçlwyswyr enwog, sef Dr. Carleton, [ esgob Llandaf,] Dr. Hall, Dr. Davenarl, a Dr. Ward drosEglwys Lloegr, a Dr. Balcanqual dros Eglwys Scotland. A hwy oll a roisant eu barn yn erbyn Arminiaeth yn y pum pwuc sydd dan cin sylw. ynGeneca, ac hefyd i'w gwahaniaethn oddiwrth y . Lutheriaid. Ond ar ol Cymanfa Dort inae yr enw yn cael ei roddi ar y rhai hyny sydd yn corleidio ei phrif olygiadau ar yr Efengyl, ac hefyd i'w gwahaniaethu oddiwrth Anuiniaeth. Y maey prifegwyddor- ion a ddysgwyd gan Cah'in yr un ag egwyddorion Augustine. Y mae y brif Athrawiaeth pa un sydd yn cael ei gwahnniaethii oddiwrth Arminiaeth, yn cael ei lleihau i bump o brit bync- iau y rhai a g;ifodd eu chwilio yn Nghymanfa Dort; ac ar ol hyny y maent yn cae| eu galw < Ypumpwnc,' y rhai ydynt fel y canlyn—Rhagar- faethiaâ, Pryncdigaeth neillduol, Llygr- edigaeth gwreiddiol, Galwad effeithiol, a Sicrwydd cadwedigaeth y Saint. Y mae yr hyn a ganlyn wedi ei gy« meryd yn henaf o ysgrifeniadau Cal- vin, a'r penderfyniad a wnaed yn Nghymanfa Dort, wedi eu crynhoi mewn cyn lleied eiriau ag sydd yn bosihl. 1. Y maent yn dal fod Duw wedi dewis rhyw nifer o hil syrthiedig Adda yn N{îUrist cyn sylfaenu y byd i dragywyddol ogoniaiit yn ol ei ar~ faeth annghyfnewitJiol, aco'i rydd ras 2 B