Skip to main content

DYSGEDYDD Rhif. 9.] MI8)i? 1824. [C\F. III. COFIANT SIOR Y TRYDYDD. Mr. Golygwr; Darllenais yn ddiweddar Fucb- draethawd ei Fawrhydi Sior y Try- dydd, mewn dau lyfr wythplyg, gyda neillduol hyfrydwch. Meddyliaf y bydd dyfyniad o ychydigfyr-hanesion am dano yn dderbyniol gan eich darllenwyr. Yr oedd Sior y Trydydd yn fab i Ffrederie, Tywysog Cymru, yr hwn oedd mab hynaf Sior yr Ail. Ei fam oedd Angusta,Tywysoges Saes Gotha. Yr oedd yn blentyn seithmis oed— yn ganlyuol nid oedd ond gwan iawn yn ei enedigaeth. Yn ol arferiad y l!ys nid eedd etifedd ymddangosiadol y goron i gael ei fagu gan neb ond rhyw foneddiges nchelradd. Ond g;in ei fod mor wan, barnwyd yn addas ymddiried gofal ei fagwriaeth i ryw un rrewn amgylchiad canolig; a meddyliwyd am wraig un o ben- garddwyr y Tywysog, yr hon a ym- ddanghosai yn fenyw brydweddol, liwus, ac iachus. Cydsyniodd hithau gyda pharodrwydd i gymeryd arni ofal magwraeth y plentyn. Ond pan hysbyswyd iddi nad ydoedd y plentyn j'ii ol rheolau y llys i gysgu gyda hi, atebodd yn gyflym mewn syndod, " Cymerwch eich bachgen, a magwch ef eich hunain! Pabeth; cymeryd arnaf ofdl magwraeth plentyn, heb 'ddö gael cysgu yn fy mynwcs!'' HoíFwyd gonestrwydd y wraig, gadawyd iddi gael y Tywysog ieuanc, a chymeryd ei ffordd ei hun i'w fagu. Pan oedd Sior yn chwech oed, rhoddwyd ef dan addysg y Doctor Ayscough, yr hwn ydoedd yn gyfaill neillduol i Dr. Doddridge. Ya nghylch y pryd hwn cyhoeddodd y Dr. Doddridge lyfr bychan yn cyn- nwys egwyddorion y Grefydd Grist- ionogol, mewn prydyddiaeth, er lles y genedl ieuanc, a danfonodd rai o honynt at y Dr. Ayscough, yr hwn sydd yn dywedyd mewn Ilythyr at y Dr. fed y Tywysog, Sior ieuanc, wedi dysgu amrai ddalenau o houo, hyd yn nod cyn cael ei gyfarwyddo iran ei athraw i wnenthur felly. "Maeyn sicr," medd Bnch-draeíhydd ei Fawr- hydi, " mai arwydd o ysbryd rhydd y Dr. Ayscough oedd rhoddi yu llaw yr hwn ag ydaedd i deyrnasu ar Loegr, waith blaenor athrofa Ymneillduwyr, am yr hyn y gellir dywedyd ua fu achos nac i'r Athraw, nac i'r Brenin, nac i'r Eglwys, nac i'r Deyrnas, nac i'r byd, edifarhau." A diau fod hyn yu achos o lawenydd i bob enwad o Ymneillduwyr, heb fod yn niwaid i'r EglwysSefydledig: a gellirbaniu fod ei yniddygiad rhydd ac anmhleidgar, ei ymlyniad diysgog wrtu Griẁtionog- aeth, a'i awyddfryd gwresog i bob un o'i ddeiliaid gaeí gair Duw yn ei fedd- 2 K